Skip to Main content

Ymunwch â’n cymunedau ymarfer newydd ar gyfer digidol a data ym maes gofal cymdeithasol

20 Mai 2026

Rydyn ni wedi creu dwy gymuned ymarfer newydd i gefnogi’r defnydd o ddigidol a data ym maes gofal cymdeithasol.

Mae’r cymunedau hyn yn darparu lle i bobl ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru rannu gwybodaeth, datblygu eu hyder a’u sgiliau, a rhoi mewnwelediadau ar waith.

Byddan nhw'n eich helpu i feithrin cysylltiadau ar draws sefydliadau a disgyblaethau, ac i rannu offer, adnoddau ac arferion da.

Ein gweledigaeth yw creu sector lle mae digidol a data yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau gwell.

Dim ots os ydych chi'n arbenigwr mewn digidol a data, yn dechrau arni, neu’n chwilfrydig ynghylch sut y gall digidol neu data gefnogi eich gwaith – mae croeso i bawb yn ein cymunedau.

Cymuned Ddigidol

Ymunwch â Chymuned Ddigidol Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cymuned Ddata

Ymunwch â Chymuned Ddata Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gan ddibynnu ar a ydych wedi bod yn aelod o un o’n cymunedau ni o’r blaen ai peidio, efallai y bydd rhaid i chi greu cyfrif cyn ymuno â chymuned benodol.

Ymunwch â’r Gymuned Ddigidol os ydych chi’n:

  • teimlo bod digidol yn gallu ymddangos yn anodd, ond yn chwilfrydig ynghylch sut y gall gefnogi gofal cymdeithasol
  • gweithio gyda digidol a thechnoleg yn eich rôl ac eisiau cydweithio ag eraill
  • datblygu eich sgiliau digidol ac eisiau rhannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu a dysgu gan eraill.

Ymunwch â’r Gymuned Ddata os ydych chi’n:

  • gweithio gyda data bob dydd ac eisiau cydweithio ag eraill, dysgu o’u profiadau a rhannu arferion
  • defnyddio data i lywio ymarfer ac angen lle i archwilio heriau gydag eraill a meithrin hyder
  • chwilio am gyfle i gryfhau eich dealltwriaeth o sut mae pobl mewn rolau gwahanol yn defnyddio data, a sut y gall y rolau hyn gefnogi ei gilydd.

Sut bydd y cymunedau'n gweithio

Mae’r cymunedau’n cael eu llywio gan eu haelodau, gyda chymorth un o’n rheolwyr cymuned.

Bydd y ddwy gymuned yn cynnig cymysgedd o gyfleoedd ar-lein ac wyneb yn wyneb i gysylltu ag aelodau eraill ac i ddysgu oddi wrthyn nhw.

Bydd ein digwyddiadau cymunedol rheolaidd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau perthnasol. Er bod ein cymunedau digidol a data ar wahân i’w gilydd, rydyn ni'n cydnabod y gall fod meysydd cyffredin rhwng y ddau – felly bydd y cymunedau’n dod ynghyd ar gyfer digwyddiadau ar y cyd o bryd i’w gilydd.

Rhwng digwyddiadau, bydd aelodau’n gallu cysylltu drwy blatfform ar-lein, lle gallan nhw drafod pynciau ar ein bwrdd negeseuon, darllen neu ysgrifennu blog, a chael mynediad at amrywiaeth o adnoddau defnyddiol.

Rydyn ni am i’n cymunedau gael eu llunio gan yr hyn sy’n bwysicaf i’r aelodau.

Ymunwch â chymuned

Cymuned Ddigidol

Ymunwch â Chymuned Ddigidol Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cymuned Ddata

Ymunwch â Chymuned Ddata Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gan ddibynnu ar a ydych wedi bod yn aelod o un o’n cymunedau ni o’r blaen ai peidio, efallai y bydd rhaid i chi greu cyfrif cyn ymuno â chymuned benodol.

Ymunwch â digwyddiadau cyntaf y cymunedau

Cymuned Ddigidol

Beth yw digidol ym maes gofal cymdeithasol? - 9 Mehefin, 10am i 11.30am

Cymuned Ddata 

Llunio'r Gymuned Ddata gyda'n gilydd - 10 Mehefin, 10am i 11.30am

Darganfod mwy

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cymunedau neu rannu eich gwaith mewn digwyddiad cymunedol, cysylltwch â rheolwyr y cymunedau isod.

Rheolwyr y cymunedau

Lilla Vér

Lilla Vér

Fi yw Lilla, a byddaf yn gofalu am ein Cymuned Ddigidol newydd.

Fy nod yw creu a meithrin lle diogel i bobl ddysgu gyda’i gilydd, cysylltu a chefnogi ei gilydd.

Rwyf wedi datblygu ac arwain cymuned ymarfer arall yn y gorffennol, gan gasglu llawer o ddysgu y byddaf yn ei ddefnyddio yn y gymuned hon.

Rwy’n chwilfrydig am ddigidol ac yn awyddus i ddyfnhau fy nealltwriaeth o ddigidol ym maes gofal cymdeithasol ochr yn ochr â chi.

Zoe Davies

Zoe Davies

Fi yw Zoe, a byddaf yn gofalu am ein Cymuned Ddata.

Fy nod yw creu lle hygyrch, di-farn i ni ddatblygu ein sgiliau data, cysylltu â’n gilydd a rhannu dysgu.

Yn flaenorol, roeddwn yn ddadansoddwr data ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru a Dŵr Cymru.

Rwy’n credu bod gan ddata ym maes gofal cymdeithasol y potensial i drawsnewid gwasanaethau a chanlyniadau i’r bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth.