
Alison Kulkowski
Uwch-arweinydd partneriaethau
grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymruRwy'n gweithio ar y cyd â phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi a hyrwyddo arloesedd ar draws y sector.
Rwyf wedi gweithio am 20 mlynedd ar draws gofal cymdeithasol ac addysg uwch, mewn cynllunio a datblygu gwasanaethau, cydymffurfio, a gweithredu strategaethau, polisïau a phrosiectau. Rwy'n angerddol am weithio ar y cyd i greu newid cadarnhaol ac yn credu bod perthnasoedd cryf wrth wraidd timau a phrosiectau llwyddiannus.