
Ymateb i gamdriniaeth plentyn ar riant
Ysgrifennwyd gan Dr Grace Krause a’i olygu gan Dr Kat Deerfield, Dr Eleanor Johnson, a Dr Flossie Caerwynt
Hydref 2025
Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n tynnu sylw at ymchwil gyfoes ar sut y gall pobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol helpu teuluoedd pan fydd plant yn cam-drin eu rhieni.
Mae hwn yn ffenomenon gymhleth, ac mae gweithwyr cymdeithasol wedi dweud wrthym eu bod yn cael trafferth dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy ar y pwnc. Mae’r emosiynau a’r ddynamig pŵer sydd ynghlwm wrth sefyllfaoedd lle mae plentyn yn cam-drin rhiant yn golygu y gall fod yn anodd gwybod sut i helpu’r teulu.
Mae’r crynodeb hwn yn trafod yr ymchwil ar sut y gall pobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol fynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn. Mae’n dangos sut y gall rhieni a phlant wneud synnwyr o gamdriniaeth plentyn ar riant a’r hyn a all ein helpu i ymateb.
Cyflwyniad
Fel rhan o ymarfer gosod blaenoriaethau ymchwil gofynnon ni i ymarferwyr gofal cymdeithasol beth yn eu barn hwy oedd y materion pwysicaf a oedd yn effeithio ar y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dywedodd llawer o weithwyr cymdeithasol teulu eu bod yn gweld mwy o deuluoedd sy’n cael anhawster wrth geisio rheoli ymddygiad eu plant. Mewn rhai achosion, cafodd plant a phobl ifanc eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd am na allai rhieni a gofalwyr ymdopi â’u hymddygiad. Dywedodd gweithwyr cymdeithasol wrthym eu bod yn teimlo bod hon yn broblem gynyddol yn eu gwaith. Ac nad oedd yn hawdd dod o hyd i ymchwil ar y pwnc, yn enwedig ar helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd pan fydd plentyn yn cam-drin.
Mae camdriniaeth plentyn ar riant wedi cael sylw cynyddol gan ymchwilwyr (Baker a Bonnick, 2021). Ond mae’n anodd dweud a yw hyn yn golygu bod mwy o blant a phobl ifanc yn ymddwyn yn dreisgar tuag at eu rhieni, ynteu a yw hwn yn fath o drais sydd nawr yn cael mwy o gydnabyddiaeth.
Yn y crynodeb tystiolaeth hwn, rydyn ni’n rhannu ymchwil berthnasol a chyfredol ar y pwnc. Rydyn ni’n edrych ar safbwyntiau rhieni sydd wedi profi cam-drin gan eu plant, yn ogystal â rhai plant a phobl ifanc sydd wedi ymddwyn mewn ffordd gamdriniol tuag at eu rhieni.
Rydyn ni’n ystyried tystiolaeth sy’n edrych ar blant sy’n cam-drin eu rhieni fel math o drais ar sail rhywedd, yn ogystal â’r berthynas rhwng camdriniaeth plentyn ar riant, niwrowahaniaeth, a thrawma. Rydyn ni hefyd yn cyflwyno dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i atal a mynd i’r afael â’r math hwn o gamdriniaeth.
Mae’r crynodeb hwn yn dibynnu i raddau helaeth ar ymchwil ar berthynas rhieni a’u plant. Nid ydym wedi cynnwys ymchwil sy’n edrych yn benodol ar berthynas plant a phobl ifanc â rhai eraill sy’n rhoi gofal. Er y gall y crynodeb hwn o’r ymchwil fod yn fuddiol wrth weithio â phlant nad ydynt yn cael gofal gan eu rhieni biolegol, mi all eu sefyllfaoedd fod yn wahanol mewn ffyrdd pwysig.

Cysyniadau allweddol
Beth ydyn ni’n ei olygu wrth gyfeirio at gamdriniaeth plentyn ar riant?
Mae trais plant yn erbyn rhieni’n bwnc cymhleth a sensitif. Mi all fod yn anodd dod o hyd i’r iaith briodol i siarad amdano. Mae hyn yn anodd o ganlyniad i’r ddynamig pŵer a sut rydyn ni’n meddwl fel arfer am y ffordd mae plant a’u rhieni’n ymwneud â’i gilydd. Rydyn ni wedi clywed gan staff gofal cymdeithasol yng Nghymru ei fod yn cael anhawster i ddeall y pwnc ac i helpu teuluoedd sy’n ei brofi.
Mae’r troseddegydd Amanda Holt (2016) yn diffinio ffenomenon plant yn cam-drin eu rhieni fel:
“patrwm ymddygiad […] sy’n cynnwys defnyddio dulliau geiriol, ariannol, corfforol a/neu emosiynol i weithredu pŵer ac i ennill rheolaeth dros riant [...] fel y bydd rhiant yn addasu eu hymddygiad mewn ffordd afiach er mwyn boddhau’r plentyn. Mae’r ymddygiadau camdriniol mwyaf cyffredin yn cynnwys galw enwau, bygythiadau i niweidio eu hunain neu eraill, ymdrechion i fychanu, difrodi eiddo, lladrata a thrais corfforol” (Holt, 2016).
Mae Holt yn gwahaniaethu rhwng un digwyddiad ynysig a phatrwm o gam-drin. Mae perthnasoedd rhwng rhieni a’u plant, yn enwedig pan fyddant yn eu harddegau, yn aml yn gallu bod yn stormus. Ac mi all fod yn anodd gwybod pan fydd ymddygiad ymosodol yn troi’n cam-drin. Mae ffactorau eraill sy’n ei gwneud yn anodd ysgrifennu am ymddygiad ymosodol a thrais yn erbyn rhieni fel ffenomenon penodol, neu i ddeall pa mor aml mae’n digwydd (Holt, 2013).
Pa mor gyffredin yw camdriniaeth plentyn ar riant?
Mae’n anodd mesur camdriniaeth plentyn ar riant am sawl rheswm:
- mae pobl yn defnyddio llawer o dermau gwahanol pan fydd plant yn ymddwyn yn dreisgar tuag at eu rhieni a gofalwyr, felly mae’n anodd gwybod a yw pobl yn cyfeirio at yr un peth mewn gwahanol astudiaethau (Clarke, 2015; Holt, 2022)
- nid yw rhieni’n debygol o ddatgelu camdriniaeth maen nhw’n ei phrofi gan eu plant. Gall hyn fod oherwydd teimlo cywilydd, ofni gwneud y sefyllfa’n waeth, neu boeni y gall eu plant fod mewn trwbl (Holt, 2022; Baker, 2012a)
- hyd yn oed pan fydd rhieni neu blant yn gofyn am help, byddan nhw’n debygol o gysylltu â gwahanol bobl a sefydliadau. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd gwybod pa ddata i’w defnyddio i ganfod amlder camdriniaeth plentyn ar riant (Holt, 2022).
Cynhaliodd Parental Education and Growth Support arolwg o 200 o rieni lle’r oedd eu plant yn eu cam-drin (2022) gan ddarganfod:
- mewn 58 y cant o achosion, roedd y cam-drin wedi dechrau pan oedd y plentyn yn 10 oed neu iau
- mewn 23 y cant o achosion, roedd y cam-drin wedi dechrau pan oedd y plentyn yn bump oed neu iau.

Mae tystiolaeth yn dangos yn glir bod y rhieni sy’n dioddef camdriniaeth gan blant yn llawer mwy tebygol o fod yn fenywod
Mae astudiaethau gwahanol yn dangos bod mamau neu ofalwyr benywaidd eraill yn fwy tebygol o brofi camdriniaeth gan blentyn (Simmons et al., 2018; Holt, 2022). Mae’r wybodaeth yn fwy cymysg o ran pa blant sydd fwyaf tebygol o gam-drin eu rhieni. Dangosodd un astudiaeth fod mwyafrif yr achosion (81 y cant) lle hysbyswyd yr heddlu’n ymwneud â meibion (Holt, 2022). Ond mae astudiaethau eraill yn nodi fod merched yr un mor debygol o gyfaddef eu bod wedi cam-drin eu rhieni neu ofalwyr (Simmons et al., 2018). Er nad oes tystiolaeth bendant o ba fath o deuluoedd sydd fwyaf tebygol o gael problemau â phlant yn cam-drin eu rhieni, mae awgrym fod mamau sengl yn fwy tebygol o brofi trais o’r fath (Baker a Bonnick, 2021).
Am yr holl resymau hyn, mi all fod yn anodd gwneud unrhyw haeriadau o ran pa mor gyffredin yw camdriniaeth plentyn ar riant, neu a yw wedi dod yn fwy cyffredin. Fodd bynnag, mae rhai themâu sy’n amlwg yn y data a all ein helpu i ddeall y ffenomenon yn well ac sy’n cael sylw’n ddiweddarach yn y crynodeb hwn. Y themâu hyn yw:
- deall plant sy’n cam-drin eu rhieni fel trais ar sail rhywedd
- cysylltiadau rhwng camdriniaeth plentyn ar riant a niwrowahaniaeth
- y berthynas rhwng trawma ac ymddygiad camdriniol mewn plant.
Cefnogi teuluoedd yn neddfwriaeth a chanllawiau Cymru
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cyflwyno’r fframwaith cyfreithiol i hybu llesiant pawb sydd angen gofal a chymorth yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn dilyn pedair prif egwyddor:
- llais a rheolaeth – rhoi’r unigolyn a’u hanghenion yn ganolog yn eu gofal a rhoi llais a rheolaeth iddynt yn y broses o gyrraedd y canlyniadau sy’n eu helpu i gyflawni llesiant
- atal ac ymyrraeth gynnar – cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned i leihau’r siawns o gyrraedd angen critigol
- llesiant – helpu pobl i gyflawni eu llesiant eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth
- cyd-gynhyrchu – annog unigolion i ymwneud mwy â dylunio a darparu gwasanaethau.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 hefyd yn cynnwys arweiniad ar sut y dylai anghenion plant ac oedolion gael eu hasesu fel y gall pawb yng Nghymru gael y cymorth iawn.
Gall y crynodeb hwn helpu gweithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol eraill i weithio’n unol ag egwyddorion craidd y Ddeddf drwy gyflwyno tystiolaeth ar sut y gallan nhw helpu teuluoedd orau pan fydd plant yn cam-drin eu rheini.
Effaith camdriniaeth plentyn ar riant
Sut mae camdriniaeth yn effeithio ar rieni
Gall profi camdriniaeth gan blentyn fod yn brofiad cymhleth i unrhyw riant. Mewn adolygiad llenyddiaeth ar gamdriniaeth plant ar rieni, nododd Baker a Bonnick (2021) bum prif ffordd lle mae trais plentyn ar riant yn effeithio ar rieni.
Anafiadau corfforol
Mae ymchwil yn dangos bod rhieni’n aml yn rhoi gwybod am amrywiaeth o anafiadau fel creithiau, cleisiau, briwiau, esgyrn wedi’u torri, llosgiadau, neu anafiadau a achoswyd gan arfau neu eitemau o gwmpas y tŷ (Haw, 2010; Biehal et al., 2012; Condry a Miles, 2014).
Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant emosiynol rhieni
Mae tystiolaeth gref y gall y profiad o gael eu cam-drin cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl rhieni. Dywedodd rhieni sydd wedi cael eu cam-drin gan eu plant eu bod yn teimlo cywilydd, yn ofni rhagor o gam-drin, a’u bod yn poeni am eu plant (Holt, 2009; Haw, 2010). Gall yr effeithiau emosiynol ar rieni fod yn fwy dwys pan fydd y cam-drin yn para am gyfnod hir (Parentline Plus, 2010).

Cyfyngu lleoliad, symudiad a rhyddid personol
Mae ymchwil wedi dangos bod mamau’n benodol yn profi cyfyngiadau difrifol ar eu rhyddid oherwydd camdriniaeth (Haw, 2010, Baker a Bonick, 2021). Dywedodd rhai eu bod yn cuddio rhag eu plant neu’n osgoi bod gartref. Nododd rhai hefyd eu bod yn cael anhawster cynnal perthnasoedd y tu allan i’r cartref oherwydd stigma a chywilydd. Mewn rhaid achosion, gall eu plant hefyd eu hatal rhag mynd allan a chymdeithasu drwy eu rhwystro’n gorfforol rhag gadael (Haw, 2010).
Canlyniadau materol ac ariannol
Mae dinistrio eiddo’n gyffredin pan fydd plant yn cam-drin eu rhieni. Mi all rhieni hefyd brofi canlyniadau ariannol. Er enghraifft, talu dirwyon am ddifrod neu bresenoldeb gwael yn yr ysgol, colli incwm oherwydd absenoldeb o’r gwaith, neu arian mae eu plant yn ei hawlio fel rhan o’r cam-drin (Cottrell, 2001; Simmons et al., 2018). Dywedodd rhai rhieni, mamau’n fwyaf penodol, eu bod wedi rhoi’r gorau i’w gwaith. Roedd hyn am fod y cam-drin yn effeithio cymaint arnyn nhw neu am eu bod yn teimlo bod angen iddynt dreulio mwy o amser â’u plentyn (Cottrell, 2001).
Canlyniadau cyfreithiol
Gall plant sy’n cam-drin eu rhieni ddod i gysylltiad â chyfiawnder troseddol gyda chanlyniadau i’r rhieni sy’n cael eu cam-drin. Dywedodd rhai rhieni eu bod wedi cael problemau cyfreithiol o ganlyniad i absenoldeb eu plentyn o’r ysgol, gwrthdaro â gwasanaethau cymdeithasol, a honiadau ffug o gam-drin eu plentyn. Gallan nhw hefyd dderbyn gorchmynion rhianta sy’n hawlio presenoldeb gorfodol mewn rhaglenni rhianta a all effeithio’n negyddol ar eu gallu i weithio (Cottrell, 2001).
Effeithiau ar blant
Nododd Baker a Bonnick (2021) nad oes llawer o dystiolaeth o effaith camdriniaeth plentyn ar riant ar y plant sy’n cam-drin. Mae ymchwil yn dangos nifer o heriau sy’n gyffredin yn achos plant sy’n cam-drin eu rhieni, ond nid yw’n amlwg bob amser sut neu a yw’r rhain yn gysylltiedig â’r ymddygiad camdriniol. Mae ymchwil yn dangos sawl effaith bosibl ar blant sy’n ymddwyn yn gamdriniol tuag at eu rhieni.
Anafiadau corfforol
Mi all plant sy’n cam-drin eu rhieni fod yn agored i anafiadau corfforol. Gall hyn ddigwydd yn ystod achos o ymddygiad ymosodol drwy hunan-niweidio neu anafiadau sy’n digwydd wrth daro waliau neu wrthrychau. Gall plant gael eu hanafu hefyd o ganlyniad i ymateb eu rhieni i drais, gan gynnwys amddiffyn eu hunain, ffrwyno neu gosbi. Gall hyn gyfeirio hefyd at ymddygiad risg yn fwy cyffredinol. Gallai hyn gynnwys ymddygiad cymdeithasol anniogel fel rhyw anniogel a chamddefnyddio sylweddau, a all arwain at anaf corfforol. Mae ymchwil yn dangos sawl effaith bosibl ar blant sy’n ymddwyn yn gamdriniol tuag at eu rhieni (Baker, 2021; Edenborough et al., 2008; Eckstein, 2004; Haw, 2010).
Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant emosiynol plant
Mae plant sy’n cam-drin eu rhieni’n dueddol o fod â chyfraddau uwch o wahanol anawsterau iechyd meddwl. Fodd bynnag, nid yw’n amlwg a yw’r anawsterau hyn yn deillio o’r cam-drin ynteu a ydynt yn cyd-ddigwydd. Mae peth tystiolaeth bod pobl ifanc sy’n cam-drin eu rhieni’n gorfforol â lefelau is o hunan-barch (Paulson et al.,1990; Baker, 2021). Mae peth tystiolaeth hefyd pan fydd rhieni’n profi camdriniaeth o gyfeiriad eu plant, ei fod yn achosi iddynt brofi anawsterau wrth hybu datblygiad a llesiant emosiynol eu plant (Micucci, 1995).
Effeithiau ar addysg
Gall camdriniaeth plant ar rieni gael effeithiau negyddol ar ganlyniadau addysgol plant (Paulson et al., 1990). Fodd bynnag, nid yw’n amlwg ai’r cam-drin sy’n achosi hyn ynteu a yw heriau addysgol yn gysylltiedig ag achosion sylfaenol eraill sy’n cyd-ddigwydd â’r cam-drin (Laurent a Derry, 1999).
Cyfyngu lleoliad, symudiad a rhyddid personol
Bydd pobl ifanc a phlant sy’n cam-drin eu rhieni’n aml yn gweld eu bywydau’n cael eu cyfyngu o ganlyniad i’r cam-drin ac adweithiau eu rhieni iddo (Eckstein, 2004; Micucci, 1995). Pan fydd plant yn cael eu cymryd oddi wrth eu teulu o ganlyniad i gamdriniaeth plentyn ar riant gall hyn olygu mwy fyth o gyfyngu ar eu rhyddid, yn enwedig os byddan nhw’n cael eu rhoi mewn llety diogel. Gall cymryd plant oddi wrth eu teulu hefyd achosi trallod emosiynol difrifol i holl aelodau’r teulu (Edenborough et al., 2008; Cottrell, 2001).
Goblygiadau cyfreithiol
Gall plant sy’n cam-drin eu rhieni ddod i gysylltiad â’r system gyfreithiol mewn ffyrdd a all fod yn drallodus ac a all achosi anawsterau tymor hir iddynt. Pan fydd plant a phobl ifanc yn wynebu canlyniadau cyfreithiol mwy difrifol, gall hyn gael effaith sylweddol ar eu bywydau fel oedolion (Parentline Plus, 2010; Haw, 2010).
Effaith ar frodyr a chwiorydd
Mae camdriniaeth plentyn ar riant yn effeithio ar bawb yn y teulu. Gall brodyr a chwiorydd plant sy’n cam-drin eu rhieni hefyd ddioddef camdriniaeth, neu gael ei heffeithio drwy geisio ymyrryd (Laurent a Derry, 1999; Biehal, 2012). Mae peth tystiolaeth y gall rhai plant fynd ymlaen i ymddwyn mewn ffordd gamdriniol eu hunain (Cottrell, 2001). Gall plant sy’n cael eu magu gyda brawd neu chwaer sy’n cam-drin hefyd brofi trawma difrifol o ganlyniad i fod yn dystion i’r cam-drin a chanlyniadau’r cam-drin. Er enghraifft, dod i gysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol neu blant yn cael eu cymryd oddi ar y teulu (Cottrell, 2001; Holt, 2009).

Deall camdriniaeth plentyn ar riant
Mae llawer o wahanol ddamcaniaethau ynglŷn â’r hyn sy’n achosi i blant ymddwyn yn gamdriniol tuag at eu rhieni. Mae Baker a Bonnick (2021) yn rhestru sawl damcaniaeth mewn ymchwil sy’n edrych ar gamdriniaeth plentyn ar riant. Mae’r damcaniaethau hyn yn edrych ar:
- patrymau ymddygiad gwrthgymdeithasol
- iechyd meddwl
- niwrowahaniaeth
- camddefnyddio sylweddau
- y plentyn yn cael ei gam-drin
- trais domestig
- arferion rhianta
- cyfathrebu
- dylanwad cymheiriaid
- addysg
- tlodi
- rolau rhywedd.
Bydd y crynodeb hwn yn canolbwyntio ar dair agwedd penodol ar gamdriniaeth plentyn ar riant a’u goblygiadau i ofal cymdeithasol yng Nghymru: trais ar sail rhywedd, niwrowahaniaeth, a thrawma. Ceir trosolwg mwy manwl yn adolygiad llenyddiaeth Baker a Bonnick (2021).
Camdriniaeth plentyn ar riant fel trais ar sail rhywedd
Mae peth data sy’n awgrymu perthynas rhwng rhywedd a chamdriniaeth plentyn ar riant. Mewn ymchwil i’r pwnc, mae rôl rhywedd yn cael ei drafod o ran a yw meibion neu ferched yn fwy tebygol o ymddwyn mewn ffordd gamdriniol tuag at eu rhieni. Ac a yw tadau neu famau’n fwy tebygol o brofi camdriniaeth gan eu plant. Nid yw pob rhiant yn cyfrif eu hunain fel mam neu dad, ac nid yw pob plentyn yn gweld eu hunain fel merch neu fab. Ond yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n trafod rhywedd yn y termau sy’n cael eu defnyddio yn yr ymchwil sydd ar gael.
Mae’r dystiolaeth sy’n ystyried a yw bechgyn neu ferched yn fwy tebygol na’i gilydd o gam-drin eu rhieni’n aneglur. Mae peth ymchwil yn awgrymu bod bechgyn yn fwy tebygol (Holt, 2022) ac mae ymchwil arall yn awgrymu nad oes llawer o wahaniaeth rhwng meibion a merched (Simmons et al., 2018). Ond mae’r dystiolaeth yn dangos yn glir bod y rhieni sy’n dioddef camdriniaeth gan blant yn llawer mwy tebygol o fod yn fenywod (Baker, 2021; Holt, 2022; Simmons et al., 2018).
Mae Holt (2024) yn edrych ar natur ryweddol trais plant yn erbyn eu rhieni mewn perthynas â chysyniad ‘moeseg gofal’. Mae moeseg gofal (Gilligan, 1993) yn gysyniad o ddamcaniaeth ffeminyddol sy’n rhoi pwyslais ar gyd-destun a pherthnasoedd cymdeithasol. Mae modd defnyddio’r fframwaith hwn i wneud penderfyniadau am yr hyn sy’n gywir ac anghywir. Mae’n dadlau y dylai penderfyniadau moesol ddiwallu angen unigolyn am ofal a chymorth. Mae’r dull hwn yn rhoi pwyslais ar bryder, tosturi a pherthnasoedd. Mae moeseg gofal yn cyferbynnu â ‘moeseg cyfiawnder’ (Kohlberg, 1981), lle mae penderfyniadau’n cael eu seilio ar egwyddorion cyffredinol a phawb yn cael eu trin yn ôl yr un rheolau. Yn achos moeseg gofal, nid yw penderfyniad yn cael ei seilio ar set wrthrychol o reolau, ond ar yr hyn sy’n cynhyrchu canlyniad positif sy’n adfer perthnasoedd ac yn cryfhau ein cysylltiadau.
Gall moeseg gofal fod yn fframwaith buddiol i ddatblygu ymatebion i blant sy’n cam-drin rhieni. Mae’r perthnasoedd a’r ddynamig pŵer sy’n sail i gamdriniaeth rhieni gan blant yn gymhleth. Ar yr un llaw, mae’n ddyletswydd ar rieni i ofalu am, a chefnogi, eu plant. Ar y llaw arall, fel pawb, mae rhieni’n haeddu cael byw heb niwed a chamdriniaeth. Gall fframwaith sy’n rhoi pwyslais ar adfer perthnasoedd a llesiant yn hytrach na chosbi a barnu fod yn fuddiol i ddygymod â’r cymhlethdodau hyn (Holt, 2024).

Mae'n bwysig pwysleisio llesiant y teulu cyfan wrth gefnogi rhieni sy'n delio ag ymddygiad camdriniol eu plant
Mae’n werth hefyd ystyried sut y gall moeseg gofal gynyddu niwed camdriniaeth plentyn ar riant tuag at famau. Mae llawer o ddamcaniaethau ffeminyddol wedi dadlau bod pwysau cymdeithasol ar fenywod i ymgymryd â rolau gofal lle mae disgwyl iddyn nhw roi blaenoriaeth i lesiant pobl eraill ar draul eu llesiant eu hunain (Hays, 1996; Burman, 2008). Pan fydd mamau’n profi camdriniaeth, mi allant fod yn arbennig o agored i niwed, ac mi all fod yn eithriadol o anodd iddynt gael cymorth. Nododd Holt (2024) fod mamau sy’n profi camdriniaeth gan eu plant niwrowahanol yn dueddol o’i weld fel ffordd o fynegi bod eu plant yn teimlo’n ‘ddiogel’ yn eu cwmni. Roedden nhw’n sôn am roi ‘gofod diogel’ i’w plant i brosesu eu hemosiynau drwy drais. Roedden nhw’n dweud hefyd fod y dehongliad hwn yn cael ei atgyfnerthu gan eraill a oedd yn eu canmol am eu perthynas glos â’u plentyn.
Dywedodd mamau hefyd eu bod yn ei chael yn anodd dros ben ceisio helpu eu plentyn ar ôl pwl treisgar. Roedden nhw’n disgrifio gofalu am anghenion emosiynol eu plentyn a hwythau heb fedru prosesu eu hemosiynau eu hunain. Yn ôl Holt (2024), roedd y mamau’n aml yn teimlo bod eu cyfrifoldeb am lesiant eu plentyn yn cael blaenoriaeth dros eu teimladau hwy eu hunain mewn ymateb i’r cam-drin.
Mae Holt (2024) yn datgan yn glir bod moeseg gofal yn fframwaith defnyddiol i ddeall trais a chamdriniaeth gan blant sy’n aml yn gweithredu o ganlyniad i’w trallod eithafol eu hunain. Ac mae’n cynnig ffordd inni i helpu dioddefwyr heb wneud plant a phobl ifanc yn droseddwyr. Mae’n bwysig, fodd bynnag, cydbwyso moeseg gofal tuag at blant sy’n cam-drin eu rhieni gyda llesiant y rhieni. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cael trefniadau ar waith i helpu rhieni i ddelio ag ymddygiad camdriniol eu plant sy’n rhoi pwyslais ar lesiant y teulu cyfan.
Niwrowahaniaeth a phlant sy’n cam-drin eu rhieni
Mae peth tystiolaeth sy’n awgrymu cysylltiad rhwng niwrowahaniaeth ac ymddygiad ymosodol a thrais plant a phobl ifanc tuag at eu rhieni. Noda Holt (2024) fod ein dealltwriaeth o niwrowahaniaeth wedi newid yn sylweddol dros amser. Mae hyn wedi effeithio ar ein dealltwriaeth o’r berthynas rhwng niwrowahaniaeth a chamdriniaeth plentyn ar riant. Rydyn ni wedi cefnu ar weld pobl niwrowahanol drwy fodel ar sail diffyg. Erbyn hyn rydyn ni’n deall eu bod yn gweld y byd mewn ffyrdd sy’n wahanol, ond yr un mor ddilys. Rydyn ni hefyd yn trafod sut mae ein dealltwriaeth wedi newid yn ein crynodeb tystiolaeth ar gefnogi pobl niwrowahanol a'u teuluoedd.
Mae tystiolaeth sy’n awgrymu bod cysylltiad weithiau rhwng Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) â phlant sy’n cam-drin eu rhieni. Un agwedd ar ADHD yw anhawster i reoleiddio emosiynau, sy’n gallu gwneud gwrthdaro’n fwy dwys (Baker, 2021; Simmons et al., 2018). Ond mae ymchwilwyr eraill yn awgrymu mai’r ffordd orau o ddeall yr ymddygiad hwn yw drwy’r trallod y mae plant niwrowahanol yn ei brofi a’r diffyg cymorth sydd ar gael i deuluoedd.
Mae Holt (2024) yn dadlau bod rhesymau mwy cymhleth o bosibl pam mae plant niwrowahanol yn fwy tebygol o fod yn fwy treisgar tuag at eu rhieni. Noda nad yw’r byd wedi’i wneud gydag anghenion pobl niwrowahanol mewn golwg, a’u bod yn profi anfantais strwythurol. Er enghraifft, gall pobl niwrowahanol gael anhawster dygymod â gwybodaeth synhwyraidd. Efallai na fyddan nhw’n gallu dysgu gwybodaeth newydd yn yr un ffordd â’u cymheiriaid. Efallai y byddan nhw’n mynd i drwbl am eu bod yn cael anhawster deall normau cymdeithasol. Rydyn ni’n galw’r rhain yn anawsterau ‘strwythurol’ am fod y byd o gwmpas unigolyn niwrowahanol yn gallu bod yn niweidiol oherwydd y ffordd mae wedi’i drefnu. Hefyd, gall rhai gwahaniaethau ymddygiadol achosi stigma, sy’n gallu gwneud i blant niwrowahanol guddio’r ymddygiadau hyn i osgoi bwlio neu fathau eraill o wahaniaethu (gweler hefyd Humphrey a Hebron, 2015; Maïano et al., 2016). Mae’r ffactorau hyn yn golygu bod plant a phobl ifanc niwrowahanol yn profi lefelau anghymesur o anawsterau iechyd meddwl a thrawma (Miller et al., 2021; Kerns et al., 2015).
Nododd Holt (2024) fod mamau a oedd wedi profi trais ac ymddygiad ymosodol gan eu plant niwrowahanol wedi gwneud synnwyr ohono fel mynegiant o ddicter eu plant. Roedden nhw’n dweud bod yr hyn a oedd yn sbarduno’r trais yn amrywio. Er enghraifft, gallai fod yn gais nad oedd eu plentyn am gydymffurfio ag ef, profiad synhwyraidd llethol neu rywbeth arall a oedd yn llethu’r plentyn. Yr hyn a oedd yn gyffredin i’r holl sefyllfaoedd hyn oedd bod y plant yn teimlo straen a phryder cyn ymddwyn yn dreisgar. Mae hyn yn awgrymu bod ymddygiad camdriniol gan blant niwrowahanol yn fwy na phroblemau ymddygiad unigol. Hynny yw, gall ffactorau amgylcheddol y mae modd mynd i’r afael â nhw fod wrth wraidd yr ymddygiad.
Trawma a cham-drin
Mae ymchwil wedi dangos bod rhai plant sydd wedi profi neu dystio trais domestig yn gallu mynd ymlaen i ymddwyn yn gamdriniol tuag at eu rhieni yn eu glasoed. Mae hyn yn arbennig o amlwg yn achos trais meibion tuag at eu mamau (Holt, 2022). Dangosodd ymchwil a oedd yn edrych ar drais plant at eu rhieni lle cysylltwyd â’r heddlu fod rhai plant a phobl ifanc yn dangos trais cynyddol ers oedran ifanc. Mae peth tystiolaeth y gall hyn fod yn arbennig o wir yn achos pobl ifanc sydd wedi profi trawma yn gynnar yn eu bywydau (Holt, 2022; Selwyn a Meakings, 2016).
Mewn astudiaeth o drais ac ymddygiad ymosodol plant tuag at eu rhieni, cynhaliodd Victoria Baker (2021) arolwg ar-lein a chyfweliadau manwl â phobl ifanc 14 i 18 oed. Dywedodd 10 y cant o’r 211 a ymatebodd i’r arolwg, a phob un o’r 21 a gafodd eu cyfweld, eu bod wedi ymddwyn yn gamdriniol tuag at eu rhieni.
Dywedodd dros hanner y bobl ifanc a gyfaddefodd eu bod wedi cam-drin eu rhieni eu bod wedi profi gwahanol fathau o drais a thrawma yn y gorffennol. Roedd hyn yn cynnwys trais domestig ond hefyd trais roedden nhw wedi’i brofi o gyfeiriad eu cymheiriaid. Disgrifiodd rhai ymatebwyr eu hanhawster wrth geisio rheoli eu hemosiynau. Er enghraifft, gallai mân rwystredigaeth eu cynhyrfu a’u bod wedyn yn methu tawelu eu hunain.
Mae Baker yn awgrymu y gallai pobl ifanc sydd wedi profi trawma fod ag “asesiad gorfywiog o fygythiadau”. Mae hyn yn golygu bod profiadau’r gorffennol yn ei gwneud yn anodd pwyso a mesur bygythiadau’r presennol yn gywir. Efallai y bydd pethau na fyddai’n cael eu gweld fel gwir fygythiad neu bryfôc i eraill yn gallu achosi emosiwn ac adwaith dwys mewn pobl ifanc sydd wedi profi trawma. Mae hyn o ganlyniad i’r ymdeimlad gorfywiog hwn o synhwyro bygythiadau (Baker, 2021).

Dywedodd dros hanner y bobl ifanc a gyfaddefodd eu bod wedi cam-drin eu rhieni eu bod wedi profi gwahanol fathau o drais a thrawma yn y gorffennol
Mae Victoria Baker hefyd yn dadlau y gallai pobl ifanc sydd wedi profi trawma deimlo mwy o ddicter na phobl ifanc eraill. Mae hyn am fod dicter yn emosiwn haws i’w deimlo nag emosiynau eraill, mwy cymhleth, gall godi o ganlyniad i’w profiadau (Baker, 2021).
Fodd bynnag, mae Helen Baker (2012a, 2012b) yn rhybuddio rhag gorsymleiddio naratif “cylch o drais”. Hynny yw, ei fod yn anochel y bydd bechgyn - sydd wedi bod yn dystion i drais tad - yn tyfu i fod yn dreisgar eu hunain. Mae hi’n dadlau y dylai ymarferwyr yn hytrach fod yn agored i gymhlethdod ymateb plant i drawma. Mae hi’n rhybuddio’n benodol rhag bod yn rhy barod labelu dynion ifanc neu fechgyn yn y glasoed fel rhai treisgar yn hytrach na cheisio deall ymddygiad a all ddeillio o drallod eithafol.
Noda Helen Baker hefyd y gallai ymddygiad ymosodol neu dreisgar yn y cyd-destunau hyn gael ei fabwysiadu fel ffordd o amddiffyn eu hunain yn hytrach nag i reoli neu fygwth pobl eraill (2012b). Mae’r rhybudd hwn yn adleisio rhai o ganfyddiadau astudiaeth 2021 Victoria Baker. Dywedodd sawl un o’r dynion ifanc yn yr astudiaeth honno eu bod wedi bod yn dreisgar tuag at rieni neu lys rieni fel ffordd o amddiffyn eu hunain.
Mae rhagor o wybodaeth am weithio â phobl sydd wedi profi trawma yn ein crynodeb tystiolaeth ar ddulliau gweithredu sy'n ystyriol o drawma.
Atal ymddygiadau ymosodol a threisgar plant a phobl ifanc tuag at rieni
Mae camdriniaeth plentyn ar riant yn ffenomenon gymhleth, sydd efallai’n cael ei gwneud yn anos gan y ffaith bod llawer o rieni’n amharod i ofyn am gymorth. Yn yr adran hon, rydyn ni’n cyflwyno ymchwil sy’n edrych ar yr hyn y mae pobl ifanc sydd wedi ymddwyn yn gamdriniol tuag at eu rhieni yn dweud gallai eu helpu.
Safbwynt y person ifanc
Gofynnodd Victoria Baker (2021) i bobl ifanc a oedd wedi ymddwyn yn gamdriniol tuag at eu rhieni beth oedden nhw’n feddwl a allai eu helpu (gweler hefyd Baker et al., 2025). Cafodd wyth thema wahanol eu nodi:
- cyfathrebu a dealltwriaeth
- gofod
- amser o ansawdd
- rheoli dicter
- deall canlyniadau
- cosbi a sefydlu awdurdod
- rôl cymorth proffesiynol
- rhwystrau rhag cael help.
Cyfathrebu a dealltwriaeth
Soniodd pobl ifanc sut yr oedd ymddygiadau treisgar ac ymosodol yn digwydd yn dilyn methiant mewn cyfathrebu. Roedden nhw hefyd yn disgrifio sefyllfaoedd pan oeddent yn gallu cysylltu â’u rhieni a bod hynny’n ei gwneud yn haws iddynt i reoli eu hemosiynau a’u hysfeydd. Roedd teimlo eu bod yn deall eu rhieni’n well a bod eu rhieni’n eu deall hwythau’n well yn gwneud iddyn nhw deimlo’n llai ynysig. Dros amser roedd hyn yn helpu i leihau ysfeydd ymosodol. Soniodd rhai ymatebwyr yn benodol am sut yr oedd therapi teulu wedi eu galluogi i ddysgu cyfathrebu’n well â’u rhieni.
Gofod
Soniodd rhai pobl ifanc am bwysigrwydd cael gofod i bwyllo yn ystod cyfnod o wrthdaro. Roedden nhw’n teimlo bod gallu cerdded i ffwrdd i bwyllo’n ffordd bwysig o atal gwrthdaro rhag datblygu’n drais. Soniodd pobl ifanc hefyd am greu gofod rhyngddyn nhw a’u rhieni fel ffordd bosibl o wella perthnasoedd yn y tymor hwy. Roedden nhw’n gallu creu’r gofod hwn drwy aros â ffrindiau neu deulu, ond hefyd drwy wneud trefniadau mwy ffurfiol drwy gysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol.
Amser o ansawdd
Cyfeiriodd rhai pobl ifanc at yr angen i greu perthnasoedd mwy positif â’u rhieni. Roedden nhw’n credu mai un ffordd o wneud hyn oedd drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau positif y gallai pawb eu mwynhau.
Rheoli dicter
Soniodd pobl ifanc am dechnegau gwahanol y gallent eu defnyddio i reoli eu dicter yn well. Cyfeirion nhw at bethau fel cerddoriaeth, mynd am dro, treulio amser yng nghwmni ffrindiau, ymarfer corff, a theganau ffidlan. Roedden nhw’n eu disgrifio fel pethau a oedd yn eu tawelu ac mewn rhai achosion yn hwyluso cyfathrebu drwy roi gofod iddyn nhw i siarad am eu teimladau.
Deall canlyniadau
Dywedodd rhai pobl ifanc fod dysgu mwy am ganlyniadau eu hymddygiad, yn enwedig y trallod roedden nhw wedi’i achosi i’w rhieni, yn eu helpu i reoli eu hymddygiad yn well.
Cosbi a sefydlu awdurdod
Soniodd nifer fach o bobl ifanc am gosb gan rieni fel ffordd bosibl o ffrwyno ymddygiad ymosodol. Roedd y cosbi’n digwydd mewn sawl ffordd gan gynnwys trais corfforol, cerydd geiriol neu gael eu gorfodi i adael y cartref. Mae Baker yn awgrymu y gallai person ifanc sy’n cymeradwyo cosbau treisgar yn benodol fod yn arwydd bod trais yn cael ei normaleiddio, yn hytrach nag awgrym ei fod yn deillio o brofiad positif. Fodd bynnag, mae Baker yn nodi hefyd fod adennill awdurdod drwy ffyrdd di-drais yn elfen mewn rhai dulliau sy'n mynd i’r afael â chamdriniaeth plentyn ar riant.
Rôl help proffesiynol
Roedd ymatebwyr ar y cyfan yn gweld help proffesiynol fel rhywbeth positif, yn enwedig gallu siarad ag oedolyn tu allan i’r teulu roedden nhw’n ymddiried ynddynt. Er mai dim ond dau berson ifanc yn yr astudiaeth a ddywedodd eu bod wedi cael cymorth yn uniongyrchol, dywedodd sawl un arall y buasent yn falch pe baent wedi cael cymorth proffesiynol i’w helpu i newid eu hymddygiad.
Rhwystrau
Dywedodd y bobl ifanc eu bod yn aml yn betrusgar wrth feddwl am ymwneud â gwasanaethau am eu bod yn poeni na fyddai’r gwasanaethau hyn yn gallu eu helpu. Nododd rhai pobl ifanc fod cwnsela un i un yn rhywbeth a allai helpu. Roedden nhw’n teimlo bod angen help ar bobl ifanc a oedd yn rhoi cyfle iddynt i siarad am eu profiadau a’u teimladau.

Sut i helpu teuluoedd lle mae plant yn cam-drin eu rhieni
Dywedodd gweithwyr cymdeithasol wrthym ei bod yn anodd gwybod sut i helpu teuluoedd lle’r oedd plant yn cam-drin eu rhieni. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ymchwil yn y crynodeb hwn yn goleuo ychydig ar y mater. Mae nifer o resymau pam mae plant a phobl ifanc yn gallu ymddwyn mewn ffordd gamdriniol tuag at eu rhieni. Mae hyn yn golygu bod ffyrdd amrywiol i fynd i’r afael â hyn. Dyma gyngor cyffredinol sydd wedi’i seilio ar yr ymchwil.
- Gall pob aelod o deulu sy’n byw â phlentyn sy’n cam-drin y rhieni gael anhawster dygymod â theimlad o gywilydd. Mae’n bwysig edrych ar y sefyllfa mewn ffordd anfeirniadol gan y gall hyn ei gwneud yn haws i fynd i’r afael â’r mater (Baker, 2021; Messiah a Johnson, 2017).
- Mi fydd angen help ar rieni i fagu hyder ac ymdeimlad o hunan werth. Gall hyn olygu cydnabod y pethau positif yn ogystal â’r problemau mae teuluoedd yn eu hwynebu (Gordon a Wallace, 2015).
- Mae’n bwysig peidio â diystyru’r niwed a all ddigwydd mewn sefyllfa. Pan fydd rhieni’n mynegi pryderon am ymddygiad eu plant, mae’n debyg bod hynny’n beth anodd iddynt ei wneud. Mae’n bwysig cymryd eu pryderon o ddifrif a chanfod beth yn union sy’n digwydd (Gordon a Wallace, 2015).
- Ceisio deall y sefyllfa sylfaenol a helpu teuluoedd ag anawsterau eraill y gallant fod yn eu hwynebu.
Gall sawl un o’n crynodebau tystiolaeth eich helpu:
Mae nifer o ddulliau a rhaglenni penodol sy’n mynd i’r afael â chamdriniaeth plentyn ar riant. Mae trosolwg o’r dulliau mwyaf cyffredin yn Baker a Bonnick (2021). Nododd yr ymchwilwyr fod y dulliau sydd fwyaf addawol yn dueddol o fod â rhai elfennau sy’n gyffredin.
Maen nhw’n nodi pwysigrwydd enwi a chydnabod camdriniaeth ar gyfer rhieni. A bod y rhieni yn cael eu grymuso i reoli gwrthdaro a ffiniau. O ran pobl ifanc, mae ymchwil yn awgrymu bod ffactorau pwysig yn cynnwys dysgu am reoli’r hyn sy’n sbarduno’r gamdriniaeth, datblygu sgiliau cyfathrebu, hunan fyfyrio, a chydnabod niwed. Mae’r holl ddulliau gwahanol hyn yn dueddol o roi pwyslais ar egwyddorion dulliau sydd wedi’u seilio ar ddatrysiadau ac ar gryfderau, cyfiawnder adferol, a hybu ymddygiadau positif (Baker a Bonnick, 2021).
Casgliad
Mae’r crynodeb tystiolaeth hwn yn cyflwyno trosolwg o ymchwil i gamdriniaeth plentyn ar riant a sut i fynd i’r afael â hyn. Mae mater plant sy’n cam-drin eu rhieni’n un cymhleth ac mi all fod yn anodd i ymarferwyr gofal cymdeithasol wybod sut i helpu teuluoedd sy’n cael eu heffeithio ganddo. Mae nifer o syniadau sy’n deillio o ymchwil i rywedd, niwrowahaniaeth, a thrawma a all helpu ymarferwyr i ymateb yn fwy hyderus i’r mater. Mae’r crynodeb hwn wedi trafod y rhain ynghyd ag ymchwil i ddulliau ymarferol i helpu teuluoedd lle mae’r math hwn o gamdriniaeth yn digwydd.
Darllen ychwanegol
Dyma restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol i gefnogi cynhwysiant cymdeithasol pobl hŷn a’u mynediad at ofal sydd naill ai’n rhai mynediad agored neu sydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru.
- Baker H. (2012b) ‘Problematising the Relationship between Teenage Boys and Parent Abuse: Constructions of Masculinity and Violence’, Social Policy and Society, 11 (2), tt. 265-276, doi:10.1017/S1474746411000583, ar gael yn https://doi.org/10.1017/S1474746411000583.
- Baker, V. a Bonnick, H. (2021) Understanding CAPVA: A rapid literature review on child and adolescent to parent violence and abuse for the Domestic Abuse Commissioner’s Office, ar gael yn https://domesticabusecommissioner.uk/wp-content/uploads/2021/11/CAPVA-Rapid-Literature-Review-Full-November-2021-Baker-and-Bonnick.pdf (cyrchwyd: 7 Ebrill 2025).
- Baker, V., Radford, L., Harbin, F. a Barter, C. (2025) ‘Young People’s Accounts of their Violence and Abuse Towards Parents: Causes, Contexts, and Motivations’, Journal of Family Violence, doi:10.1007/s10896-025-00870-9, ar gael yn https://doi.org/10.1007/s10896-025-00870-9.
- Holt, A. (2024) ‘"I’m his safe space": Mothers’ experiences of physical violence from their neurodivergent children—gender, conflict and the ethics of care’, The British Journal of Criminology, 64 (4), tt. 811-826, doi:10.1093/bjc/azad074, ar gael yn https://doi.org/10.1093/bjc/azad074.
- Selwyn, J. a Meakings, S. (2016) ‘Adolescent-to-parent violence in adoptive families’, The British Journal of Social Work, 46 (5), tt. 1224-1240, doi:10.1093/bjsw/bcv072, ar gael yn https://doi.org/10.1093/bjsw/bcv072.
Cyfeiriadau -
Baker, H. (2012a) ‘Exploring how teenage boys are constructed in relation to parent abuse: Helen Baker cautions against using popular assumptions to explain abuse’, Criminal Justice Matters, 87 (1), tt. 48-49, doi:10.1080/09627251.2012.671025.
Baker, H. (2012b) ‘Problematising the Relationship between Teenage Boys and Parent Abuse: Constructions of Masculinity and Violence’, Social Policy and Society, 11 (2), tt. 265-276, doi:10.1017/S1474746411000583.
Baker, V. a Bonnick, H. (2021) Understanding CAPVA: A rapid literature review on child and adolescent to parent violence and abuse for the Domestic Abuse Commissioner’s Office, ar gael yn https://domesticabusecommissioner.uk/wp-content/uploads/2021/11/CAPVA-Rapid-Literature-Review-Full-November-2021-Baker-and-Bonnick.pdf (cyrchwyd: 7 Ebrill 2025).
Baker, V., Radford, L., Harbin, F. a Barter, C. (2025) ‘Young People’s Accounts of their Violence and Abuse Towards Parents: Causes, Contexts, and Motivations’, Journal of Family Violence, doi:10.1007/s10896-025-00870-9.
Baker, V. (2021) Exploring adolescent violence and abuse towards parents: the experiences and perceptions of young people, thesis PhD, Prifysgol Swydd Gaerhirfryn, ar gael yn https://clok.uclan.ac.uk/39684/1/39684%20Baker_Victoria_PhDThesis_Final_August2021.pdf (cyrchwyd: 7 Ebrill 2025).
Biehal, N. (2012) ‘Parent Abuse by Young People on the Edge of Care: A Child Welfare Perspective’, Social Policy & Society, 11 (2), tt. 251-263, doi:10.1017/S1474746411000595.
Burman, E. (2008) Deconstructing Developmental Psychology, Llundain, Routledge.
Clarke, K.R. (2015) Parents’ experiences of being abused by their adolescent children: an interpretative phenomenological analysis study of adolescent-to-parent violence and abuse, thesis PhD, Prifysgol Hertfordshire, ar gael yn https://uhra.herts.ac.uk/bitstream/handle/2299/17092/12239424%20Clarke%20Kerry%20Rose%20Final%20submission.pdf?sequence=1 (cyrchwyd: 7 Ebrill 2025).
Condry, R. a Miles, C. (2014) ‘Adolescent to parent violence: Framing and mapping a hidden problem’, Criminology and Criminal Justice 14 (3), tt. 257-275, doi:10.1177/1748895813500155.
Coogan, D. a Lauster, E. (2015) Non Violent Resistance Handbook for Practitioners – Responding to Child to Parent Violence in Practice, ar gael yn https://nvrireland.ie/wp-content/uploads/2016/02/5-1-nvr-handbook-for-practitioners-corrected.pdf (cyrchwyd: 7 Ebrill 2025).
Cottrell, B. (2001) Parent abuse: the abuse of parents by their teenage children, Family Violence Prevention Unit, Health Canada, ar gael yn https://publications.gc.ca/collections/Collection/H72-21-180-2000E.pdf (cyrchwyd: 7 Ebrill 2025).
Edenborough, M., Jackson, D., Mannix, J. a Wilkes, L. M. (2008) ‘Living in the red zone: the experience of child-to-mother violence’, Child and Family Social Work, 13 (4), tt. 464-473, doi:10.1111/j.1365-2206.2008.00576.x.
Eckstein, N.J. (2004) ‘Emergent issues in families experiencing adolescent to parent abuse’, Western Journal of Communication, 68 (4), tt. 365-388, doi:10.1080/10570310409374809.
Gilligan, C. (1993) In a Different Voice: Psychological Theory and Women’s Development, Cambridge, MA, Gwasg Prifysgol Harvard.
Gordon, C. a Wallace, K. (2015) Caring for those who care for violent or aggressive children, ADAPT (Alban), ar gael yn https://adaptscotland.co.uk/resources-adapt-scotland/ (cyrchwyd: 28 Chwefror 2025).
Haw, A. (2010) Parenting Over Violence: Understanding and Empowering Mothers Affected by Adolescent Violence in the Home, Perth, Canolfan Patricia Giles.
Hays, S. (1996) The Cultural Contradictions of Motherhood, New Haven, Gwasg Prifysgol Yale.
Holt, A. (2009) ‘Parent abuse: some reflections on the adequacy of a youth justice response’, Internet Journal of Criminology, ar gael yn https://www.internetjournalofcriminology.com/_files/ugd/b93dd4_5720f359696f4324bdc27b08f8e38803.pdf (cyrchwyd: 27 Awst 2025).
Holt, A. (2013) Adolescent-to-Parent Abuse: Current Understandings in Research, Policy and Practice, Bryste, Policy Press.
Holt, A. (2016) Working with adolescent violence and abuse towards parents: Approaches and contexts for intervention, Llundain, Routledge.
Holt, A. (2022) Child to Parent Abuse, HM Inspectorate of Probation, Academic insight, ar gael yn https://cloud-platform-e218f50a4812967ba1215eaecede923f.s3.amazonaws.com/uploads/sites/32/2025/01/Academic-Insights-Child-to-Parent-Abuse-Dr-Amanda-Holt.pdf (cyrchwyd: 7 Ebrill 2025).
Holt, A. (2024) ‘"I’m his safe space": Mothers’ experiences of physical violence from their neurodivergent children—gender, conflict and the ethics of care’, The British Journal of Criminology, 64 (4), tt. 811-826, doi:10.1093/bjc/azad074.
Humphrey, N. a Hebron, J. (2015) ‘Bullying of Children and Adolescents with Autism Spectrum Conditions: A ‘State of the Field’ Review’, International Journal of Inclusive Education, 19 (8), tt. 845–62, doi:10.1080/13603116.2014.981602.
Kerns, C.M., Newschaffer, C.J. a Berkowitz, S.J. (2015) ‘Traumatic Childhood Events and Autism Spectrum Disorder’, Journal of Autism and Developmental Disorders, 45 (11), tt. 3475-3486, doi:10.1007/s10803-015-2392-y.
Kohlberg, L. (1981) The Philosophy of Moral Development, Cambridge, MA, Harper and Row.
Laurent, A. a Derry, A. (1999) ‘Violence of French adolescents toward their parents: characteristics and contexts’, Journal of Adolescent Health, 25 (1), tt. 21-26, doi:10.1016/s1054-139x(98)00134-7.
Maïano, C., Normand, C.L., Salvas, M.C., Moullec, G. a Aime, A. (2016) ‘Prevalence of School Bullying Among Youth with Autism Spectrum Disorders: A Systematic Review and Meta-analysis’, Autism Research, 9 (6), tt. 601-15, doi:10.1002/aur.1568.
Messiah, A.P. a Johnson, E.J. (2017) ‘Social work intervention in adolescent-to-parent abuse’, Journal of Human Behavior in the Social Environment, 27 (3), tt. 187-197, doi:10.1080/10911359.2016.1270868.
Micucci, J.A. (1995) ‘Adolescents who assault their parents: A family systems approach to treatment’, Psychotherapy, 32 (1), tt. 154-161, doi:10.1037/0033-3204.32.1.154.
Miller, D., Rees, J. a Pearson, A. (2021) ‘“Masking Is Life”: Experiences of Masking in Autistic and Nonautistic Adults’, Autism in Adulthood, 3 (4), tt. 330-338, doi:10.1089/aut.2020.0083.
Parental Education and Growth Support (2022) The impact of Child to Parent Abuse: Who does it affect and how?, ar gael yn https://irp.cdn-website.com/fa6ebd65/files/uploaded/Child+to+Parent+Abuse+Parent+Survey.pdf, (cyrchwyd: 3 Chwefror 2025).
Parentline Plus (2010) When Family Life Hurts: Family Experience of Aggression in Children, ar gael yn https://holesinthewall.co.uk/wp-content/uploads/2015/01/when-family-life-hurts.pdf (cyrchwyd: 26 Awst 2025).
Paulson, M.J., Coombs, R.H. a Landsverk, J. (1990) ‘Youth who physically assault their parents’, Journal of Family Violence, 5, tt. 121-133, doi:10.1007/BF00978515.
Selwyn, J. a Meakings, S. (2016) ‘Adolescent-to-parent violence in adoptive families’, The British Journal of Social Work, 46 (5), tt. 1224-1240, doi:10.1093/bjsw/bcv072.
Simmons, M., McEwan, T.E., Purcell, R. a Ogloff, J.R.P. (2018) ‘Sixty years of child-to-parent abuse research: What we know and where to go’, Aggression and Violent Behavior, 38, tt. 31-52, doi:10.1016/j.avb.2017.11.001.