Arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2026: Crynodeb o ymatebion gan weithwyr gofal
Dyma grynodeb o'r ymatebion i arolwg Dweud eich Dweud 2026, a holodd weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru am eu profiadau yn gweithio yn y sector.
Roedd yr arolwg yn gofyn am bethau fel:
- nodweddion personol, swydd a chyflogaeth
- gwaith teg, gan gynnwys gwobrwyo teg, cynrychiolaeth, hyblygrwydd a chynnydd gyrfa
- iechyd, lles, straen a chefnogaeth.
Mae’r adroddiad llawn yn rhannu’r canfyddiadau yn dri grŵp o swyddi – gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr.
Mae’r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg o rai o’r prif ganfyddiadau am grŵp y gweithwyr gofal.
Cawsom ni 7,565 o ymatebion i'r arolwg, ac roedd 5,418 ohonynt yn weithwyr gofal.
O'r rhain, roedd 45 y cant yn weithwyr cartref gofal i oedolion, 32 y cant yn weithwyr gofal cartref, chwech y cant yn weithwyr gofal plant preswyl, ac roedd 17 y cant mewn rolau gofal 'arall' (fel gwaith cymorth).
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a gweld yr adroddiad llawn, yma.
Demograffeg
Roedd nodweddion personol y gweithwyr gofal yn debyg i'r rhai yn arolygon Dweud eich Dweud 2024 a 2025:
- Y grŵp oedran mwyaf cyffredin oedd 55 i 59 oed (14 y cant)
- Roedd 79 y cant yn fenywod, a 21 y cant yn ddynion
- Roedd 95 y cant yn syth/heterorywiol, a pump y cantyn hoyw, lesbiaidd, neu ddeurywiol
- Roedd 69 y cant yn Wyn, 18 y cant yn Ddu, ac 11 y cant yn Asiaidd
- Dywedodd 19 y cant fod ganddyn nhw gyflwr hirdymor sydd wedi para 12 mis neu fwy. O blith y rhai a oedd â chyflwr hirdymor, dywedodd 67 y cant ei fod yn effeithio ar eu gweithrediad o ddydd i ddydd
- Dywedodd 29 y cant eu bod yn ofalwr y tu allan i'r gwaith
- Dywedodd 10 y cant eu bod yn niwrowahanol
- Dywedodd 40 y cant eu bod yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg.
Yn 2026, gwelsom ni hefyd fod:
- 53 y cant o'r ymatebwyr yn meddu ar gymwysterau ar Lefel 3 neu’n uwch (cyfwerth â Safon Uwch neu'n uwch)
- 65 y cant o'r ymatebwyr yn hunan-nodi fel dosbarth gweithiol.
Nodweddion swydd
- Roedd 40 y cant yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers 10 mlynedd neu fwy
- Roedd 97 y cant wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
- Nododd 17 y cant a ddywedodd eu bod yn siarad rywfaint o Gymraeg eu bod yn defnyddio'r Gymraeg drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser yn y gwaith
- Roedd 22 y cant yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn rheolaidd neu'n achlysurol ar gyfer gwaith.
Nodweddion cyflogaeth
Roedd:
- 32 y cant yn gweithio yn y sector cyhoeddus, 61 y cant yn gweithio yn y sector preifat, a wyth y cant yn gweithio yn y sector gwirfoddol neu mewn sawl sector
- 70 y cant yn gweithio'n llawn amser
- 34 y cant yn dweud eu bod yn aelodau o undeb llafur.
Cymhelliant, cydnabyddiaeth ac ymrwymiad
Roedd:
- 55 y cant wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod eisiau swydd a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Roedd 41 y cant yn teimlo y bydden nhw’n ei fwynhau, roedd 30 y cant yn teimlo y byddai'n gweddu i'w sgiliau ac roedd gan 30 y cant brofiad personol o ofalu am rywun
- 44 y cant wedi clywed am weithio ym maes gofal cymdeithasol drwy ffrindiau a theulu sy'n gweithio yn y sector, 31 y cant drwy hysbyseb swydd ar-lein, ac 19 y cant drwy brofiad personol o ofalu am rywun
- 61 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwyr, roedd 71 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan gydweithwyr, a 78 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw’n eu cefnogi ac yn gofalu amdanynt
- 25 y cant yn ystyried gadael y sector
- 37 y cant yn disgwyl aros yn y sector tan iddynt ymddeol ac roedd 16 y cant yn disgwyl aros mewn gwaith gofal cymdeithasol am lai na deuddeg mis.
Cyflog ac amodau
Roedd:
- 93 y cant yn cael Cyflog Byw Gwirioneddol neu’n uwch
- 29 y cant yn fodlon â’u cyflog
- 56 y cant yn fodlon â'u telerau ac amodau
- 81 y cant yn cael eu cyflogi ar gontractau oriau sefydlog, roedd wyth y cant ar gontractau hyblyg neu achlysurol ac roedd 10 y cant ar gontractau dim oriau.
Dwysedd a dewis gwaith
Roedd:
- 15 y cant yn teimlo bod digon o staff ar waith i ddarparu gwasanaethau drwy'r amser
- 55 y cant yn cytuno bod ganddyn nhw ddigon o amser i wneud eu gwaith yn dda
- 36 y cant yn cytuno bod ganddyn nhw ddewis ynghylch pa dasgau maen nhw’n eu gwneud, a chytunodd 50 y cant fod ganddyn nhw ddewis o ran sut maen nhw'n cyflawni eu tasgau gwaith.
Ymgynghori, dylanwad a chynrychiolaeth
- Nododd 87 y cant fod prosesau ffurfiol ar waith ar gyfer llais staff
- Cytunodd 49 y cant yr ymgynghorir â staff bob amser ynghylch newid yn y gwaith
- Roedd 32 y cant yn credu bod eu barn yn cael ei hystyried y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser
- Roedd 82 y cant yn ymwybodol neu'n ymwybodol iawn o'u hawliau cyflogaeth
- Roedd 55 y cant yn cytuno bod eu hawliau cyflogaeth yn cael eu parchu.
Hyfforddiant a chynnydd
Roedd:
- 83 y cant o'r ymatebwyr yn cael adolygiadau perfformiad yn y gwaith
- 80 y cant yn cytuno eu bod wedi cael yr hyfforddiant cywir i wneud eu swyddi yn dda
- 48 y cant yn cytuno fod angen mwy o hyfforddiant arnyn nhw i wneud cynnydd yn eu gyrfa
- 17 y cant yn credu bod rhwystrau rhag cael mynediad at hyfforddiant
- 38 y cant eisiau rôl arweinyddiaeth yn y dyfodol, a chredai 49 y cant ei bod yn bosibl dod yn arweinydd
- 13 y cant wedi chwilio am gyfle i gael dyrchafiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd 41 y cant o'r ymatebwyr hyn wedi cyrraedd rhestr fer ac wedi cael cynnig swydd
- 85 y cant yn teimlo bod eu cyflogwr yn gweithredu'n deg o ran penderfyniadau dyrchafu.
Triniaeth deg
- Yn gyffredinol, roedd 30 y cant o'r gweithwyr gofal wedi profi triniaeth wael yn y gwaith. Roedd 27 y cant wedi profi bwlio, 18 y cant wedi profi gwahaniaethu a 21 y cant wedi profi trais yn y gwaith yn ystod y deuddeg mis diwethaf
- Bu i 74 y cant o'r rhai a oedd wedi profi bwlio adrodd amdano, ac roedd 39 y cant yn fodlon â’r canlyniad
- Roedd 59 y cant o'r rhai a oedd wedi profi gwahaniaethu wedi adrodd amdano ac roedd 30 y cant yn fodlon â’r canlyniad
- Bu i 91 y cant o'r rhai a oedd wedi profi trais adrodd amdano, ac roedd 51 y cant yn fodlon â’r canlyniad
- Adroddwyd bod lefelau is o’r bwlio gan reolwyr (chwech y cant) na gan gydweithwyr (wyth y cant) a'r rhai sy'n defnyddio cymorth (naw y cant)
- Roedd y lefelau o wahaniaethu gan reolwyr, cydweithwyr, a'r rhai sy'n derbyn cymorth yn debyg (pump i chwech y cant).
Iechyd a llesiant
Roedd y mesurau llesiant yn dangos lefelau llesiant is ar gyfer gweithwyr gofal na phoblogaeth weithio Cymru. Gan ddefnyddio mesurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar raddfa o 0 (ddim o gwbl) i 10 (yn llwyr), gwelsom ni fod:
- boddhad â bywyd yn 6.5, o'i gymharu â 7.6 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 7.5)
- teimlo'n werth chweil yn 7.1, o'i gymharu â 7.8 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 7.8)
- hapusrwydd ddoe yn 6.7, o'i gymharu â 7.5 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 7.4)
- pryder yn 4.1, o'i gymharu â 3.2 ar gyfer gweithwyr ar draws pob sector yng Nghymru (cyfartaledd y DU 3.2).
Fe wnaethon ni hefyd ofyn cwestiynau eraill am lesiant. Fe wnaethon ni ddarganfod fod:
- 68 y cant yn dweud bod eu morâl yn dda y rhan fwyaf o’r amser neu bob amser
- 58 y cant o'r gweithwyr gofal yn adrodd iddyn nhw weithio tra'n sâl.
- 39 y cant yn dweud fod ganddyn nhw les ariannol da (yn gwneud yn iawn neu'n byw'n gyfforddus)
- 27 y cant yn ei chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol, a theimlai 51 y cant ei bod yn anoddach ymdopi'n ariannol eleni na'r llynedd.
Straen
- Cytunodd 56 y cant eu bod yn cael trafferth anghofio am y gwaith pan fyddan nhw’n gadael
- Dywedodd 22 y cant fod eu llwyth gwaith yn achosi straen yn y gwaith. Ar ôl hyn roedd poeni am bethau y tu allan i’r gwaith (24 y cant), gwaith papur a biwrocratiaeth (17 y cant), diffyg cefnogaeth gan reolwyr a chydweithwyr (16 y cant) a chostau cysylltiedig â’r gwaith (15 y cant).
Cefnogaeth
Dywedodd:
- 61 y cant eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu helpu a'u cefnogi gan eu rheolwr y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser
- 71 y cant eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu helpu a'u cefnogi gan eu cydweithwyr y rhan fwyaf o'r amser neu bob amser
- 48 y cant fod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i ddelio â straen
- 35 y cant y bydden nhw’n chwilio am wybodaeth am iechyd a lles gan reolwyr
- 62 y cant y bydden nhw’n chwilio am gymorth iechyd meddwl gan feddyg teulu.
Cafodd arolwg Dweud Eich Dweud 2026 ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Fforwm Gofal Cymru. Mae'r adroddiad terfynol wedi ei gynhyrchu gan yr ymchwilwyr.