Skip to Main content

Pan nad yw diogelu’n dod i ben yn 18 oed

20 Hydref 2026

I rai pobl ifanc, nid yw troi’n oedolyn yn golygu bod yr heriau maen nhw’n eu hwynebu yn dod i ben. Mae’r crynodeb diweddaraf yn archwilio diogelu drwy’r cyfnod pontio, gan dynnu sylw at sut y gall gwasanaethau ymateb yn well i gryfderau, anghenion a bregusrwydd pobl ifanc nhw wrth iddyn nhw droi'n oedolion.

Cadw pobl ifanc yn ddiogel wrth wrth iddyn nhw droi'n oedolion

Gall y cyfnod pontio o blentyndod i oedolyn fod yn gyfnod cyffrous, ond gall hefyd ddod â heriau.

Mae ymchwil yn awgrymu y gall pobl ifanc barhau i wynebu risgiau a pheryglon sylweddol ar ôl troi yn 18 oed. Fodd bynnag, mae cymorth yn aml yn newid neu’n dod yn fwy cyfyngedig wrth iddyn nhw symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.

Mae’r crynodeb newydd yn archwilio:

  • pam nad yw anghenion diogelu yn stopio pan yn troi’n 18 oed
  • gall effaith trawma plentyndod barhau wrth droi’n oedolyn
  • yr heriau sy’n codi wrth bontio rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion
  • pam y gall person ifanc fod yn agored i niwed ac, ar yr un pryd, ymwneud ag ymddygiad sy'n achosi niwed i eraill.

Beth yw diogelu drwy’r cyfnod pontio?

Mae diogelu drwy’r cyfnod pontio yn cydnabod nad yw bywydau pobl ifanc yn ffitio’n daclus i’r categorïau “plentyn” ac “oedolyn”. Yn hytrach, mae’n gweld glasoed ac oedolion ifanc fel cyfnod penodol o fywyd gyda chyfleoedd, risgiau ac anghenion cymorth unigryw.

Mae’r dystiolaeth yn dangos y gall pobl ifanc brofi:

  • cam-drin ac esgeulustod
  • ecsbloetio troseddol, rhywiol neu fathau eraill o ecsbloetio
  • digartrefedd
  • iechyd meddwl gwael a hunan-niweidio
  • camddefnyddio sylweddau
  • cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.

Mae hefyd yn dangos sut mae’r profiadau hyn yn cael eu dylanwadu gan ffactorau ehangach, gan gynnwys:

  • perthnasoedd teuluol
  • addysg a chyflogaeth
  • cymunedau a grwpiau cyfoedion
  • tlodi ac anghydraddoldeb
  • gwahaniaethu ac allgáu cymdeithasol.

Pam mae hyn yn bwysig?

Gall rhai pobl ifanc sy’n ymwneud â gweithgarwch troseddol hefyd fod yn profi ecsbloetio, gorfodaeth neu gamdriniaeth. Mae diogelu drwy’r cyfnod pontio yn annog gwasanaethau i gydnabod ac ymateb i’r cymhlethdod hwn.

Cefnogi’r gweithlu

Mae’r crynodeb hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd:

  • ymarfer sy’n seiliedig ar berthnasoedd
  • chwilfrydedd proffesiynol
  • deall cyd-destun ehangach bywyd person ifanc
  • diwylliannau sefydliadol cefnogol
  • cyfleoedd i fyfyrio a dysgu
  • llwythi gwaith y gellir eu rheoli a goruchwyliaeth effeithiol.

Mwy o wybodaeth

Darllenwch ein crynodeb tystiolaeth newydd i archwilio’r ymchwil a dysgu mwy am sut y gall diogelu drwy’r cyfnod pontio helpu gwasanaethau i gefnogi pobl ifanc yn well wrth iddyn nhw droi’n oedolion. Pontio: diogelu drwy’r cyfnod pontio, ar ein gwefan y Grŵp Gwybodaeth

Dyma’r pumed cyhoeddiad yn ein cyfres o grynodebau tystiolaeth sy’n archwilio gwahanol agweddau ar bontio rhwng gwasanaethau gofal cymdeithasol plant i oedolion.

Mae crynodebau eraill yn y gyfres yn cynnwys:

Mae’r gyfres hon yn ymateb i’n gwaith blaenoriaethu ymchwil i ddeall y rhwystrau, problemau a’r ansicrwydd y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth bontio o wasanaethau gofal cymdeithasol plant i wasanaethau gofal cymdeithasol oedolion.