
Rydyn ni wedi lansio'r Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella newydd
Rydyn ni’n falch i rannu bod yr Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella bellach yn fyw.

“Syml, defnyddiol, popeth mewn un lle - i'r rhai sy'n fyr o amser.”
(Adborth o'r prawf defnyddwyr)
Beth yw'r adnodd?
Dywedoch chi fod rhwystrau i ymchwil, arloesi a gwella.
Fe wnaethon ni gomisiynu ymchwil ychydig flynyddoedd yn ôl a nododd sawl rhwystr. Er enghraifft, diffyg amser neu fod datblygu sgiliau yn y meysydd hyn yn gallu bod yn gymhleth ac yn anodd.
O ganlyniad, rydyn ni wedi creu'r adnodd hwn i gefnogi datblygiad sgiliau ymchwil, arloesi a gwella ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol.
Beth sy'n cael ei gynnwys yn yr adnodd?
Ein nod yw helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ddod o hyd i hyfforddiant ac adnoddau perthnasol i ddatblygu eu sgiliau ymchwil, arloesi a gwella. Mae'r adnodd yn cynnwys dolenni i gyfleoedd defnyddiol mewn iaith glir ac arddull syml.
Rydyn ni wedi grwpio’r cyfeiriadau mewn pedair thema allweddol:
"Dwi wedi cael cyfle i archwilio'r safle, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n edrych yn wych! Mae'r cynllun yn glir, ac mae'r adnoddau'n ymddangos yn hynod werthfawr. Byddaf yn bendant yn rhannu hyn gyda'r tîm ac eraill yn Nhorfaen. Diolch unwaith eto am rannu hyn gyda mi a'm cynnwys yn y gwaith pwysig hwn."
- Jim Wright, Rheolwr Datblygu a Chyfleoedd Dydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Cysylltwch â ni
Rydyn ni’n croesawu eich adborth am yr adnodd hwn neu awgrymiadau am unrhyw gyfleodd neu ddolenni ychwanegol y gallwn ni eu cynnwys: grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.