Skip to Main content

Arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2026: Crynodeb o ymatebion gan reolwyr

13 Hydref 2026
Byr

Dyma grynodeb o'r ymatebion i arolwg Dweud eich Dweud 2026, a holodd weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru am eu profiadau yn gweithio yn y sector.  

Roedd yr arolwg yn gofyn am bethau fel: 

  • nodweddion personol, swydd a chyflogaeth 
  • gwaith teg, gan gynnwys gwobrwyo teg, cynrychiolaeth, hyblygrwydd a chynnydd gyrfa  
  • iechyd, lles, straen a chefnogaeth. 

Mae’r adroddiad llawn yn rhannu’r canfyddiadau yn dri grŵp o swyddi – gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol, a rheolwyr.

Mae’r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg o rai o’r prif ganfyddiadau am grŵp y rheolwyr. 

Cawsom ni 7,565 o ymatebion i'r arolwg, ac roedd 746 ohonynt yn rheolwyr.  

O'r rheolwyr hyn, roedd 37 y cant yn gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion, roedd 36 y cant yn gweithio ym maes gofal cartref, 11 y cant yn gweithio ym maes gofal plant preswyl ac 15 y cant yn gweithio mewn rolau rheoli eraill. 

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a gweld yr adroddiad llawn, yma. 

Demograffeg

Roedd nodweddion personol yr ymatebwyr a oedd yn rheolwyr yn debyg i'r rhai a ymatebodd i arolygon Dweud eich Dweud 2024 a 2025:

  • Y grŵp oedran mwyaf cyffredin oedd 55 i 59 oed (20 y cant)
  • Roedd 81 y cant yn fenywod, ac 19 y cant yn ddynion
  • Roedd 94 y cant yn syth/heterorywiol, a chwech y cant yn hoyw, lesbiaidd, neu ddeurywiol
  • Roedd 91 y cant yn Wyn a pump y cant yn Ddu
  • Dywedodd 20 y cant fod ganddyn nhw gyflwr hirdymor sydd wedi para 12 mis neu fwy. O'r rhai a oedd â chyflwr hirdymor, dywedodd 60 y cant ei fod yn effeithio ar eu gweithredu o ddydd i ddydd
  • Awgrymodd 37 y cant eu bod yn ofalwr y tu allan i'r gwaith
  • Dywedodd 15 y cant eu bod yn niwrowahanol
  • Dywedodd 58 y cant eu bod yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg.

Yn 2026, gwelsom ni hefyd fod: 

  • 89 y cant o'r ymatebwyr yn meddu ar gymwysterau ar Lefel 3 neu’n uwch (cyfwerth â Safon Uwch neu'n uwch)
  • 60 y cant o'r ymatebwyr yn hunan-nodi fel dosbarth gweithiol.

Nodweddion swydd

Roedd:

  • 81 y cant yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers 10 mlynedd neu fwy
  • 24 y cant yn Unigolion Cyfrifol (a ddiffinnir o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)
  • 20 y cant a ddywedodd eu bod yn siarad rywfaint o Gymraeg yn nodi eu bod yn defnyddio'r Gymraeg drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser yn y gwaith
  • 47 y cant yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn rheolaidd neu'n achlysurol ar gyfer gwaith.

Nodweddion cyflogaeth

Roedd:

  • 25 y cant o’r rheolwyr yn gweithio yn y sector cyhoeddus, roedd 60 y cant yn gweithio yn y sector preifat, ac 16 y cant yn y sector gwirfoddol neu mewn sawl sector 
  • 81 y cant yn gweithio'n llawn amser
  • 41 y cant yn dweud eu bod yn aelodau o undeb llafur.

Cymhelliant, cydnabyddiaeth ac ymrwymiad

Roedd:

  • 54 y cant wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod eisiau swydd a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Roedd 39 y cant yn teimlo y bydden nhw’n ei fwynhau, roedd 30 y cant yn teimlo y byddai'n gweddu i'w sgiliau ac roedd gan 18 y cant brofiad personol o ofalu am rywun 
  • 42 y cant wedi clywed am weithio ym maes gofal cymdeithasol drwy ffrindiau a theulu sy'n gweithio yn y sector, 25 y cant drwy hysbyseb swydd ar-lein, ac 14 y cant drwy brofiad personol o ofalu am rywun
  • 74 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwyr, roedd 81 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan gydweithwyr, ac 83 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw’n eu cefnogi ac yn gofalu amdanynt
  • 27 y cant yn ystyried gadael y sector
  • 44 y cant yn disgwyl aros yn y sector tan iddyn nhw ymddeol ac roedd 13 y cant yn disgwyl aros mewn gwaith gofal cymdeithasol am lai na deuddeg mis.

Cyflog ac amodau

Roedd:

  • 97 y cant yn cael Cyflog Byw Gwirioneddol neu’n uwch
  • 41 y cant yn fodlon â’u cyflog 
  • 64 y cant yn fodlon â'u telerau ac amodau
  • 91 y cant yn cael eu cyflogi ar gontractau oriau sefydlog, ac roedd pedwar y cant ar gontractau hyblyg neu achlysurol. Roedd cyfran fach ar gontractau dim oriau, amser tymor, tymhorol neu fathau eraill o gontractau.

Dwysedd a dewis gwaith

Roedd:

  • 19 y cant o’r rheolwyr gofal cymdeithasol yn teimlo bod digon o staff i ddarparu gwasanaethau drwy'r amser
  • 53 y cant yn cytuno bod ganddyn nhw ddigon o amser i wneud eu gwaith yn dda
  • 60 y cant yn cytuno bod ganddyn nhw ddewis ynghylch pa dasgau maen nhw’n eu gwneud, a chytunodd 75 y cant fod ganddyn nhw ddewis o ran sut maen nhw'n cyflawni eu tasgau gwaith.

Ymgynghori, dylanwad a chynrychiolaeth

  • Nododd 96 y cant fod prosesau ffurfiol ar waith ar gyfer llais staff
  • Cytunodd 72 y cant yr ymgynghorir â staff bob amser ynghylch newid yn y gwaith
  • Roedd 52 y cant yn credu bod eu barn yn cael ei hystyried y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser
  • Roedd 95 y cant yn ymwybodol neu'n ymwybodol iawn o'u hawliau cyflogaeth
  • Roedd 74 y cant yn cytuno bod eu hawliau cyflogaeth yn cael eu parchu.

Hyfforddiant a chynnydd

Roedd:

  • 78 y cant o'r rheolwyr gofal cymdeithasol yn cael adolygiadau perfformiad yn y gwaith
  • 79 y cant yn cytuno eu bod wedi cael yr hyfforddiant cywir i wneud eu swyddi yn dda 
  • 43 y cant yn cytuno fod angen mwy o hyfforddiant arnyn nhw i wneud cynnydd yn eu gyrfa
  • 26 y cant yn credu bod rhwystrau rhag cael mynediad at hyfforddiant
  • 57 y cant eisiau rôl arweinyddiaeth yn y dyfodol, a chredai 73 y cant ei bod yn bosibl dod yn arweinydd
  • 26 y cant wedi chwilio am gyfle i gael dyrchafiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd 67 y cant o'r ymatebwyr hyn wedi cyrraedd rhestr fer ac wedi cael cynnig swydd 
  • 94 y cant yn teimlo bod eu cyflogwr yn gweithredu'n deg o ran penderfyniadau dyrchafu.

Triniaeth deg

  • Roedd 27 y cant o reolwyr gofal cymdeithasol wedi profi triniaeth wael yn y gwaith. Roedd 19 y cant wedi profi bwlio, 11 y cant wedi profi gwahaniaethu ac 18 y cant wedi profi trais yn y gwaith yn ystod y deuddeg mis diwethaf
  • Bu i 66 y cant o'r rhai a oedd wedi profi bwlio adrodd amdano, ac roedd 39 y cant yn fodlon â’r canlyniad
  • Roedd 72 y cant o'r rhai a oedd wedi profi gwahaniaethu wedi adrodd amdano ac roedd 38 y cant yn fodlon â’r canlyniad
  • Bu i 98 y cant o'r rhai a oedd wedi profi trais adrodd amdano, ac roedd 73 y cant yn fodlon â’r canlyniad
  • Roedd lefelau tebyg o fwlio (chwech y cant) a gwahaniaethu (pedwar y cant) yn cynnwys rheolwyr, cydweithwyr, a'r rhai sy'n derbyn cymorth.

Iechyd a llesiant

Roedd y mesurau llesiant yn dangos lefelau llesiant is ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol na phoblogaeth weithio Cymru. Gan ddefnyddio mesurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar raddfa o 0 (ddim o gwbl) i 10 (yn llwyr), gwelsom fod:

  • boddhad â bywyd yn 6.9, o'i gymharu â 7.6 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 7.5)
  • teimlo'n werth chweil yn 7.3, o'i gymharu â 7.8 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 7.8)
  • hapusrwydd ddoe yn 6.7, o'i gymharu â 7.5 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 7.4)
  • pryder yn 4.1, o'i gymharu â 3.2 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 3.2). 

Fe wnaethon ni hefyd ofyn cwestiynau eraill am lesiant. Fe wnaethon ni ddarganfod fod:

  • 71 y cant yn dweud bod eu morâl yn dda y rhan fwyaf o’r amser neu bob amser
  • 69 y cant o'r rheolwyr yn adrodd iddyn nhw weithio tra'n sâl
  • 55 y cant yn dweud fod ganddyn nhw les ariannol da (yn gwneud yn iawn neu'n byw'n gyfforddus)
  • 14 y cant yn ei chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol, a theimlai 54 y cant ei bod yn anoddach ymdopi'n ariannol eleni na'r llynedd. 

Straen

  • Cytunodd 75 y cant eu bod yn cael trafferth anghofio am y gwaith pan fyddan nhw’n gadael
  • Dywedodd 39 y cant fod eu llwyth gwaith yn achosi straen yn y gwaith. Ar ôl hyn roedd gwaith papur a biwrocratiaeth (37 y cant), poeni am bethau y tu allan i'r gwaith (27 y cant), bod â gormod o gyfrifoldeb (15 y cant) ac anawsterau mewn perthnasau gyda chydweithwyr (12 y cant).

Cefnogaeth

Dywedodd:

  • 72 y cant o’r rheolwyr gofal eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu helpu a'u cefnogi gan eu rheolwr y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser
  • 74 y cant eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu helpu a'u cefnogi gan eu cydweithwyr y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser
  • 59 y cant fod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i ddelio â straen
  • 37 y cant y bydden nhw’n chwilio am wybodaeth am iechyd a lles gan reolwyr
  • 67 y cant y bydden nhw’n chwilio am wybodaeth am gymorth iechyd meddwl gan feddyg teulu.

Cafodd arolwg Dweud Eich Dweud 2026 ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Fforwm Gofal Cymru. Mae'r adroddiad terfynol wedi ei gynhyrchu gan yr ymchwilwyr. 

Lawrlwytho'r adroddiad byr