A i Y o dermau safonau data
Rydyn ni am i'n gwaith ar safonau data fod mor hawdd â phosibl i'w ddeall, yn enwedig i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Gall datblygu safonau data olygu defnyddio iaith dechnegol ar adegau, ond bydd y gwaith hwn yn helpu i wneud tasgau bob dydd yn haws, beth bynnag fo'ch rôl ym maes gofal cymdeithasol. Bydd yn helpu i sicrhau y gallwch cofnodi a rhannu gwybodaeth mewn ffordd fwy cyson, gan gefnogi penderfyniadau gwell.
Dyna pam rydyn ni wedi gweithio gyda phobl ar draws y sector i sicrhau bod ein safonau'n ymarferol, yn berthnasol ac mor rhydd o jargon â phosibl.
Byddwn ni bob amser yn gwneud ein gorau i esbonio'r gwaith hwn yn glir, ond rydyn ni'n deall y gallech ddod ar draws geiriau neu dermau anghyfarwydd o bryd i'w gilydd o hyd.
Bydd y rhestr dermau hon yn helpu i egluro beth maen nhw'n ei olygu. Os oes term nad ydych yn siŵr amdano neu hoffech i ni ei ychwanegu, anfonwch e-bost at data@gofalcymdeithasol.cymru a rhowch wybod i ni.
A
Aeddfedrwydd data
Gallu sefydliad i wneud defnydd o'r data y mae'n ei gasglu.
Algorithm
Cyfres o gyfarwyddiadau cam wrth gam y gall cyfrifiadur eu defnyddio i ddatrys problem neu gwblhau tasg. Meddyliwch amdani fel rysáit. Mae angen dilyn y rysáit os ydych am gyrraedd y canlyniad cywir.
Anonymeiddio
Dileu gwybodaeth yn barhaol fel nad oes modd adnabod unigolyn o'r data hwnnw.
Ansawdd data
Mesur o ba mor gywir, cyflawn a dibynadwy yw data.
API (Application Programming Interface)
Rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau. Set o reolau sy'n cael eu defnyddio gan systemau cyfrifiadurol fel er mwyn iddyn nhw gyfathrebu â'i gilydd. Enghraifft dda o hyn yw ap tywydd ar eich ffôn yn defnyddio data o gyfrifiadur y Swyddfa Dywydd er mwyn gallu dangos y rhagolygon i chi.
C
Canolfan ddata
Adeilad diogel sy'n cynnwys cannoedd neu filoedd o gyfrifiaduron sy'n ffurfio'r cwmwl.
Catalog data
Rhestr ar-lein chwiliadwy o'r holl safonau data sydd wedi'u datblygu ynghyd â'u metadata cysylltiedig.
Cofnod gofal integredig
Weithiau'n cael ei alw'n gofnod gofal wedi'i rannu. System sy'n dod â gwybodaeth am unigolyn ynghyd o nifer o wahanol ffynonellau fel y gall gweithwyr proffesiynol awdurdodedig weld darlun mwy cyflawn o ofal yr unigolyn.
Corff Safonau Cofnodion Proffesiynol
Sefydliad a gafodd ei greu gan GIG Lloegr i ddatblygu a rheoli safonau data sy'n ymwneud ag iechyd a gofal. Enw Seasneg y sefydliad yw Professional Records Standards Body (PRSB).
Cronfa ddata
Casgliad trefnedig o wybodaeth sy'n cael ei storio'n electronig.
Cydnawsedd data
Gallu data o wahanol systemau, sefydliadau neu ffynonellau i weithio gyda'i gilydd yn gywir heb fod angen newidiadau sylweddol nac ymyrraeth â llaw.
Cydweithrededd
Gallu gwahanol systemau cyfrifiadurol i gyfathrebu â'i gilydd a chyfnewid data.
Cyfrifiadura cwmwl
Ffordd o storio data a rhedeg meddalwedd dros y rhyngrwyd yn hytrach na defnyddio caledwedd ffisegol sydd wedi'i lleoli mewn adeilad.
D
Data
Gwybodaeth sy'n cael ei chasglu, ei storio a'i defnyddio ar gyfer rhesymu, trafod neu wneud penderfyniadau. Gall gynnwys enwau, cyfeiriadau, dyddiadau, asesiadau, cynlluniau, nodiadau achos ac ati.
Data cyfeirio
Rhestrau o werthoedd cytûn sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin ar draws systemau. Enghraifft o hyn yw ethnigrwyddau a ddatblygwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n cael eu defnyddio mewn llawer o systemau, gan gynnwys y Cyfrifiad.
Data personol
Gwybodaeth gallwch ei defnyddio i adnabod unigolyn.
Deallusrwydd artiffisial (AI)
Gallu system gyfrifiadurol i ddysgu, rhesymu, adnabod patrymau, datrys problemau a gwneud penderfyniadau.
Defnydd achos
Enghraifft o'r byd go iawn o sut mae unigolyn, tîm neu sefydliad yn defnyddio system, gwasanaeth, gwybodaeth neu dechnoleg i gyflawni nod penodol.
Defnyddiwr
Yr unigolyn neu'r endid sy'n defnyddio offeryn neu'n derbyn gwasanaeth.
Digidol
Mae digidol yn cyfeirio at wybodaeth, gwasanaethau neu dechnolegau sy'n defnyddio cyfrifiaduron, meddalwedd a dyfeisiau electronig i greu, storio, prosesu neu rannu gwybodaeth.
Dilysu
Gwiriadau y mae system gyfrifiadurol yn eu gwneud i sicrhau bod gwybodaeth wedi'i chofnodi'n gywir neu nad oes gwybodaeth ar goll.
Diwylliant data
Y ffordd y mae pobl mewn sefydliadau yn meddwl am ddata, yn ei werthfawrogi, yn ei ddefnyddio ac yn ei rannu yn eu gwaith bob dydd.
Dylunio cyfranogol
Weithiau'n cael ei alw'n ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae hon yn broses sy'n sicrhau bod y bobl sy'n defnyddio'r cynnyrch terfynol wrth wraidd y broses ddylunio.
E
Eclipse
System wybodaeth electronig wedi'i ddatblygu gan Civica OLM sy'n cael ei defnyddio gan wasanaethau cymdeithasol mewn llawer o awdurdodau lleol.
Elfen ddata
Yr hyn rydyn ni'n galw'n eitem ddata unigol yn fframwaith FHIR.
F
FHIR
Mae FHIR (sy'n cael ei ynganu fel y gair Saesneg 'fire') yn sefyll am Fast Healthcare Interoperability Resources. Dyma weithrediad technegol safon ddata ac ef sy'n galluogi systemau cyfrifiadurol i gyfnewid data â'i gilydd.
Ff
Fformat
Ffordd benodol o gofnodi gwybodaeth. Er enghraifft, gall dyddiadau gael eu cofnodi mewn llawer o wahanol ffyrdd:
01-SEP-2019
01/09/19
1 Medi 2019
20190901
Ffyddlondeb data
Sicrhau bod gwybodaeth yn parhau'n gywir ac yn ddigyfnewid wrth iddi gael ei rhannu, ei phrosesu neu ei defnyddio.
G
GDPR
Weithiau'n cael ei alw'n UK-GDPR, ac mae'n sefyll am Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Dyma'r gyfraith yn y DU sy'n nodi sut mae'n rhaid i sefydliadau gasglu, storio, prosesu a diogelu gwybodaeth bersonol pobl.
Grŵp ysgrifennu
Grŵp bach o ymarferwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol data a digidol sydd â'r dasg o arwain datblygiad safonau data gofal cymdeithasol. Mae'r grŵp ysgrifennu yn ein galluogi i gynnal dull cyfranogol o ddatblygu safonau data yng Nghymru.
H
Hylendid data
Y broses o sicrhau bod data yn lân, yn gywir ac yn addas i'r diben.
I
Integreiddio
Y broses o gysylltu systemau â'i gilydd fel eu bod yn dod yn gydweithredol.
J
JSON
JavaScript Object Notation - Iaith gyfrifiadurol syml sy'n cael ei ddefnyddio i gofnodi gwybodaeth am ddata.
Ll
Lleihau data
Casglu dim ond y wybodaeth sydd ei hangen i gwblhau tasg.
Llythrennedd data
Gallu unigolyn i ddeall, prosesu a defnyddio data.
Llywodraethiant data
Y fframwaith o bolisïau a phrosesau sy'n cael eu defnyddio i reoli data.
Llywodraethiant gwybodaeth
Set o reolau, deddfau a phrosesau sy'n sicrhau bod data'n cael ei drin yn gyfreithlon, yn ddiogel ac yn briodol.
M
Maes
Darn penodol o wybodaeth mewn system gyfrifiadurol. Mae'n rhan o "gofnod" neu ffurflen, megis rhif adnabod, dyddiad neu god post.
Maes gorfodol
Darn o wybodaeth mewn cofnod y mae'n rhaid ei nodi.
Math o ddata
Mae modd cofnodi data fel rhif, llinyn o destun, dyddiad, rhestr neu eitem Booleaidd (ie/nage).
Metadata
Data am ddata, megis pwy a greodd y cofnod, pryd y cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf a'r hyn y mae'n ei gynnwys.
Model iaith mawr
Deallusrwydd artiffisial penodol sydd wedi'i hyfforddi gan ddefnyddio symiau enfawr o wybodaeth. Gall y rhain ddefnyddio iaith y gallai pobl ei deall. Mae enghreifftiau o LLMs yn cynnwys Copilot, Claude a ChatGPT. Large Language Model (LLM) yw'r term Saesneg.
Mosaic
System wybodaeth electronig a gafodd ei ddatblygu gan The Access Group sy'n cael ei defnyddio gan wasanaethau cymdeithasol mewn llawer o awdurdodau lleol.
P
Perchennog data
Yr unigolyn neu'r sefydliad sy'n gyfrifol am set ddata.
Portadwyedd data
Data sy'n symud gyda chi wrth i chi symud o fewn system, neu rhwng sefydliadau. Er enghraifft, mae manylion unigolyn, meddyginiaeth, alergeddau ac ati yn symud yn awtomatig o system ysbyty i system cartref gofal pryd mae'r unigolyn yn cael ei ryddhau o'r ysbyty.
Prosesydd data
Yr unigolyn neu'r sefydliad sydd â'r dasg o brosesu'r data ar gyfarwyddyd perchennog y data. Er enghraifft, gall bwrdd iechyd (Perchennog Data) gadw ei holl ddata yn y cwmwl (Prosesydd Data).
Psewdonymeiddio
Disodli gwybodaeth adnabyddadwy gyda chodau fel bod unigolyn yn parhau'n anhysbys, ond mae modd gwrthdroi'r broses os oes angen.
Rh
Rheolydd data
Yr unigolyn neu'r sefydliad sy'n penderfynu pam a sut y defnyddir data personol.
S
Safon data
Ffordd gytûn o ddisgrifio darn o wybodaeth. Mae safonau data yn sicrhau bod pawb yn defnyddio'r un disgrifiad ac ystyr ar gyfer darn o wybodaeth fel bod modd ei rannu'n ddiogel rhwng gwahanol systemau.
Safonau data agored
Rheolau a fformatau sydd ar gael yn gyhoeddus sy'n helpu sefydliadau i gasglu, storio a rhannu data mewn ffordd gyson. Gall unrhyw un ddefnyddio safonau data agored heb orfod talu amdanyn nhw na chael caniatâd arbennig.
Safonau data gweithredol lleiaf
Set gyffredin o eitemau data, diffiniadau a therminoleg y dylai darparwyr gofal a chyflenwyr meddalwedd eu defnyddio wrth gofnodi gwybodaeth am ofal. Y term Saesneg yw minimum operating data standards, neu MODS.
Safonoli
Dyma'r broses o gytuno beth ddylai'r safonau fod a sut maen nhw'n cael eu disgrifio. Mae angen sicrhau consensws gyda phawb sy'n defnyddio'r safon er mwyn iddi weithio.
Set ddata
Casgliad o ddata cysylltiedig sydd wedi'i gasglu a'i drefnu at ddiben penodol. Grŵp o ddata sy'n cael ei storio gyda'i gilydd.
SNOMED-CT
Set o safonau data iechyd sy'n disgrifio cyflyrau, gweithdrefnau ac arsylwadau.
System-agnostig
Datblygu fersiwn generig o safon ddata, proses neu bolisi nad yw'n gysylltiedig â system neu dechnoleg benodol.
System wybodaeth electronig
Weithiau'n cael ei alw'n gofnod achos electronig. Dyma'r system gyfrifiadurol sy'n cael ei ddefnyddio mewn sefydliadau gofal cymdeithasol i gofnodi eu gwaith. Dyma'r ffeil achos ddigidol.
X
XML
Iaith farcio estynadwy. Iaith gyfrifiadurol arall sy'n cael ei ddefnyddio i gofnodi a chyfnewid gwybodaeth rhwng systemau.