Skip to Main content

Arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2024: Adroddiad llawn a chrynodeb o ymatebion

10 Hydref 2024
Hir

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys canfyddiadau arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2024, a holodd weithwyr gofal cymdeithasol am bethau fel eu hiechyd a’u llesiant, tâl ac amodau, a beth maen nhw’n ei hoffi am weithio yn y sector.

Derbynon ni 5,024 o ymatebion wedi'u cwblhau, o amrywiaeth o rolau. Roedd cyfanswm yr ymatebion i’r arolwg yn cynnwys:

  • 3,307 o weithwyr gofal
  • 838 o weithwyr cymdeithasol
  • 461 o reolwyr
  • 418 o swyddi eraill.

Mae'r adroddiad llawn ar gael mewn fformatau PDF a Microsoft Word

Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu adroddiad byr sy'n rhoi crynodeb o'r canfyddiadau. Gallwch lawrlwytho'r adroddiad byr fel dogfen PDF neu Microsoft Word, neu ei ddarllen isod.

Mae adroddiadau byr hefyd ar gael ar gyfer y tri grŵp swydd canlynol:

Fe wnaethon ni gyhoeddi’r adroddiad llawn, a phob un o’r adroddiadau byr, ar 10 Hydref 2024. Ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru am ddarn newyddion sy’n cynnwys ymateb gan Brif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru Sarah McCarty a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Dawn Bowden.

Isod mae crynodeb o ganfyddiadau'r adroddiad.

Demograffeg

Fe wnaethon ni ddarganfod bod:

  • y gyfran fwyaf o bobl yn y grŵp oedran 55 i 59 oed
  • 78 y cant yn fenywaidd, and 21 y cant yn wrywaidd
  • 88 y cant yn syth/heterorywiol, tri y cant yn hoyw neu’n lesbiaidd, a tri y cant yn ddeurywiol. Roedd hi’n well gan eraill beidio â dweud
  • 75 y cant yn Wyn, 13 y cant yn Ddu, a saith y cant yn Asiaidd
  • 26 y cant yn dweud bod ganddyn nhw gyflwr hirdymor sydd wedi para 12 mis neu fwy. O’r rhai â chyflwr hirdymor, dywedodd 66 y cant ohonyn nhw ei fod yn effeithio ar eu gweithredu o ddydd i ddydd
  • 36 y cant yn awgrymu eu bod yn ofalwr y tu allan i’r gwaith
  • chwech y cant yn dweud eu bod yn niwrowahanol
  • 39 y cant yn dweud eu bod yn gallu siarad o leiaf ychydig o Gymraeg
  • 25 y cant yn dweud eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith naill ai drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser
  • 86 y cant yn cael eu cyflogi gan sefydliad sy’n darparu gofal cymdeithasol, fel awdurdod lleol, corff trydydd sector neu gwmni preifat, a saith y cant yn cael eu cyflogi gan asiantaeth
  • 35 y cant yn dweud eu bod yn aelod o undeb llafur, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n aelod o Unsain/Unison (24 y cant) neu’r GMB (pump y cant).

Recriwtio a chadw

Fe wnaethon ni ddarganfod bod:

  • 69 y cant wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod am gael swydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Teimlai 45 y cant y bydden nhw’n ei fwynhau, 37 y cant y byddai’n addas i’w sgiliau, ac aeth 25 y cant i’w rôl o ganlyniad i brofiad personol gofalu am rywun. Gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un rheswm
  • 48 y cant wedi dod i wybod am weithio ym maes gofal cymdeithasol trwy ffrindiau a theulu sy’n gweithio yn y sector, 31 y cant trwy hysbysebu ar-lein, ac 11 y cant trwy ffeiriau neu gwmnïau recriwtio
  • 25 y cant yn anelu at adael y sector. Ymhlith y bobl a awgrymodd eu bod yn bwriadu gadael y sector, yr amser cyfartalog gwelon nhw eu hunain yn aros oedd 13 mis.

Arweinyddiaeth, hyfforddiant a datblygiad

Fe wnaethon ni ddarganfod bod:

  • 47 y cant eisiau rôl arwain yn y dyfodol
  • 60 y cant o’r farn ei bod yn bosibl iddyn nhw ddod yn arweinydd
  • 37 y cant wedi ceisio camu ymlaen yn y flwyddyn ddiwethaf
  • 87 y cant wedi dweud bod ganddyn nhw ddigon o hyfforddiant i wneud eu swydd yn dda, ac 80 y cant eu bod yn cael digon o hyfforddiant i gyflawni gofynion DPP
  • 47 y cant yn teimlo bod angen mwy o hyfforddiant i symud ymlaen yn eu gyrfa
  • 65 y cant yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw broblemau o ran cael gafael ar hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith.

Bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu

Yma, rydyn ni’n cyflwyno canran y gweithwyr gofal cymdeithasol a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu o wahanol ffynonellau yn y 12 mis diwethaf.

  • Gan reolwyr: Bwlio (wyth y cant), gwahaniaethu (wyth y cant), aflonyddu (pedwar y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan reolwr, roedd 46 y cant wedi rhoi gwybod amdano, dywedodd pump y cant fod cydweithiwr wedi rhoi gwybod amdano, a theimlai 24 y cant o’r rhai a ddywedodd fod y mater wedi'i godi ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
  • Gan gydweithwyr: Bwlio (wyth y cant), gwahaniaethu (pump y cant) aflonyddu (pedwar y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan gydweithiwr, roedd 57 y cant wedi rhoi gwybod amdano, dywedodd 10 y cant fod cydweithiwr wedi rhoi gwybod amdano, a theimlai 33 y cant o’r rhai a ddywedodd fod y mater wedi'i godi ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
  • Gan bobl maen nhw’n eu cynorthwyo neu eu teulu: Bwlio (pump y cant), gwahaniaethu (pump y cant), aflonyddu (saith y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan bobl maen nhw’n eu cynorthwyo neu eu teulu, roedd 73 y cant wedi rhoi gwybod amdano, dywedodd wyth y cant fod cydweithiwr wedi rhoi gwybod amdano, a theimlai 44 y cant o’r rhai a ddywedodd fod y mater wedi'i godi ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
  • Fe wnaethon ni hefyd ddarganfod bod 70 y cant yn teimlo bod eu cyflogwr wedi gweithredu’n deg mewn penderfyniadau am symud ymlaen yn eu gyrfa a dyrchafu, yn gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig.

Cyflog, telerau ac amodau

Fe wnaethon ni ddarganfod bod:

  • 68 y cant yn hapus â’u telerau ac amodau
  • 11 y cant yn cael eu cyflogi ar gontract dim oriau. O’r rhai a oedd ar gontract o’r fath, awgrymodd 65 y cant y byddai’n well ganddyn nhw fod ar gontract oriau sefydlog neu oriau rheolaidd
  • 42 y cant yn teimlo eu bod yn ‘byw’n gyfforddus’ neu’n ‘gwneud yn iawn’ yn ariannol, 32 y cant ‘dim ond yn llwyddo o drwch blewyn i dalu am bopeth angenrheidiol’, a 23 y cant yn ei chael hi’n ‘eithaf’ anodd neu’n ‘anodd iawn’ ymdopi’n ariannol
  • 59 y cant naill ai’n ei chael hi’n ‘llawer’ neu ‘ychydig’ yn fwy anodd ymdopi’n ariannol o gymharu â’r llynedd, ac 11 y cant naill ai ‘ychydig’ yn haws neu’n ‘llawer’ haws
  • 46 y cant yn anfodlon â’u tâl, gyda 35 y cant yn fodlon.

Iechyd a llesiant

Fe wnaethon ni asesu llesiant y gweithlu gan ddefnyddio ONS4 – pedwar mesur sy’n cael eu defnyddio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n defnyddio graddfa rhwng 0 a 10. Cymharon ni’r ymateb cyfartalog o’r arolwg hwn gyda chyfartaledd y DU ar gyfer pob mesur. Mae pob un o’r canfyddiadau isod yn waeth na chyfartaledd y DU:

  • Boddhad â bywyd: 6.54 (Cyfartaledd y DU: 7.45)
  • Mae bywyd yn werth chweil: 7.11 (Cyfartaledd y DU: 7.73)
  • Hapusrwydd ddoe: 6.58 (Cyfartaledd y DU: 7.39)
  • Gorbryder: 4.35 (Cyfartaledd y DU: 3.23)

Gofynnon ni gwestiynau eraill am lesiant hefyd. Fe wnaethon ni ddarganfod:

  • bod 77 y cant yn teimlo bod eu morâl yn dda
  • bod 57 y cant yn teimlo eu bod yn cael trafferth peidio meddwl am y gwaith ar ôl gorffen
  • bod 41 y cant yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i ddelio â straen
  • mai llwyth gwaith (39 y cant), gwaith papur neu faich gweinyddol (33 y cant), a phoeni am bethau’r tu allan i’r gwaith (25 y cant) oedd prif achosion straen
  • bod 52 y cant wedi awgrymu eu bod wedi mynd i’r gwaith o leiaf ddwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er eu bod mor sâl y dylen nhw fod wedi aros gartref.

Amodau gweithio

Fe wnaethon ni ddarganfod bod: 

  • 70 y cant yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu rheolwr 
  • 79 y cant yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu cydweithwyr 
  • 57 y cant yn teimlo bod ganddyn nhw’r staff cywir i ddarparu gwasanaethau 
  • 75 y cant yn teimlo eu bod yn gallu bodloni anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu cynorthwyo. 

Gofynnon ni hefyd faint yr oedd pobl yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y gwahanol grwpiau maen nhw’n rhyngweithio â nhw. 

Fe wnaethon ni ddarganfod bod: 

  • 70 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwr 
  • 80 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cydweithwyr 
  • 80 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw’n eu cynorthwyo 
  • 57 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan asiantaethau partner   
  • 51 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd. 

Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan ymchwilwyr yn Bath Spa University a Buckinghamshire New University, a chydweithwyr o Gymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW). Fe wnaeth yr ymchwilwyr cynhyrchu'r adroddiad terfynol.