
Cyfleoedd dysgu DEEP
Mae rhaglen Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) yn cynnal sesiynau hyffordiant byr am ddim drwy gydol y flwyddyn.
Maen nhw wedi eu hanelu at ymarferwyr a phartneriaid sectorau cysylltiedig, pobl sy'n defnyddio gofal, rheolwyr ac hyfforddwyr. Ond mae croeso i bawb sydd yn cynnal gweithgareddau sydd wedi eu cyd-gynhyrchu.
Sut mae'r sesiynau'n cefnogi ymarferwyr gofal cymdeithasol yn eu gwaith?
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn galw am ofal a chymorth wedi eu cyd-gynhyrchu. Ac sy'n seiliedig ar berthynas, yn rhoi'r person yn y canol ac yn ymateb i'r 'hyn sy'n bwysig' i unigolion a'u teuluoedd.
Er mwyn mynd i'r afael â’r ymrwymiadau sydd yn y Ddeddf, mae angen i bobl gael sgiliau cyd-gynhyrchu a deialog. Mae'n bwysig hefyd eu bod yn gallu gwerthuso effaith gwasanaethau gofal a chymorth.
Mae sesiynau dysgu DEEP yn gallu:
- datblygu sgiliau casglu a dadansoddi profiadau
- cynnig amrywiaeth o ddulliau sy'n ein helpu i siarad yn dda gyda'n gilydd
- awgrymu ffyrdd o ddod o hyd i dystiolaeth a'i defnyddio
- llywio penderfyniadau a helpu ymarferwyr i deimlo'n hyderus yn eu penderfyniadau.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda rhaglen DEEP i gasglu a dysgu o'r straeon o newid gan bawb sy'n ymwneud â'n gwaith. A defnyddio 'Y Newid Mwyaf Arwyddocaol' a 'Chymuned Ymholi' i'n helpu gyda hyn. Ac rydyn ni'n falch iawn o'r canfyddiadau."
Sam, gweithiwr datblygu cymuned, Caerdydd.
Ein cynnig dysgu
Rydyn ni'n cynnal sesiynau sy'n eich helpu i greu diwylliant dysgu cefnogol:
- Egwyddorion DEEP
- Llesiant rhyngddibynnol a'r synhwyrau.
Mae sesiynau sy'n eich helpu i ganfod, casglu, a gwerthuso gwahanol fathau o dystiolaeth:
- Gwerthuso gofal sy'n canolbwyntio ar y person (PERCCI)
- Rhannu tystiolaeth drwy ddefnyddio pynciau trafod
- Eiliadau hud/trasig
- Newid mwyaf arwyddocaol.
Rydyn ni'n cynnal sesiynau er mwyn archwilio sut y gallwn ni ddeall a defnyddio tystiolaeth er mwyn hysbysu, cefnogi a meithrin dysgu a datblygu:
- Cymuned ymholi
- Gwahanol ffyrdd o archwilio straeon
- Gwneud penderfyniadau ar y cyd.
"Yn ddiweddarach, rydyn ni wedi mynychu hyfforddiant ar 'Gymuned ymholi' ac yn gweithio gyda'r rhaglen DEEP i wneud gwaith datblygu pellach. Er enghraifft, rydyn ni'n cefnogi nyrsys MacMillan i archwilio 'eiliadau hud' mewn gofal diwedd oes."
- Jane, arweinydd rhaglen ar gyfer gwella ansawdd, Darpariaeth Gwasanaethau i Oeolion, Cyngor Abertawe.
Cwrs catalydd DEEP
Mae cwrs catalydd DEEP yn cyflwyno'r dull DEEP ac yn gwrs 10 wythnos sydd am ddim, ar-lein. Mae'r hwyluswyr yn brofiadol ac yn defnyddio fformatau diddorol i helpu pobl ddysgu mwy am ddulliau DEEP a sut y gall y rhain helpu yn eu gwaith.
Rydyn ni wedi cyhoeddi blog sy'n cynnwys adborth gan bobl sydd eisoes wedi cyflawni'r cwrs. Gall hyn eich helpu i benderfynu os yw'r cwrs o ddiddordeb i chi, neu i rywun rydych chi'n adnabod.

Bachwch le!
Gallwch chi gofrestru ar ddigwyddiad, sesiwn dysgu neu gwrs DEEP ar ein tudalen digwyddiadau neu'n uniongyrchol drwy linc eventbrite DEEP.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.