
Tri pheth i wybod am anogaeth arloesedd
Yn y blog hwn, mae ein hanogwr Rob Callaghan yn cyflwyno tri pheth y mae angen i chi eu gwybod am ein gwasanaeth anogaeth arloesedd.
Yn y flwyddyn ers lansio ein gwasanaeth anogaeth arloesedd am ddim, rydyn ni wedi dysgu llawer am sut i egluro beth rydyn ni'n gwneud.
Mae'n rhaid iddo fod yn gryno, yn glir a dod ag enghreifftiau go iawn.
Felly, gyda hynny mewn golwg, dyma dri pheth y mae angen i chi eu gwybod am ein gwasanaeth anogaeth arloesedd.
1. Beth yw e?
Mae ein gwasanaeth anogaeth arloesedd yn rhoi mynediad i chi at dîm o anogwyr a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich syniadau i wella arfer, prosesau, gwasanaethau a chanlyniadau.
Mae'n defnyddio offer arloesi a dull anogaeth i ddatblygu'r ffordd newydd o weithio a'ch sgiliau eich hun.
Mae offer arloesi yn helpu pobl i ddatrys y mathau o broblemau cymhleth y mae pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn eu hwynebu bob dydd, tra bod anogaeth yn grymuso pobl i ddod o hyd i'w hatebion eu hunain. Mae ein gwaith ni yn dod â'r ddau beth hyn at ei gilydd.
Rydyn ni'n cynnig hyd at 12 awr o anogaeth am ddim i unigolion neu dimau. Mae'r gwasanaeth ar-lein ac ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Ewch i’n tudalen anogaeth arloesedd i gael manylion llawn y gwasanaeth, neu darllenwch flog blaenorol am y mathau o geisiadau rydyn ni wedi’u derbyn.
2. Beth mae pobl yn ei gael allan ohono?
Mae pobl sydd wedi defnyddio ein gwasanaeth anogaeth arloesedd wedi dweud ei fod wedi eu helpu i:
- goethi eu nodau
- gyflymu eu cynnydd
- wneud eu gwaith yn fwy effeithiol i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau
- deimlo wedi'u grymuso i roi cynnig ar syniadau newydd yn y gwaith
- ennill sgiliau, gwybodaeth ac offer newydd.
Pan wnaethon ni ofyn iddyn nhw grynhoi’r hyn maen nwh'n ei werthfawrogi fwyaf o’r anogaeth, mae pobl yn aml yn sôn am y ffordd rydyn ni'n cynnig cymorth tra hefyd yn eu herio i feddwl mewn ffordd wahanol.
“Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl pan wnes i gofrestru ar gyfer anogaeth. Do’n i erioed wedi profi anogaeth o’r blaen, ond o’r sesiwn gyntaf mae wedi bod o gymorth mawr i mi. Mae cael lle i fyfyrio, trafod syniadau a chael gweld offer sy’n caniatáu i mi weld y darlun ehangach wedi bod yn amhrisiadwy. Byddwn i'n argymell anogaeth i eraill yn llwyr.”
Kate Aubrey, Rheolwr Arweiniol Ymarfer yng ngwasanaethau plant Rhondda Cynon Taf
“Heb ddymuno swnio'n rhy 'corny', rwy'n meddwl ein bod ni wedi creu rhywbeth hardd - gofod dysgu ac archwilio wedi'i ddiogelu lle'r oedd syniadau'n llifo'n ddi-dor. A fyddwn i'n argymell anogaeth i eraill? Yn bendant! Byddwch yn ddewr, plymiwch i mewn a gwnewch y gorau ohono. Ymddiriedwch yn y broses a daw'r canlyniadau.”
Richard Davies, Rheolwr Strategol ar dîm cymorth taliadau uniongyrchol Cyngor Abertawe
3. Sut ydw i'n cael mynediad iddo?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio ein gwasanaeth anogaeth arloesedd, llenwch ein ffurflen mynegi diddordeb fer, neu anfonwch fideo neu nodyn llais atom trwy e-bost.
Rydyn ni'n hapus i drafod pethau gyda chi yn gyntaf os byddai’n well gennych. Anfonwch e-bost atom a byddwn yn trefnu galwad gyda chi.
Rydyn ni hefyd yn archwilio ffyrdd newydd o gefnogi mwy o bobl i ddatblygu eu syniadau.
Rydyn ni'n gwybod na all pawb ymrwymo i 12 awr o anogaeth heb wybod mwy amdano. Dyna pam rydyn ni’n treialu cwrs anogaeth deuddydd am ddim sy’n rhoi blas i fynychwyr o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig, yn ogystal ag offer i'w defnyddio yn eu gwaith.
Mae ein dyddiadau presennol yn llawn, ond ychwanegwch eich enw at y rhestr aros a byddwn ni'n rhoi gwybod i chi os byddwn ni'n trefnu mwy o sesiynau. Darganfyddwch fwy neu cysylltwch â anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru i ychwanegu'ch enw i'r rhestr aros.
Angen mwy o wybodaeth?
Ewch i’n tudalen anogaeth arloesedd neu cysylltwch â anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech wybod mwy am y gwasanaeth.