Datblygu fframweithiau digidol ar gyfer gofal cymdeithasol
Yn 2025, fe wnaethon ni gomisiynu ymchwil i gefnogi'r gwaith o ddatblygu dwy fframwaith ddigidol ar gyfer gofal cymdeithasol:
- fframwaith 'sut mae da yn edrych' ar gyfer aeddfedrwydd a llythrennedd digidol
- fframwaith cymhwysedd digidol ar gyfer arweinyddiaeth.
Fe wnaethon ni ofyn i Basis gyflawni'r gwaith hwn ar sail yr hyn a ddysgon ni o'r ddyfais botensial ddigidol ac o ymgysylltu ehangach â phobl ledled y sector gofal cymdeithasol.
Canolbwyntiodd cam cyntaf y gwaith ar gasglu tystiolaeth i lywio'r fframweithiau, yn hytrach na'u datblygu.
Beth wnaethon ni ei ddysgu?
Roedd rhai o'r prif ganfyddiadau'n dangos:
- bod angen diffiniadau cliriach o 'lythrennedd digidol', 'aeddfedrwydd digidol' ac 'arweinyddiaeth ddigidol'
- bod galw am adnoddau ymarferol fel rhestrau gwirio, fideos byr ac astudiaethau achos, yn hytrach na dogfennau sy'n disgrifio arferion da mewn theori yn unig
- y bydd cydgynhyrchu yn bwysig i sicrhau bod y fframweithiau'n gredadwy a bod pobl yn eu mabwysiadu'n eang.
Beth oedd yr argymhellion?
Daeth yr ymchwil i'r casgliad bod angen gweithredu mewn tri maes:
Sylfaenol
- Datblygu diffiniadau dwyieithog cenedlaethol ar y cyd ar gyfer:
- digidol
- aeddfedrwydd digidol
- llythrennedd digidol
- arweinyddiaeth ddigidol
- Mae angen cytuno ar y diffiniadau hyn cyn dechrau datblygu'r fframweithiau.
Cynnwys, strwythur a defnydd y fframweithiau
- Dylunio'r fframweithiau fel system ryng-gysylltiedig tair rhan sy'n cwmpasu aeddfedrwydd, llythrennedd ac arweinyddiaeth
- Canolbwyntio ar ganlyniadau ac ymddygiadau, yn hytrach nag ar theori yn unig
- Alinio seilwaith (offer, cysylltedd a systemau) â safonau cenedlaethol a chanlyniadau i bobl
- Cynnwys adnoddau ymarferol fel elfennau allweddol o'r fframweithiau.
Dylunio, datblygu a mynediad at y fframweithiau
- Gwreiddio cydgynhyrchu drwy gydol y broses
- Defnyddio'r un egwyddorion dylunio ar draws y fframweithiau
- Integreiddio â'r Grŵp Gwybodaeth i greu adnodd gwe canolog
- Diweddaru'r Ddyfais Botensial Ddigidol i gyd-fynd â'r fframweithiau
- Alinio â'r cymunedau ymarfer data a digidol
- Cytuno ar drefniadau llywodraethu a phenderfynu pwy sy'n berchen ar y fframweithiau.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i gytuno ar y ffordd orau o fwrw ymlaen â'r argymhellion.
Yn ddiweddar, fe wnaethon ni lansio ein Cymuned Ddigidol, sy'n helpu aelodau i feithrin cysylltiadau ar draws sefydliadau a disgyblaethau, a rhannu offer, adnoddau ac arferion da digidol â'i gilydd.