Pam mae eiriolaeth yn bwysig i bobl ifanc ag anableddau dysgu
Dod yn oedolyn yw un o'r trawsnewidiadau mwyaf y bydd pobl ifanc mewn gofal yn eu hwynebu.
Mae ein crynodeb tystiolaeth ddiweddaraf yn archwilio sut y gall eiriolaeth gefnogi pobl ag anableddau dysgu wrth iddyn nhw bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion.
Dywedodd Flossie Caerwynt, ein Swyddog Ymchwil ac awdur y grynodeb newydd:
“Mae ein crynodeb dystiolaeth newydd yn archwilio’r rôl, a'r mathau, o eiriolaeth sydd ar gael pan fydd pobl ifanc yn pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion. Rydyn ni hefyd yn edrych ar yr heriau sy'n wynebu pobl ifanc ag anableddau dysgu yn ystod y pontio hwn, a phwysigrwydd cynnwys y person wrth wneud penderfyniadau.”
Mae ein crynodeb newydd hefyd yn edrych ar:
- rôl rhiant neu ofalwr wrth eirioli dros bobl ifanc ag anableddau dysgu
- eiriolaeth mewn deddfwriaeth
- bwysigrwydd cael mynediad at, a dealltwriaeth o wybodaeth i ddylanwadu ar benderfyniadau am eu gofal.
Dyma'r trydydd crynodeb tystiolaeth mewn cyfres arbennig sy'n edrych ar wahanol agweddau ar bontio o wasanaethau gofal cymdeithasol plant i oedolion.
Rydyn ni'n cynhyrchu'r gyfres hon mewn ymateb i'n gwaith gosod blaenoriaethau ymchwil diweddar. Roedden ni eisiau darganfod pa rwystrau, problemau ac ansicrwydd y mae pobl ifanc yn eu hwynebu fel rhan o bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion.
Mwy o wybodaeth
Darllenwch ein crynodeb dystiolaeth newydd, Pontio: eiriolaeth i bobl ifanc ag anableddau dysgu ar ein gwefan y Grŵp Gwybodaeth.
Mae ein dau grynodeb blaenorol ar bontio ar gael yma:
- Pontio: safbwyntiau pobl ifanc a'u teuluoedd
- Pontio: cyd-gynhyrchu a chefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal
Cadwch lygad ar ein gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol am grynodebau newydd.