Llunio diwylliant
Defnyddiwch y dudalen hon i gael cymorth i arwain a chyfrannu at ddiwylliant sy’n gwneud cymryd risg cadarnhaol ac ystyrlon yn bosibl.
Beth sy’n gwneud diwylliant cadarnhaol?
Dysgwch am yr egwyddorion allweddol sy’n cyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol a chefnogol. Mae hyn yn cynnwys arwain gyda thosturi a helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Mae hefyd yn golygu annog amgylchedd gwaith sy’n cydbwyso risgiau, hawliau a chyfrifoldebau. Defnyddiwch oruchwyliaeth fyfyriol (reflective practice) i annog a chefnogi cymryd risgiau cytbwys sy’n cyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol.
Dyma rai cyfleoedd a allai fod yn ddefnyddiol:
Sbarduno newid drwy fyfyrio beirniadol
Mae llunio diwylliant cadarnhaol hefyd yn ymwneud â gwneud penderfyniadau ar y cyd. Mae hyn yn golygu dod â phobl at ei gilydd a chreu cyfleoedd i fyfyrio’n feirniadol a chymryd rhan. Dyma rai cyfleoedd i’ch helpu chi:
- Academi Wales (cyrsiau preswyl, rhaglenni datblygu arweinyddiaeth, cyrsiau byr a dosbarthiadau arbenigwyr)
- Cwrs hyfforddi Catalydd Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP): gwneud penderfyniadau ar y cyd*
- Rhaglen Datblygu Rheolwyr Tîm.
*Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Gallwch chi chwilio drwy ein tudalen digwyddiadau neu gysylltu â'r grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru i gael gwybod pryd bydd y sesiwn nesaf yn cael ei chynnal os nad yw’n cael ei hysbysebu ar hyn o bryd.
Rhannu a dysgu
Rydyn ni wedi sefydlu cymunedau ymarfer i rannu gwybodaeth, gwella a datblygu gwybodaeth a sgiliau. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae’r model hwn yn gweithio yma:
*Mae’r rhain yn gyfleoedd sy’n cael eu cynnal ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn. Gwiriwch y dyddiadau gyda’r darparwyr.
Cysylltu â ni
Rydyn ni’n croesawu eich adborth ar yr adnodd hwn. Hoffen ni glywed eich awgrymiadau am unrhyw gyfleodd neu ddolenni ychwanegol y gallwn ni eu cynnwys.
Gallwch chi anfon e-bost at: grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.