Skip to Main content

Defnyddio ymchwil i gefnogi pobl ifanc i ddeall gwasanaethau i oedolion

21 Medi 2026

Rydyn ni wedi cyhoeddi crynodeb o dystiolaeth newydd sy'n archwilio sut mae pobl ifanc sy'n pontio i fod yn oedolion yn deall pa wasanaethau sydd ar gael i'w cefnogi.

Drwy ein hymarfer gosod blaenoriaethau ar gyfer pontio i wasanaethau ofal oedolion, glywon ni fod pobl ifanc weithiau yn wynebu rhwystrau. Mae’r rhwystrau hyn yn cynnwys:

  • diffyg gwybodaeth glir o ba gefnogaeth sydd ar gael neu ar goll gan wasanaethau i oedolion
  • anhawster gwybod sut i gael mynediad at gefnogaeth
  • rhannu gwybodaeth yn wael rhwng gwasanaethau plant ac oedolion.

Mae'r crynodeb newydd yn nodi ymchwil sy'n esbonio mwy am y problemau hyn a sut y gellir mynd i'r afael â nhw. 

Mae ymchwil yn dangos nad yw darparu gwybodaeth am wasanaethau oedolion yn unig yn ddigon i sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad at y cymorth maen nhw eu hangen. Mae angen i bobl ifanc allu ac i fod yn barod i chwilio, cael mynediad, deall, a gweithredu ar y wybodaeth hefyd. 

Mae'r rhwystrau sy’n gallu atal mynediad a dealltwriaeth o’r wybodaeth yn cynnwys:

  • bod ag ofn cael eu gwrthod
  • ddim yn gwybod beth sydd ar gael 
  • gwybodaeth anhygyrch neu annibynadwy 
  • gwybodaeth sy'n cymryd gormod o amser neu egni i'w deall.

Mae ein crynodeb tystiolaeth newydd yn dadansoddi'r broses o chwilio am help, er mwyn dangos lle mae pobl ifanc yn profi rhwystrau i ddeall gwybodaeth.  Rydyn ni hefyd yn edrych ar bobl ifanc sydd ddim wedi ymgysylltu â'r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw. Rydyn ni’n gwneud hyn i ddangos sut mae’n yn cysylltu gyda’r rhwystrau i ddealltwriaeth a rhannu gwybodaeth.

Darllenwch ein crynodeb o dystiolaeth newydd

Darllenwch ein crynodeb tystiolaeth newydd, Pontio: cefnogi pobl ifanc i ddeall gwasanaethau i oedolion, ar ein gwefan y Grŵp Gwybodaeth. 

Ein cyfres pontio o wasanaethau plant i oedolion

Dyma'r pedwerydd mewn cyfres o grynodebau sy'n edrych ar wahanol agweddau ar bontio o wasanaethau gofal cymdeithasol plant i oedolion. 

Mae crynodebau eraill yn y gyfres yn cynnwys:

Rydyn ni'n cynhyrchu'r gyfres hon mewn ymateb i'n gwaith gosod blaenoriaethau ymchwil. Yn y gyfres hon rydyn ni’n darganfod pa rwystrau, problemau ac ansicrwydd y mae pobl ifanc yn eu hwynebu fel rhan o bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion.