Arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2025: Adroddiad llawn a chrynodeb o ymatebion
Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys canfyddiadau arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2025, a holodd weithwyr gofal cymdeithasol am bethau fel eu hiechyd a’u llesiant, tâl ac amodau, a beth maen nhw’n ei hoffi am weithio yn y sector.
Derbynon ni 5,707 o ymatebion wedi'u cwblhau, o amrywiaeth o rolau. Roedd cyfanswm yr ymatebion i’r arolwg yn cynnwys:
- 3,546 o weithwyr gofal
- 750 o weithwyr cymdeithasol
- 492 o reolwyr
- 919 o ymatebwyr mewn rolau swyddi eraill, neu nad oedd wedi rhestru eu rôl swydd.
Mae'r adroddiad llawn ar gael mewn fformatau PDF a Microsoft Word.
Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu adroddiad byr sy'n rhoi crynodeb o'r canfyddiadau. Gallwch lawrlwytho'r adroddiad byr fel dogfen Microsoft Word, neu ei ddarllen isod.
Mae adroddiadau byr hefyd ar gael ar gyfer y tri grŵp swydd canlynol:
Fe wnaethon ni gyhoeddi’r adroddiad llawn, a phob un o’r adroddiadau byr, ar 12 Tachwedd 2025. Ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru am ddarn newyddion sy’n cynnwys ymateb gan Brif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru Sarah McCarty a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Dawn Bowden.
Isod mae crynodeb o ganfyddiadau'r adroddiad.
Demograffeg
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- fel yn 2024, yr oedran fwyaf cyffredin oedd rhwng 55 a 59 oed
- 77 y cant yn fenywaidd a 21 y cant yn wrywaidd, sydd hefyd yn adlewyrchu canfyddiadau 2025
- 89 y cant yn syth/heterorywiol, dau y cant yn hoyw neu’n lesbiaidd, a dau y cant yn ddeurywiol
- 73 y cant yn Wyn, 16 y cant yn Ddu, a chwech y cant yn Asiaidd
- 24 y cant yn dweud bod ganddyn nhw gyflwr hirdymor sydd wedi para 12 mis neu fwy. O’r rhai â chyflwr hirdymor, dywedodd 61 y cant ohonyn nhw ei fod yn effeithio ar eu gweithredu o ddydd i ddydd
- 32 y cant yn awgrymu eu bod yn ofalwr y tu allan i’r gwaith
- 11 y cant yn dweud eu bod yn niwrowahanol
- 40 y cant yn dweud eu bod yn gallu siarad o leiaf ychydig o Gymraeg
- 32 y cant o'r ymatebion yn weithwyr cartrefi gofal oedolion, 23 y cant yn weithwyr gofal cartref, a naw y cant yn weithwyr gofal eraill
- y meysydd gwasanaeth mae pobl yn gweithio ynddyn nhw yn cynnwys pobl hŷn (48 y cant), dementia (42 y cant), anabledd dysgu (40 y cant), iechyd meddwl (36 y cant), anabledd corfforol (32 y cant), a chefnogaeth i ofalwyr (20 y cant)
- 47 y cant wedi gweithio mewn gofal cymdeithasol am naw mlynedd neu fwy
- 84 y cant yn gweithio i un cyflogwr ac yn derbyn cyflog. O'r rhain, roedd 67 y cant yn gweithio oriau llawn amser, a 17 y cant yn gweithio rhan amser. Roedd 11 y cant yn gweithio i un cyflogwr ar oriau hyblyg
- 35 y cant yn dweud eu bod yn aelodau o undeb llafur, gyda'r rhan fwyaf yn aelod o UNISON (23 y cant) neu GMB (chwech y cant).
Recriwtio a chadw
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- fel yn y blynyddoedd blaenorol, dechreuodd y rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol (50 y cant) weithio mewn gofal cymdeithasol oherwydd eu bod eisiau swydd a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Y rhesymau nesaf a ddewiswyd amlaf dros weithio mewn gofal cymdeithasol oedd oherwydd bod ymatebwyr yn teimlo y bydden nhw’n ei fwynhau (12 y cant), yn meddwl y byddai'n addas i'w sgiliau (11 y cant), neu oherwydd profiad personol o ofalu am rywun (9 y cant). Gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un rheswm
- 49 y cant wedi clywed am weithio ym maes gofal cymdeithasol gan ffrindiau a theulu oedd yn gweithio yn y sector, 27 y cant drwy swydd wedi’i hysbysebu ar-lein, ac 11 y cant drwy ffeiriau neu gwmnïau recriwtio
- 20 y cant yn bwriadu gadael y sector, yn gyffredinol o fewn 14 mis. Mae hyn yn cynrychioli gwelliant bach ers 2024, pan oedd 25 y cant yn bwriadu gadael o fewn cyfartaledd o 13 mis.
Arweinyddiaeth, hyfforddiant a datblygiad
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 43 y cant eisiau rôl arweinyddiaeth yn y dyfodol, sydd ychydig yn is na yn 2024 (47 y cant) ac yn sylweddol uwch na yn 2023 (36 y cant)
- 58 y cant yn credu ei bod yn bosibl iddyn nhw ddod yn arweinydd, canfyddiad tebyg i 2024 (60 y cant) a 2023 (50 y cant)
- 27 y cant wedi ceisio cyfle i gynnydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy’n sylweddol is na ffigur 2024 (37 y cant)
- 86 y cant wedi dweud eu bod wedi cael hyfforddiant digonol i wneud eu swyddi yn dda, a dywedodd 83 y cant eu bod wedi cael digon o hyfforddiant i gyflawni gofynion DPP. Mae’r canfyddiadau hyn yn debyg i’r rhai yn 2024 (87 y cant a 80 y cant, yn y drefn honno) ac yn dangos gwelliannau ers 2023 (79 y cant a 77 y cant, yn y drefn honno)
- 47 y cant yn dweud eu bod angen mwy o hyfforddiant i gynyddu mewn gyrfa, gan aros yn gyson â 2024 a 2023
- 66 y cant yn dweud nad oedden nhw’n cael unrhyw broblemau wrth gael mynediad at hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith, sy’n debyg i 2024.
Bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu
Yma, rydyn ni’n cyflwyno canran y rheolwyr a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu o wahanol ffynonellau yn y 12 mis diwethaf. Mae'r canrannau o ymatebwyr a adroddodd am fwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu gan bob ffynhonnell yn debyg i'r rhai yn 2024.
- Gan reolwyr: Bwlio (wyth y cant), gwahaniaethu (saith y cant), aflonyddu (pedwar y cant). O'r rheini a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o'r rhain gan reolwr, dywedodd 45 y cant fod hwn wedi'i adrodd ganddyn nhw eu hunain neu gan gydweithiwr. O’r rhai a adroddodd, teimlodd 24 y cant o'r rheini ei fod wedi'i ddelio ag ef yn ddigonol.
- Gan gydweithwyr: Bwlio (saith y cant), gwahaniaethu (pum y cant), aflonyddu (pedwar y cant). O'r rheini a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o'r rhain gan gydweithwyr, dywedodd 55 y cant fod hwn wedi'i adrodd ganddyn nhw eu hunain neu gan gydweithiwr. O’r rhai a adroddodd, teimlodd 37 y cant o'r rheini ei fod wedi'i ddelio ag ef yn ddigonol.
- Oddi wrth y bobl maent yn eu cefnogi neu eu teuluoedd: Bwlio (pedwar y cant), gwahaniaethu (pedwar y cant), camdriniaeth (chwech y cant). O’r bobl a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain oddi wrth y bobl maent yn eu cefnogi neu eu teuluoedd, dywedodd 73 y cant fod hyn wedi cael ei adrodd ganddyn nhw eu hunain neu gan gydweithiwr. O’r rhai a adroddodd, teimlai 46 y cant o’r rheini ei fod wedi cael ei ddelio ag ef yn ddigonol.
Fe wnaethon ni hefyd ddod i’r casgliad bod 69 y cant yn teimlo bod eu cyflogwr wedi gweithredu’n deg mewn penderfyniadau am gynnydd gyrfa a hyfforddiant, mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig. Mae hyn ychydig yn is na 70 y cant yn 2024.
Cyflog, telerau ac amodau
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 69 y cant yn hapus gyda'u telerau ac amodau. Mae hyn wedi cynyddu o 68 y cant yn 2024
- 12 y cant yn gweithio gyda chontract dim-oriau, sy'n debyg i 2024. O'r rhai oedd ar gontract dim-oriau, awgrymodd 64 y cant y bydden nhw’n hoffi bod ar gontract oriau sefydlog neu rheolaidd
- 29 y cant yn awgrymu eu bod ‘dim ond yn llwyddo o drwch blewyn i dalu am bopeth angenrheidiol’. Roedd 46 y cant yn ‘byw'n gyfforddus’ neu’n ‘gwneud yn iawn’, cynnydd oddi wrth 42 y cant yn 2024 a 29 y cant yn 2023. Roedd 22 y cant yn ei chael yn ‘eithaf’ neu’n ‘anodd iawn’ i ymdopi’n ariannol, sydd wedi gostwng o 23 y cant yn 2024 a 33 y cant yn 2023
- 48 y cant yn dweud ei fod yn ‘llawer’ neu ‘ychydig’ yn fwy anodd i ymdopi'n ariannol o gymharu â'r llynedd. Mae hyn wedi gostwng o 59 y cant yn 2024 ac 82 y cant yn 2023. Roedd 13 y cant yn dweud ei fod yn ‘ychydig’ neu ‘lawer’ yn haws, cynnydd oddi wrth 11 y cant yn 2024 a tri y cant yn 2023
- 42 y cant yn anfodlon â'u tâl, sydd wedi lleihau o 46 y cant yn 2024 a 57 y cant yn 2023. Roedd 38 y cant yn fodlon, gan godi o 35 y cant yn 2024 a 26 y cant yn 2023.
Iechyd a llesiant
Fe wnaethon ni asesu llesiant y gweithlu gan ddefnyddio'r ONS4. Mae'r rhain yn bedwar mesur sy’n cael eu defnyddio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gofnodi gwahanol fathau o lesiant personol ar raddfa o 0 i 10. Cymharon ni’r ymateb cyfartalog o’r arolwg hwn gyda chyfartaledd y DU ar gyfer pob mesur. Hefyd, cymharon ni ganlyniadau eleni gyda chyfartaldebau 2024. Mae pob un o'r canfyddiadau isod yn uwch na chyfartaledd y DU a ffigurau 2024:
- Boddhad â bywyd: 7.78 (cyfartaledd y DU: 7.45, cyfartaledd 2024: 6.54)
- Mae bywyd yn werth chweil: 8.25 (cyfartaledd DU: 7.73, cyfartaledd 2024: 7.11)
- Hapusrwydd ddoe: 7.75 (cyfartaledd y DU: 7.39, cyfartaledd 2024: 6.58)
- Gorbryder: 5.30 (cyfartaledd y DU: 3.23, cyfartaledd 2024: 4.35)
Gofynnon ni gwestiynau eraill am lesiant hefyd. Fe wnaethon ni ddarganfod:
- fod 83 y cant yn dweud bod eu morâl yn dda. Mae hyn wedi cynyddu o 77 y cant yn 2024 a 65 y cant yn 2023
- fod 54 y cant yn dweud eu bod yn cael trafferth peidio meddwl am y gwaith ar ôl gorffen, i lawr o 57 y cant yn 2024 a 63 y cant yn 2023
- fod 44 y cant yn awgrymu eu bod wedi cael digon o gefnogaeth i ymdopi â straen. Mae hyn wedi cynyddu o 41 y cant yn 2024 a 31 y cant yn 2023
- mai prif achosion straen oedd llwyth gwaith (35 y cant), gwaith papur neu lwyth gweinyddol (27 y cant), a phoeni am bethau y tu allan i'r gwaith (24 y cant). Y rhain hefyd oedd achosion mwyaf o straen yn 2024, gyda niferoedd tebyg o ymatebwyr yn adrodd ar bob un
- 46 y cant yn awgrymu eu bod wedi mynychu gwaith o leiaf ddwywaith yn y flwyddyn ddiwethaf er eu bod mor sâl y dylen nhw fod wedi aros gartref. Mae hwn wedi gostwng o 52 y cant yn 2024.
Amodau gweithio
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 73 y cant yn dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi cael cymorth a chefnogaeth gan eu rheolwr. Mae hyn wedi cynyddu o 70 y cant yn 2024 a 66 y cant yn 2023
- 81 y cant yn dweud eu bod wedi teimlo eu bod wedi cael cymorth a chefnogaeth gan eu cydweithwyr. Mae hyn wedi cynyddu o 79 y cant yn 2024 a 78 y cant yn 2023
- 66 y cant yn awgrymu bod ganddyn nhw’r staff cywir i ddarparu gwasanaethau. Mae hyn wedi cynyddu o 57 y cant yn 2024 a 54 y cant yn 2023.
- 78 y cant yn teimlo eu bod yn gallu bodloni anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu cynorthwyo. Mae hyn wedi cynyddu o 75 y cant yn 2024 a 70 y cant yn 2023
- 62 y cant yn teimlo'n ddiogel yn eu rôl. Mae hyn wedi cynyddu o 66 y cant yn 2024
- 59 y cant yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o amser i wneud eu swydd yn dda. Mae hyn wedi cynyddu o 55 y cant yn 2024 a 49 y cant yn 2023.
Gofynnon ni hefyd faint yr oedd pobl yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y gwahanol grwpiau maen nhw’n rhyngweithio â nhw.
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 68 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwr, i lawr o 70 y cant yn 2024 ac i fyny o 61 y cant yn 2023
- 78 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cydweithwyr, i lawr o 80 y cant yn 2024 ac i fyny o 71 y cant yn 2023
- 81 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl y maen nhw’n eu cynorthwyo, i fyny o 80 y cant yn 2024 a 76 y cant yn 2023
- 56 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan asiantaethau partner, i lawr o 57 y cant yn 2024 ac i fyny o 48 y cant yn 2023
- 50 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd yn gyffredinol, sy’n gyson â 51 y cant yn 2024 ac i fyny o 44 y cant yn 2023.
Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan ymchwilwyr yn Buckinghamshire New University a Bath Spa University, a chydweithwyr o Gymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW).