Rôl cyd-gynhyrchu mewn cefnogi pobl ifanc sy'n gadael gofal: crynodeb tystiolaeth newydd!
Rydyn ni wedi cyhoeddi crynodeb tystiolaeth newydd sy'n archwilio sut y gall cyd-gynhyrchu cefnogi profiad cadarnhaol ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal.
Mae tyfu i fyny'n galed, ond i bobl ifanc sy'n defnyddio gofal a chymorth mae'n fwy cymhleth fyth. Wrth iddynt weithio allan beth maen nhw ei eisiau o fywyd, maen nhw hefyd yn wynebu newidiadau pwysig i'r systemau cymorth o'u cwmpas.
Mae'r ymchwil yn dangos bod cyd-gynhyrchu yn helpu creu canlyniadau gwell i bobl ifanc sy'n gadael gofal drwy gefnogi gwneud penderfyniadau, adeiladu rhwydwaith gefnogol a chreu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau bywyd.
Sut ydyn ni'n diffinio cyd-gynhyrchu?
Mae cyd-gynhyrchu'n anodd disgrifio gan ei fod yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol.
Yn ein crynodeb, rydyn ni'n canolbwyntio ar cyd-gynhyrchu fel egwyddor yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:
- lle bo staff a dinasyddion yn gweithio ar y cyd i ddylunio a chynnal gwasanaethau
- mae cydraddoldeb rhwng pobl sy'n darparu a defnyddio gofal cymdeithasol
- mae'n ofynnol i wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud
Mae canfyddiadau ymchwil yn dangos bod cyd-gynhyrchu'n cefnogi gwell profiad i bobl ifanc sy'n gadael gofal.
Yn y crynodeb hwn, rydyn ni'n edrych yn bennaf ar beth mae ymchwil yn ei ddweud am gyd-gynhyrchu a sut y gall:
- gwella perthnasau rhwng ymarferwyr gofal cymdeithasol a phobl ifanc
- gwella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc sy'n tyfu'n oedolion
- rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau bywyd.
Gall cyd-gynhyrchu helpu creu perthnasau cryf a gwella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal. Gall hefyd hybu sgiliau a hyder
Sut beth yw cyd-gynhyrchu da?
Gall cyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda phobl ifanc fod yn heriol. Er enghraifft, gall oedolion wrth reddf arwain, neu amau gwybodaeth neu allu pobl ifanc i wneud penderfyniadau.
Ar y llaw arall, mae’n bosib na fydd pobl ifanc bob tro yn ymddiried mewn gwasanaethau neu ymarferwyr a theimlo nad yw pobl yn gwrando arnynt.
Mae cyd-gynhyrchu llwyddiannus yn herio’r gwahaniaeth yma mewn pŵer ac yn:
- trin mewnbwn pawb yn gyfartal
- weithgar o blaid cynhwysiant a hygyrchedd
- sicrhau bod pawb yn elwa drwy gymryd rhan.
Beth sydd nesaf?
Dyma'r ail grynodeb mewn cyfres sy'n edrych ar wahanol agweddau ar bontio o wasanaethau gofal cymdeithasol plant i wasanaethau oedolion.
Rydyn ni’n cynhyrchu'r gyfres hon mewn ymateb i'n hymarfer gosod blaenoriaethau ymchwil diweddar. Roeddem am ddarganfod pa rwystrau, problemau ac ansicrwydd y mae pobl ifanc yn eu hwynebu fel rhan o’r broses bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion.
Gallwch chi ddod o hyd i'r crynodeb cyntaf yma: Pontio: safbwyntiau pobl ifanc a'u teuluoedd. Cadwch lygad yn agored ar ein gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol am grynodebau newydd.