Defnyddio tystiolaeth
Defnyddiwch y dudalen hon i gefnogi defnyddio tystiolaeth yn eich ymarfer ac wrth wneud penderfyniadau.
Dod o hyd i ymchwil a thystiolaeth
Mae'r dolenni yma'n cyfeirio at dystiolaeth sy'n berthnasol i'ch ymarfer:
- Canllaw adnoddau ar ddefnyddio tystiolaeth: dod o hyd i dystiolaeth bresennol
- Crynodebau Tystiolaeth
- E-Lyfrgell y GIG*
- Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru.
*Bydd angen i chi gofrestru eich hun ar gyfer cyfrif OpenAthens GIG Cymru i gael mynediad at y llyfrgell. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n gymwys, anfonwch e-bost at elibrary@wales.nhs.uk.
Penderfynu pryd a sut i ddefnyddio tystiolaeth
Efallai y bydd y cyfeiriadau hyn yn ddefnyddiol i chi os oes angen help arnoch i asesu ansawdd gwahanol fathau o ymchwil a thystiolaeth. Gallan nhw hefyd eich helpu i benderfynu a yw ymchwil a thystiolaeth yn berthnasol i'ch ymarfer a'ch cyd-destun lleol:
- Cwrs hyfforddi catalydd - Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP)*
- Ymarfer myfyriol a chyd-gynhyrchu: cymuned ymholi (sesiynau byr DEEP)*.
*Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Gallwch chi chwilio drwy ein tudalen digwyddiadau neu gysylltu â'r grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru i gael gwybod pryd bydd y sesiwn nesaf yn cael ei chynnal os nad yw’n cael ei hysbysebu ar hyn o bryd.
Sut i roi ymchwil a thystiolaeth ar waith
Rydyn ni’n cynnal gweithdai sgiliau ymchwil i'ch helpu i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i gefnogi eich gwaith.
Bydd y gweithdai yn eich helpu gyda’r canlynol:
- deall sut a phryd i roi ymchwil a thystiolaeth ar waith
- nodi cyfleoedd i ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru.
Dysgu gan eraill
Mae dysgu am brosiectau gwahanol yn ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio new mannau eraill a pha rwystrau sydd wedi'u hwynebu a'u goresgyn. Mae hefyd yn tynnu sylw at ymchwil sydd eisoes yn bodoli a'r hyn y gallwn ni ei ddysgu ohono. Gallwch chi archwilio prosiectau eraill yma:
Cynnal eich ymchwil eich hun
Gall yr opsiynau hyfforddi ar-lein hyn eich helpu i nodi cyfleoedd ymchwil a chynnal eich ymchwil eich hun:
Cyfathrebu canfyddiadau eich ymchwil
Archwiliwch sut y gallwch chi rannu canfyddiadau eich ymchwil (llwyddiannau a heriau) drwy ddefnyddio fformatau diddorol a all lywio penderfyniadau ac ymarfer:
*Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Gallwch chi chwilio drwy ein tudalen digwyddiadau neu gysylltu â'r grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru i gael gwybod pryd bydd y sesiwn nesaf yn cael ei chynnal os nad yw’n cael ei hysbysebu ar hyn o bryd.
Cysylltu â ni
Rydyn ni’n croesawu eich adborth ar yr adnodd hwn. Hoffen ni glywed eich awgrymiadau am unrhyw gyfleodd neu ddolenni ychwanegol y gallwn ni eu cynnwys.
Gallwch chi anfon e-bost at: grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.