Skip to Main content

O ymchwil i realiti: Deall AI mewn gofal cymdeithasol

Mae AI yn symud yn gyflym o fod yn syniad damcaniaethol i fod yn rhan o ymarfer bob dydd ym maes gofal cymdeithasol. Ond beth mae hyn yn ei olygu i'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol?

Ymunwch â'r Gymuned Ddata a'r Gymuned Ddigidol am sesiwn gyda Oliver Bruff o'r sefydliad Ada Lovelace. Byddwn yn edrych ar sut mae AI eisoes yn cael ei ddefnyddio ym maes gofal cymdeithasol a beth allwn ni ei ddysgu o ymchwil gyfredol.

Gan dynnu ar astudiaethau o ddadansoddeg ragfynegol mewn gwasanaethau plant a'r defnydd cynyddol o offer trawsgrifio AI gan ymarferwyr, bydd y sesiwn hon yn edrych ar y cyfleoedd a'r heriau y mae AI yn eu cyflwyno mewn sefyllfaoedd go iawn ym maes gofal cymdeithasol.

Drwy gymryd rhan, byddwch yn gallu:

  • deall y gwahaniaeth rhwng dadansoddeg ragfynegol ac AI cynhyrchiol
  • archwilio sut mae AI yn cael ei ddefnyddio mewn gofal cymdeithasol heddiw
  • dysgu am ffyrdd ymarferol o ddefnyddio AI yn gyfrifol mewn gofal cymdeithasol.

Os ydych yn weithiwr cymdeithasol sydd â diddordeb yn effaith AI ar ymarfer, yn ddadansoddwr sy'n archwilio dulliau sy'n seiliedig ar ddata, yn weithiwr digidol sy'n helpu i gefnogi mabwysiadu technoleg yn eich sefydliad neu os oes gennych ddiddordeb yn yr ymchwil hon yn syml, mae croeso i chi ymuno â ni.

Mae'r sesiwn yn agored i bawb, ond mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a bydd aelodau'r cymunedau yn cael blaenoriaeth.

Archebwch eich lle

Archebwch eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn

Cwblhewch ein ffurflen byr ar-lein er mwyn sicrhau eich lle.

Become a community member

Dysgu mwy am y cymunedau data a digidol.