
Emyr Williams
Uwch arweinydd gwerthuso
ymchwil@gofalcymdeithasol.cymruRwy'n teimlo'n angerddol am bwysigrwydd gofal cymdeithasol a'r gwahaniaeth mae'n gallu gwneud i fywydau pobl. Dyna'r rheswm rwy'n cefnogi gwerthuso i'ch helpu chi i ddysgu, ac i ddangos yr effaith rydych chi'n ei chael ar fywydau pobl.
Mae gen i dros 15 mlynedd o brofiad o ddangos effaith ar draws amrywiaeth o feysydd polisi cymdeithasol. Fues yn gweithio ym maes darparu gwasanaethau rheng flaen i ddarparu cyngor polisi ar sail tystiolaeth i Lywodraeth Cymru.
Mae fy mhrofiad blaenorol yn cynnwys rhedeg elusen ieuenctid, datblygiad cymunedol, cynnal ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac Y Lab, yn ogystal â chefnogi a gwerthuso effaith datblygiadau arloesol yn y sector cyhoeddus.
Felly, os hoffech chi ddarganfod sut allai helpu eich gwaith, cysylltwch â fi am sgwrs anffurfiol. Gwnaf fy ngorau i helpu mewn unrhyw ffordd posibl.