
Aeddfedrwydd data
Mae ‘aeddfedrwydd data’ yn cyfeirio at barodrwydd sefydliad i wneud y defnydd gorau o’r data maen nhw’n ei gadw.
Ein nod ni yw cefnogi darparwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddeall sut y gallan nhw wneud y defnydd gorau o’r data sy’n cael ei gasglu, ei brosesu a’i rannu fel rhan o’u darpariaeth gofal cymdeithasol.
Mae dysgu am aeddfedrwydd data eich sefydliad yn eich galluogi chi i wybod pa faes y dylech chi ganolbwyntio arno er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r data rydych chi’n ei gasglu.
Yn y pendraw, mae gwella'r ffordd rydyn ni’n defnyddio’r data rydyn ni’n ei gasglu yn gwella'r gwasanaethau. Mae’n gwneud hyn drwy ddarparu’r wybodaeth sy’n eich galluogi chi i wneud penderfyniadau gwybodus ar sail tystiolaeth.
Mae dysgu sut i drin data yn well hefyd yn arwain at wella’r amgylchedd gwaith i chi a’ch staff gan eich bod chi’n magu hyder i ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennych i hwyluso gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Nid dulliau prosesu data sydd dan sylw yma, ond sut y gallwch chi gwneud defnydd gwell o’r data rydych chi eisoes yn ei gasglu.
Asesu aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol yng Nghymru
Yn 2024, fe wnaethon ni gomisiynu cwmni o’r enw Alma Economics i gynnal asesiad annibynnol o aeddfedrwydd data awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mae asesiad aeddfedrwydd data yn ffordd strwythuredig o helpu staff i ddeall eu lefel o aeddfedrwydd data.
Fe wnaeth yr awdurdodau lleol lenwi holiadur yn trafod gwahanol agweddau ar eu prosesau data gofal cymdeithasol. Yna, cafodd pob awdurdod adroddiad cryno a oedd yn cynnwys cyngor ar y camau i'w cymryd i wella’u lefel o aeddfedrwydd data.
Defnyddiodd Alma Economics ganfyddiadau’r asesiadau hyn o bob un o’r 22 o awdurdodau lleol i greu adroddiad cenedlaethol sy’n rhoi trosolwg o sefyllfa data gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd yr awdurdodau lleol yn ddienw yn yr adroddiad hwn.
Roedd yr holiadur hefyd yn archwilio parodrwydd y sector i integreiddio data gofal cymdeithasol gyda data gofal iechyd drwy'r Adnodd Data Cenedlaethol (NDR). Byddai hyn yn golygu bod yn gydnaws â safonau Fast Healthcare Interoperability Resources (FHIR).
Mae safonau FHIR yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel ffordd o ddisgrifio data gofal iechyd, ac maen nhw wedi cael eu dewis gan bob un o bedair gwlad y DU fel y safon ddewisol.
Gallwch ddysgu rhagor am yr asesiad a’i ganfyddiadau, a darllen yr adroddiad llawn, yn adran adnoddau'r Grŵp Gwybodaeth.
Sut mae sefydliad ag aeddfedrwydd data uwch yn edrych?
Mae’r asesiad yn rhoi trosolwg i ni o sut y gall sefydliad data aeddfed edrych. Mae'r rhain wedi'u rhannu'n chwe maes:
Darparu adnoddau o ran sgiliau a galluoedd -
- Mae'r tîm yn cynnwys arbenigwyr data sefydledig, fel dadansoddwyr a gwyddonwyr data, a swyddogion llywodraethu, sy'n cefnogi rheoli data cadarn a dadansoddiad craff.
- Hyfforddiant rheolaidd ar sgiliau ac arferion data i sicrhau bod yr holl staff gofal cymdeithasol yn cael eu grymuso i ddefnyddio a rheoli data yn effeithiol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o risgiau.
- Cydweithio ag arbenigwyr data (trwy rwydweithio, cynadleddau, ac ati), gan sicrhau bod sgiliau ac arferion data yn cyd-fynd â datblygiadau newydd.
Cofnodion digidol ac ansawdd data -
- Ffocws ar gasglu data strwythuredig a safonol, lle bo modd, mewn perthynas â gwybodaeth defnyddwyr gwasanaeth, teithiau gofal, canlyniadau, a chofnodion gweithlu.
- Blaenoriaethu ansawdd data uchel, gan ganolbwyntio ar gywirdeb, cyflawnrwydd, cysondeb ac amseroldeb trwy asesiadau rheolaidd a phrosesau sicrhau ansawdd cadarn.
- Mentrau gwella ansawdd data systematig, gan ddefnyddio metrigau, offer ac awtomeiddio i gynnal safonau uchel, gyda chefnogaeth dadansoddwyr data pwrpasol.
Systemau a phrosesau -
- Mae’r sefydliad yn gweithredu systemau ac arferion sy’n rhoi mynediad symlach i weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a thimau data at fewnwelediadau cynhwysfawr gan ddefnyddwyr gwasanaeth, gan alluogi penderfyniadau gwybodus a darparu gwasanaethau’n effeithlon.
- Mae alinio systemau a fformatau data ar draws gwahanol sefydliadau (hy, awdurdodau lleol eraill, iechyd) yn hwyluso rhannu data yn ddi-dor.
- Mae mesurau diogelwch cadarn, strategaethau adfer trychineb cynhwysfawr, a pherfformiad system graddadwy yn sicrhau cywirdeb data, diogelu data, a dibynadwyedd system sy'n gadarn mewn perthynas â gofynion amrywiol.
- Mae rhaglenni hyfforddi cynhwysfawr a phrosesau adborth strwythuredig yn grymuso staff i fewnbynnu data cyson o ansawdd uchel i'r system.
Defnydd o ddata -
- Defnydd strategol o ddata gofal cymdeithasol ar gyfer cynllunio capasiti, a dyrannu achosion, gan alinio gwasanaethau ag anghenion cymunedol.
- Monitro a dadansoddi data gofal cymdeithasol yn barhaus i wella effeithiolrwydd gwasanaethau, cefnogi ymyriadau wedi'u targedu, ac asesu effeithiau rhaglenni.
- Dadansoddeg ragfynegol a chynllunio senarios ar gyfer gallu i addasu a rhagweld galw yn y dyfodol, gan alluogi addasiadau strategol i wasanaethau a pharodrwydd ar gyfer sifftiau demograffig neu ddigwyddiadau annisgwyl.
- Archwilio achosion defnydd newydd ar gyfer data yn rheolaidd a gweithredu arnyn nhw.
Rhannu data -
- Mae'r sefydliad yn cymryd rhan weithredol mewn rhannu data gyda sefydliadau eraill, gyda phrotocolau llywodraethu a diwylliant o gydweithio sy'n annog cyfnewidiadau diogel gyda rhanddeiliaid allanol.
- Pwyslais ar ddata safonol a systemau rhyngweithredol i wella cydnawsedd ac effeithlonrwydd rhannu data ar draws sefydliadau.
- Buddsoddiad strategol mewn technoleg a sgiliau i drosoli rhannu data ar gyfer arloesi, gwneud penderfyniadau, a datblygu polisi, er budd y sector gofal cymdeithasol ehangach.
- Nodi a mynd i’r afael yn rhagweithiol â heriau rhannu data, fel cymhlethdodau cyfreithiol neu risgiau i enw da, gan sicrhau llywodraethu data cydlynol.
Arweinyddiaeth, strategaeth a diwylliant -
- Cydnabod data fel blaenoriaeth uchel, gydag arweinwyr yn ymgorffori strategaeth ddata gynhwysfawr ar draws y sefydliad i arwain gweithrediadau a gwneud penderfyniadau.
- Cydnabod yr angen am fuddsoddiad parhaus mewn seilwaith data a sgiliau.
- Diwylliant sefydliadol sy'n rhoi gwerth ar ddata, yn annog arloesi o amgylch arferion data, ac yn ymestyn sgiliau data y tu hwnt i arbenigwyr, gan rymuso'r holl staff.
- Mynd ati’n weithredol i gydweithredu ac arloesi mewn perthynas â data, gan feithrin partneriaethau ag arbenigwyr data (gan gynnwys academyddion a diwydiant) i wella data gofal cymdeithasol a chefnogi prosiectau trawsnewidiol.
Darganfod mwy
Cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech chi ddarganfod mwY am ein gwaith aeddfedrwydd data.