Arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2026: Crynodeb o ymatebion gan weithwyr cymdeithasol
Dyma grynodeb o'r ymatebion i arolwg Dweud eich Dweud 2026, a holodd weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru am eu profiadau yn gweithio yn y sector.
Roedd yr arolwg yn gofyn am bethau fel:
- nodweddion personol, swydd a chyflogaeth
- gwaith teg, gan gynnwys gwobrwyo teg, cynrychiolaeth, hyblygrwydd a chynnydd gyrfa
- iechyd, lles, straen a chefnogaeth.
Mae’r adroddiad llawn yn rhannu’r canfyddiadau yn dri grŵp o swyddi – gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol, a rheolwyr.
Mae’r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg o rai o’r prif ganfyddiadau am grŵp y gweithwyr cymdeithasol.
Cawsom ni 7,565 o ymatebion i'r arolwg. Roedd 971 ohonyn nhw’n gweithio fel gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr gwaith cymdeithasol, neu mewn rolau gwaith cymdeithasol eraill.
Mae'r sampl yn cynnwys ymatebwyr nad ydyn nhw wedi’u cymhwyso neu eu cofrestru fel gweithwyr cymdeithasol, ond sydd o bosibl yn rheoli timau gwaith cymdeithasol neu’n gweithio mewn timau gwaith cymdeithasol fel cynorthwywyr.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a gweld yr adroddiad llawn, yma.
Demograffeg
Roedd nodweddion personol ymatebwyr gwaith cymdeithasol yn debyg i'r rhai yn arolygon Dweud eich Dweud 2024 a 2025:
- Y grŵp oedran mwyaf cyffredin oedd 40 i 44 oed (15 y cant)
- Roedd 78 y cant yn fenywod, a 22 y cant yn ddynion
- Roedd 93 y cant yn syth/heterorywiol, a saith y cant yn hoyw, lesbiaidd, neu ddeurywiol
- Roedd 76 y cant yn Wyn a 16 y cant yn Ddu
- Dywedodd 23 y cant fod ganddyn nhw gyflwr hirdymor sydd wedi para 12 mis neu fwy. O'r rhai a oedd â chyflwr hirdymor, dywedodd 72 y cant ei fod yn effeithio ar eu gweithredu o ddydd i ddydd
- Dywedodd 31 y cant eu bod yn ofalwr y tu allan i'r gwaith
- Dywedodd 19 y cant eu bod yn niwrowahanol
- Dywedodd 56 y cant eu bod yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg.
Yn 2026, gwelsom ni hefyd fod:
- 87 y cant o'r ymatebwyr yn meddu ar gymwysterau ar Lefel 3 neu uwch (cyfwerth â Safon Uwch neu'n uwch)
- 50 y cant o'r ymatebwyr yn hunan-nodi fel dosbarth gweithiol.
Nodweddion swydd
Roedd:
- 56 y cant yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers 10 mlynedd neu fwy
- 18 y cant o'r rhai a ddywedodd eu bod yn siarad rywfaint o Gymraeg yn dweud eu bod yn defnyddio'r Gymraeg drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser yn y gwaith
- 54 y cant yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn rheolaidd neu'n achlysurol ar gyfer gwaith.
Nodweddion cyflogaeth
Roedd:
- 77 y cant o’r ymatebwyr gwaith cymdeithasol yn gweithio yn y sector cyhoeddus, 19 y cant yn gweithio yn y sector preifat, a pump y cant yn y sector gwirfoddol neu mewn sawl sector
- 84 y cant yn gweithio'n llawn amser
- 52 y cant yn dweud eu bod yn aelodau o undeb llafur.
Cymhelliant, cydnabyddiaeth ac ymrwymiad
Roedd:
- 65 y cant wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod eisiau swydd a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Roedd 42 y cant yn teimlo y bydden nhw’n ei fwynhau, roedd 41 y cant yn teimlo y byddai'n gweddu i'w sgiliau ac roedd gan 24 y cant brofiad personol o ofalu am rywun
- 34 y cant wedi clywed am weithio ym maes gofal cymdeithasol drwy ffrindiau a theulu sy'n gweithio yn y sector, 23 y cant drwy hysbyseb swydd ar-lein, a 21 y cant drwy brofiad personol o ofalu am rywun
- 71 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwyr, roedd 80 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan gydweithwyr, a 75 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw’n eu cefnogi ac yn gofalu amdanynt
- 25 y cant yn ystyried gadael y sector
- 42 y cant yn disgwyl aros yn y sector tan iddyn nhw ymddeol ac roedd 12 y cant yn disgwyl aros yn y sector am lai na blwyddyn.
Cyflog ac amodau
Roedd:
- 95 y cant yn cael Cyflog Byw Gwirioneddol neu uwch
- 37 y cant yn fodlon â’u cyflog
- 57 y cant yn fodlon â'u telerau ac amodau
- 85 y cant yn cael eu cyflogi ar gontractau oriau sefydlog, roedd chwech y cant ar gontractau hyblyg neu achlysurol ac roedd pedwar y cant ar gontractau dim oriau.
Dwysedd a dewis gwaith
Roedd:
- Wyth y cant yn teimlo bod digon o staff ar waith i ddarparu gwasanaethau drwy'r amser
- 42 y cant yn cytuno bod ganddyn nhw ddigon o amser i wneud eu gwaith yn dda
- 43 y cant yn cytuno bod ganddyn nhw ddewis ynghylch pa dasgau maen nhw’n eu gwneud, a chytunodd 68 y cant fod ganddyn nhw ddewis o ran sut maen nhw'n cyflawni eu tasgau.
Ymgynghori, dylanwad a chynrychiolaeth
- Nododd 84 y cant o ymatebwyr gwaith cymdeithasol fod prosesau ffurfiol ar waith ar gyfer llais staff
- Cytunodd 46 y cant yr ymgynghorir â staff bob amser ynghylch newidiadau yn y gwaith
- Roedd 32 y cant yn credu bod eu barn yn cael ei hystyried y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser
- Roedd 81 y cant yn ymwybodol neu'n ymwybodol iawn o'u hawliau cyflogaeth
- Roedd 61 y cant yn cytuno bod eu hawliau cyflogaeth yn cael eu parchu.
Hyfforddiant a chynnydd
Roedd:
- 64 y cant o'r ymatebwyr yn cael adolygiadau perfformiad yn y gwaith
- 77 y cant yn cytuno eu bod wedi cael yr hyfforddiant cywir i wneud eu swydd yn dda
- 56 y cant yn cytuno fod angen mwy o hyfforddiant arnyn nhw i wneud cynnydd yn eu gyrfa
- 31 y cant yn credu bod rhwystrau rhag cael mynediad at hyfforddiant
- 45 y cant eisiau rôl arweinyddiaeth yn y dyfodol, a chredai 57 y cant ei bod yn bosibl dod yn arweinydd
- 21 y cant wedi chwilio am gyfle i gael dyrchafiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd 52 y cant o'r ymatebwyr hyn wedi cyrraedd rhestr fer ac wedi cael cynnig swydd
- 86 y cant yn teimlo bod eu cyflogwr yn gweithredu'n deg o ran penderfyniadau dyrchafu.
Triniaeth deg
- Yn gyffredinol, roedd 30 y cant o’r ymatebwyr gwaith cymdeithasol wedi profi triniaeth wael yn y gwaith. Roedd 27 y cant wedi profi bwlio, 19 y cant wedi profi gwahaniaethu a 10 y cant wedi profi trais yn y gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf
- Bu i 69 y cant o'r rhai a oedd wedi profi bwlio adrodd amdano, ac roedd 39 y cant yn fodlon â’r canlyniad
- Roedd 56 y cant o'r rhai a oedd wedi profi gwahaniaethu wedi adrodd amdano ac roedd 40 y cant yn fodlon â’r canlyniad
- Bu i 89 y cant o'r rhai a oedd wedi profi trais adrodd amdano, ac roedd 66 y cant yn fodlon â’r canlyniad
- Roedd cydweithwyr yn llai tebygol o gael eu nodi fel ffynhonnell y bwlio (pump y cant) na rheolwyr (naw y cant) a’r bobl sy'n derbyn cymorth (11 y cant)
- Roedd lefelau gwahaniaethu gan gydweithwyr (pedwar y cant) yn is na gwahaniaethu gan reolwyr (wyth y cant) ond yn debyg i lefelau gwahaniaethu gan y bobl sy'n derbyn cymorth (pump y cant).
Iechyd a llesiant
Roedd y mesurau llesiant yn dangos lefelau llesiant is ar gyfer y rhai mewn gwaith cymdeithasol na phoblogaeth weithio Cymru. Gan ddefnyddio mesurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar raddfa o 0 (ddim o gwbl) i 10 (yn llwyr), gwelsom ni fod:
- boddhad â bywyd yn 6.5, o'i gymharu â 7.6 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 7.5)
- teimlo'n werth chweil yn 7.0, o'i gymharu â 7.8 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 7.8)
- hapusrwydd ddoe yn 6.6, o'i gymharu â 7.5 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 7.4)
- pryder yn 4.3, o'i gymharu â 3.2 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 3.2).
Fe wnaethon ni hefyd ofyn cwestiynau eraill am lesiant. Fe wnaethon ni ddarganfod fod:
- 60 y cant yn dweud bod eu morâl yn dda y rhan fwyaf o’r amser neu bob amser
- 62 y cant o'r ymatebwyr gwaith cymdeithasol yn adrodd iddyn nhw weithio tra'n sâl
- 46 y cant yn dweud fod ganddyn nhw les ariannol da (yn gwneud yn iawn neu'n byw'n gyfforddus)
- 23 y cant yn ei chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol, a theimlai 56 y cant ei bod yn anoddach ymdopi'n ariannol eleni na'r llynedd.
Straen
- Cytunodd 64 y cant eu bod yn cael trafferth anghofio am y gwaith pan fyddan nhw’n gadael
- Dywedodd 47 y cant fod gwaith papur a biwrocratiaeth yn achosi straen yn y gwaith. Ar ôl hyn roedd llwyth gwaith (44 y cant), poeni am bethau y tu allan i’r gwaith (27 y cant), costau yn ymwneud â’r gwaith (19 y cant), gweithio gyda phlant ac oedolion bregus (16 y cant), a diffyg cefnogaeth gan reolwyr a chydweithwyr (16 y cant).
Cefnogaeth
Dywedodd:
- 67 y cant o’r ymatebwyr gwaith cymdeithasol eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu helpu a'u cefnogi gan eu rheolwr y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser
- 77 y cant eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu helpu a'u cefnogi gan eu cydweithwyr y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser
- 48 y cant fod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i ddelio â straen
- 39 y cant y bydden nhw’n chwilio am wybodaeth am iechyd a lles gan reolwyr
- 69 y cant y bydden nhw’n chwilio am gymorth iechyd meddwl gan feddyg teulu.
Cafodd arolwg Dweud Eich Dweud 2026 ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Fforwm Gofal Cymru. Mae'r adroddiad terfynol wedi ei gynhyrchu gan yr ymchwilwyr.