Skip to Main content

Dweud eich Dweud 2026: dod i adnabod ein rheolwyr gofal cymdeithasol

03 Tachwedd 2026

Wythnos yma, rydyn ni'n rhoi sylw i'r hyn ddywedodd rheolwyr wrthyn ni fel rhan o arolwg Dweud Eich Dweud 2026 

Mae eu hymatebion yn dangos gweithlu gyda blynyddoedd o brofiad, awydd i barhau i ddysgu ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol - ond hefyd rhai heriau. 

Felly, beth ddywedodd rheolwyr gofal cymdeithasol wrthyn ni am eu profiadau, amodau gwaith ac uchelgeisiau? 

Profiad, llais a datblygiad

Mae'r ymatebion yn tynnu sylw at weithlu sydd â phrofiad sylweddol.  

Roedd 81 y cant o reolwyr wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol am 10 mlynedd neu fwy, tra bod 58 y cant yn gallu siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg. 

Roedd canfyddiadau cadarnhaol hefyd ynghylch dysgu a phrosesau yn y gweithle: 

Dywedodd 96 y cant fod prosesau ffurfiol ar waith i alluogi llais staff. 

Cytunodd 79 y cant fod ganddyn nhw’r hyfforddiant cywir i wneud eu gwaith yn dda. 

Roedd 95 y cant yn ymwybodol neu'n ymwybodol iawn o'u hawliau cyflogaeth. 

Roedd 57 y cant yn dymuno ymgymryd â rôl arweinyddol yn y dyfodol.

Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau hefyd yn amlygu meysydd lle gellid gwella profiadau rheolwyr. 

Er bod llawer wedi nodi bod prosesau ffurfiol ar waith i sicrhau llais staff, dim ond hanner (52 y cant) oedd yn teimlo bod eu barn yn cael ei hystyried y rhan fwyaf o'r amser neu drwy'r amser. Ac er bod 79 y cant yn teimlo bod ganddyn nhw’r hyfforddiant cywir i wneud eu gwaith yn dda, dywedodd 43 y cant fod angen mwy o hyfforddiant  i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Understanding the challenges

The survey also explored well-being and workplace pressures. 

Three quarters of managers who responded to the survey said they struggled to switch off when they left work. Workload was a source of stress for many (39 per cent), while 37 per cent identified paperwork and bureaucracy as a cause. 

Mae'r canfyddiadau hyn yn helpu i greu darlun mwy cyflawn o brofiadau rheolwyr, gan amlygu'r hyn sy'n gweithio'n dda a'r meysydd lle gallai fod angen ystyriaeth bellach.

Darllenwch y canfyddiadau llawn

Dyma gipolwg yn unig o'r hyn  a ddywedodd rheolwyr wrthyn ni trwy ein harolwg Dweud eich Dweud yn 2026. 

Darllenwch arolwg gweithlu llawn 2026 Dweud eich Dweud: yma 

Cynhaliwyd yr arolwg gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru, gyda chefnogaeth Fforwm Gofal Cymru.