![Rhiannon Wright](https://insightcollective.socialcare.wales/assets/profile-images/Rhiannon.png)
Rhiannon Wright
Cymuned Dystiolaeth
![Lilla Vér](https://insightcollective.socialcare.wales/assets/profile-images/Lilla-BW.png)
Lilla Vér
Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le
![Mathew Morgan](https://insightcollective.socialcare.wales/assets/profile-images/Mathew_bio-pic-black-and-white.png)
Mathew Morgan
Cymuned Unigolion Cyfrifol
Rydyn ni'n credu y bydd creu mannau i gysylltu a datblygu perthnasoedd yn arwain at newid parhaol a chadarnhaol.
Mae ein cymunedau yn dod ag ymarferwyr gofal cymdeithasol, arloeswyr a phobl sydd â phrofiad byw ynghyd i greu'r egni a'r momentwm ar gyfer newid.
Maen nhw’n fannau i bobl rannu eu gwybodaeth a’u syniadau ac i ddysgu gan eraill, gan greu perthnasoedd ar draws gwahanol sectorau ledled Cymru.
Mae'r cymunedau'n cyfarfod ar-lein a mewn person, tra gall aelodau hefyd gysylltu trwy blatfform ar-lein.
Yma, mae’r Grŵp Gwybodaeth yn cyflwyno rhai o uchafbwyntiau’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ein cymunedau dros y ddau fis diwethaf.
Daeth ein Cymuned Dystiolaeth at ei gilydd ym mis Gorffennaf ar gyfer gweithdy ‘Sgyrsiau Ymchwil’ a oedd wedi ei hwyluso gan Dr Ceryl Davies a Dr Louise Prendergast o Brifysgol Bangor.
Rhannodd Ceryl a Louise eu canfyddiadau o ymchwil a oedd yn archwilio’r ffactorau sy’n galluogi ac yn rhwystro ymgysylltu â gadawyr gofal ledled Cymru.
Ym mis Awst, cynhaliodd y gymuned weithdy ‘Sgyrsiau Ymchwil’ arall ar thema cydgynhyrchu. Dr Nina Maxwell a Dr Martin Elliott o Brifysgol Caerdydd arweiniodd y sesiwn hon..
Cynhaliodd y gymuned hefyd ei chyfarfod grŵp craidd chwarterol. Mae grŵp craidd y Gymuned Dystiolaeth yn agored i unrhyw un sydd eisiau cael mwy o lais wrth benderfynu i ba gyfeiriad y mae’r gymuned yn mynd. Os hoffech chi fod yn aelod o’r grŵp yma, cysylltwch â Rheolwr y Gymuned, Rhiannon Wright, ar rhiannon.wright@socialcare.wales.
Mae nifer o flogiau newydd ac erthyglau newyddion wedi’u cyhoeddi ar blatfform ar-lein y gymuned, ar themâu sy’n cynnwys salwch wedi’i ffugio neu ei achosi gan eraill, gweithio gyda chymunedau Romani a Theithwyr, ac ymchwil gofal cymdeithasol cydweithredol gyda phobl hŷn.
Yn ogystal, roedd yna trafodaeth ddiddorol ar y platfform am rai o’r heriau sy’n codi wrth weithio fel gweithiwr cymdeithasol mewn lleoliad sy’n canolbwyntio’n bennaf ar iechyd.
Ym mis Gorffennaf, ymunodd Comisiwn Bevan â’r Gymuned Gofal sy’n Seiliedig ar Le i siarad am ddyfodol iechyd a gofal yng Nghymru ar sail ei gyhoeddiad yn ddiweddar yn ymwneud â’r pwnc.
Cododd yr aelodau bwyntiau pwysig am weithio ar y cyd, rhannu gwybodaeth yn aml ac mewn ffyrdd gwahanol, a heriau eu lleoliadau o ddydd i ddydd.
Rydyn ni'n gobeithio dod â’r pynciau hyn i sgyrsiau yn y gymuned yn y dyfodol.
Ym mis Awst, dywedodd yr aelodau pa mor anodd y gall dangos effaith fod pan nad yw gwaith ataliol a seiliedig ar le bob amser yn trosi’n dwt i rifau.
Mewn ymateb, croesawodd y gymuned Nick Andrews o Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP), a rannodd wybodaeth am y Newid Mwyaf Arwyddocaol fel dull posibl o werthuso.
Arweiniodd sesiwn Nick at drafodaeth dda, a chafodd yr aelodau gyfle i brofi bod yn adroddwyr storïau ac yn gasglwyr storïau.
Daeth y Gymuned Unigolion Cyfrifol at ei gilydd mewn sesiynau ‘Coffi a chysylltu’ bach er mwyn dod i adnabod Unigolion Cyfrifol eraill yn eu math nhw o wasanaeth.
Fe wnaeth aelodau cwrdd yng Nghasnewydd a chlywon nhw gan Dr Tegan Brierley-Sollis am ymwreiddio dulliau sy'n ystyriol o drawma mewn gwasanaethau, a sut i ddiogelu staff rhag trawma ail law. Cafodd aelodau amser i feddwl sut i gymhwyso’r wybodaeth at eu gwasanaethau eu hunain.
Mewn peilot arloesol, gweithiodd y gymuned gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a DEEP i ddod ag Unigolion Cyfrifol ac arolygwyr at ei gilydd ar-lein i archwilio gwahanol ddulliau o fesur a chyfathrebu canlyniadau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Edrychodd y cyfranogwyr ar bedwar dull gwahanol iawn o fesur canlyniadau a rhoddwyd lle iddyn nhw drafod eu meddyliau a datblygu dealltwriaeth gyffredin.
Fe wnaeth cyfarfod y gymuned ym mis Awst nodi blwyddyn ers lansio’r gymuned. Cafodd yr aelodau gyfle i drafod manteision y gymuned, a’r hyn sydd wedi ei gyflawni, cyn rhannu’n grwpiau llai i rannu arferion da yn ymwneud â gwahanol ddulliau o adolygu ansawdd gofal.
Gweithiodd y gymuned gydag AGC i greu blog sy’n egluro beth sy’n digwydd i ddatganiadau blynyddol ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno gan Unigolion Cyfrifol.
Cymuned Dystiolaeth
Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le
Cymuned Unigolion Cyfrifol