Gwella telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2025
Lluniwyd gan Dr Grace Krause, golygwyd gan Dr Kat Deerfield, Dr Rhian Reynolds a Dr Flossie Caerwynt
Yn y papur briffio hwn, rydyn ni wedi casglu canfyddiadau o’n hymchwil ar delerau ac amodau yn y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni wedi grwpio ein canfyddiadau yn ôl y themâu canlynol:
- boddhad mewn swydd
- cyflog ac ad-daliad
- mathau o gontract
- gweithwyr rhyngwladol
- telerau ac amodau eraill.
Yn dilyn trafodaeth ar y canfyddiadau, rydyn ni’n amlinellu’r hyn sy’n cael ei wneud i wella amodau gwaith y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Y gweithlu gofal cymdeithasol mewn niferoedd
Mae'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cyflogi amcangyfrif o 82,875 o bobl ledled y wlad. Mae hyn yn gynnydd o 0.7 y cant o'i gymharu â'r llynedd (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025b). Mae oddeutu 65,000 o bobl wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Yn 2025, fe wnaethom gynnal ein trydydd arolwg o’r gweithlu er mwyn canfod sut yr oedd pobl yn teimlo am weithio ym maes gofal cymdeithasol. Cawsom ymatebion gan 3,546 o weithwyr gofal, 492 o reolwyr gofal cymdeithasol, 750 o weithwyr cymdeithasol, a 293 o bobl mewn rolau eraill. Ymatebodd cyfanswm o 5,707 o bobl i'n harolwg. Fe wnaethom hefyd gynnal dau grŵp ffocws a 21 o gyfweliadau unigol i ddysgu mwy am brofiadau gweithwyr gofal cymdeithasol.
Er bod yr arolwg yn gofyn rhai pethau sydd yr un fath â’r llynedd (Krause et al., 2025a, Krause et al., 2025b), mae rhai gwahaniaethau sylweddol hefyd. O ganlyniad, mae rhai pethau oedd ym mhapur briffio'r llynedd heb eu cynnwys y tro hwn.
Dyma rai o’r pethau pwysig rydyn ni wedi’u dysgu gan y bobl a ymatebodd i’n harolwg (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a):
- roedd 68.86 y cant yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon â’u telerau ac amodau
- roedd 10.82 y cant naill ai’n eithaf anfodlon neu'n anfodlon iawn â’u telerau ac amodau
- roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno y gallent ddiwallu anghenion y bobl a oedd yn cael gofal a chymorth (77.77 y cant)
- Roedd 11.74 y cant yn cael eu cyflogi ar gontract dim oriau gyda 14.71 y cant o weithwyr gofal ar gontract dim oriau
- dywedodd 64.11 y cant o’r bobl a oedd â chontract dim oriau y byddai’n well ganddynt fod ar gontract oriau sefydlog neu reolaidd
- roedd 41.96 y cant yn anfodlon â’u cyflog – 37.88 y cant oedd yn fodlon
- dywedodd 45.86 y cant eu bod yn ‘byw’n gyfforddus’ neu’n ‘gwneud yn iawn’ yn ariannol, a dywedodd 22.02 y cant eu bod yn ei chael yn ‘eithaf anodd’ neu’n ‘anodd iawn’ ymdopi.
Pam ei bod yn bwysig gwella telerau ac amodau
Mae telerau ac amodau da yn bwysig i lesiant gweithwyr. Gall amodau gwaith gwael hefyd effeithio ar gyfraddau cadw staff ac ar ddenu a recriwtio i’r sector. Gall hyn wedyn gael effaith ar ddarparu gofal a chymorth.
Mewn ymateb i’r cwestiwn a oedden nhw’n fodlon â’u telerau ac amodau, dywedodd 68.86 y cant o’r holl ymatebwyr eu bod yn fodlon yn gyffredinol. Roedd rhywfaint o amrywiaeth rhwng rolau, gyda 66.30 y cant o weithwyr gofal yn dweud eu bod yn fodlon â'u telerau ac amodau. Cododd hyn i 71.22 y cant ymhlith gweithwyr cymdeithasol a 80.16 y cant ar gyfer rheolwyr (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
Drwy gynnal ein harolwg o’r gweithlu, gwyddom fod 50.11 y cant o weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig wedi dechrau gweithio yn y sector oherwydd eu bod eisiau swydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Yr ail ateb mwyaf cyffredin, gydag 11.83 y cant, oedd eu bod yn meddwl y byddai'n swydd y bydden nhw’n yn ei mwynhau (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
Dywedodd nifer o ymatebwyr eu bod wedi ymuno â’r sector er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a soniodd eraill eu bod yn teimlo y byddent yn mwynhau'r gwaith
Mae'r niferoedd hyn yn is o lawer eleni nag yr oedden nhw’r llynedd. Mae rheswm am hyn. Eleni, roedd yr arolwg dim ond yn gofyn am y rheswm pwysicaf pam eu bod wedi dechrau gweithio yn y sector. Yn arolwg 2024, roedden nhw’n gallu enwi'r holl resymau pam eu bod wedi ymuno â'r gweithlu. Wrth ofyn y cwestiwn y ffordd honno, dywedodd 69 y cant eu bod eisiau swydd a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. A dywedodd 45 y cant eu bod yn teimlo y byddai'n swydd y byddent yn ei mwynhau (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).
Yn y ddau achos, mae'r ddau ateb uchaf yr un fath. Mae hyn yn awgrymu bod y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn llawn cymhelliant a bod gweithwyr eisiau darparu’r gofal gorau posibl i’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Fodd bynnag, gwyddom o ymchwil arall y gall amodau gwaith yn y sector ei gwneud yn anodd i weithwyr gofal cymdeithasol ddarparu'r gofal gorau posibl i'r bobl y maen nhw’n eu cefnogi. Yn ein harolwg, dywedodd 19.89 y cant o'r ymatebwyr eu bod yn ystyried gadael y sector gofal cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a). Mae adroddiad Gwaith Teg Cymru, cafodd ei gynhyrchu gan y Comisiwn Gwaith Teg yn 2019, yn argymell edrych ar amodau gwaith yn y sector gofal cymdeithasol. Mae’n disgrifio’r sector fel ‘diwydiant craidd sy’n cyfrannu at lesiant unigolion a llesiant cymdeithasol’. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi, er gwaethaf gweithio mewn sector o bwys mawr, fod y gweithlu gofal cymdeithasol yn aml yn cael trafferth gydag ansicrwydd ac amodau gwaith gwael.
Mae papur ymchwil gan y Senedd, cafodd ei gyhoeddi yn 2022, yn dweud bod y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru ‘mewn argyfwng’ (James, 2022). Problemau recriwtio a chadw yw’r prif resymau dros hyn (James, 2022). Nid oes digon o staff yn y sector o’i gymharu â sectorau eraill yn economi Cymru. Yn 2024, roedd tua 5,346 o swyddi gwag ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025b).
Rydyn ni wedi grwpio ein canfyddiadau ar delerau ac amodau yn wahanol themâu er mwyn i ni allu archwilio’r data’n fanylach.
Boddhad mewn swydd
Roedd ein harolwg o’r gweithlu yn 2025 yn gofyn i weithwyr gofal cymdeithasol beth roedden nhw wedi’i fwynhau am weithio ym maes gofal cymdeithasol. A beth, yn eu barn nhw, oedd modd ei wneud er mwyn gwella’r profiad o weithio yn y sector.
Beth sy'n cymell pobl i weithio ym maes gofal cymdeithasol?
Yn y grwpiau ffocws a'r cyfweliadau, trafododd bobl beth oedd yn eu cymell i weithio ym maes gofal cymdeithasol. Daeth dwy brif thema i'r amlwg. Yn gyntaf, roedd ymatebwyr yn gwerthfawrogi eu gallu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac roedden nhw’n teimlo eu bod yn cael llawer o foddhad personol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a):
“Dwi'n teimlo'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u helpu. Maen nhw'n bobl fregus, a dyna ’dwi wrth fy modd yn ei wneud. Felly, y ffordd orau i mi gysylltu â’r gymuned yw ymuno â gofal cymdeithasol.”
Rhys, gweithiwr cymorth
“Mae gweithio gyda phobl agored i niwed yn rhoi boddhad mawr i mi. Dwi'n teimlo'n hapus pan fydda i'n eu gweld nhw, yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n derbyn gwasanaethau a’u bod yn ddiogel yn eu cartrefi.”
Emily, gweithiwr gofal cartref
Roedd pobl yn dweud hefyd eu bod yn teimlo bod gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn gam naturiol ymlaen iddynt o’u rolau neu eu profiadau blaenorol. Er enghraifft, nododd nifer o gyfranogwyr eu bod yn gofalu am aelodau o'r teulu, a bod hyn wedi eu hannog i chwilio am waith ym maes gofal cymdeithasol:
“Mae gen i fam-gu. Mae hi dros 100 oed. Felly dwi fel arfer yn mynd draw [...] ac yn treulio fy amser rhydd gyda hi [...] Dwi’n meddwl fy mod i wedi dod i arfer â'r patrwm o fod yno i bobl hŷn. Dwi wrth fy modd yn eu cwmni nhw. Dwi wrth fy modd yn treulio amser gyda nhw. Dwi'n gwrando arnyn nhw [...] mae'n gwneud i mi deimlo'n hapus.”
Anna, cynorthwyydd gofal iechyd
Roedd eraill wedi mynd ymlaen i waith gofal cymdeithasol ar ôl gweithio mewn rolau cysylltiedig:
“Dwi ’di gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu. Dwi hefyd wedi gweithio gyda phobl â chyflyrau iechyd meddwl; dwi ’di gweithio efo henoed gyda dementia a phobl ag anawsterau corfforol, a dwi ’di gweithio efo unigolion sy'n gadael gofal. Felly dwi ’di cael llawer o brofiad dros y blynyddoedd... a wnaeth fy arwain yn naturiol at waith gofal.”
Lyla, gweithiwr cymorth
Diwallu anghenion pobl a’r teimlad o gefnogaeth
Dywedodd pobl sy’n gweithio ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol wrthym eu bod yn cael boddhad mawr yn eu gwaith. Fodd bynnag, dangosodd yr arolwg hefyd nad ydyn nhw bob amser yn teimlo bod ganddynt y gallu i wneud eu gwaith gystal ag yr hoffent.
Roedd y rhan fwyaf o weithwyr a ymatebodd i’n harolwg o’r gweithlu (77.77 y cant) yn cytuno y gallent ddiwallu anghenion y bobl roedden nhw’n gofalu amdanynt. Roedd y nifer hwn ar ei isaf ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, a dim ond 62.47 y cant ohonynt oedd yn cytuno â'r datganiadau.
Roedd dros hanner (58.5 y cant) yn teimlo nad oedd ganddyn nhw ddigon o amser i wneud eu gwaith yn dda. Roedd y nifer hwn ar ei isaf ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol (47.86 y cant) a gweithwyr cymdeithasol (43.49 y cant).
Dangosodd yr arolwg hefyd nad yw gweithwyr gofal cymdeithasol bob amser yn teimlo eu bod yn cael digon o gefnogaeth ar gyfer eu llesiant yn y gwaith. Pan ofynnwyd am straen, dim ond 43.52 y cant o weithwyr oedd yn teimlo bod digon o gefnogaeth ar gael. Rydyn ni wedi creu papur briffio ar wahân i drafod llesiant y gweithlu yn fwy manwl, ac mae ar gael yma: Cefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2025.
Cyflog ac ad-daliad
Mae’r cyflog ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol yn amrywio yn ôl math o rôl, ac yn ôl cyflogwr. Nid oes gennym niferoedd penodol ar gyfer Cymru. Ond gwyddom o ddata ar draws y DU mai £45,881 oedd cyfartaledd incwm llawn amser blynyddol rheolwyr a pherchnogion gofal preswyl, gofal dydd a gofal cartref ym mis Ebrill 2025, gyda chyfradd fesul awr o £22.73 ar gyfartaledd. Roedd gan reolwyr a chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol incwm llawn amser blynyddol o £50,235 y flwyddyn ar gyfartaledd, ac roedd ganddynt gyfartaledd cyflog fesul awr o £27.48, tra bod gweithwyr cymdeithasol ar gyfartaledd o £44,898 y flwyddyn, a £23.45 yr awr ar gyfartaledd. Roedd rheolwyr a pherchnogion gofal preswyl, dydd a chartref yn gweithio 37.6 awr yr wythnos ar gyfartaledd, o’i gymharu â 33.9 awr ar gyfartaledd i reolwyr a chyfarwyddwyr gofal cymdeithasol a 34.3 awr ar gyfer gweithwyr cymdeithasol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2025).
Mewn cymhariaeth, roedd gan weithwyr gofal a gweithwyr gofal cartref incwm llawn amser blynyddol cyfartalog o £27,577 neu gyflog cyfartalog fesul awr o £14.54. Roedd gan uwch weithwyr gofal incwm llawn amser blynyddol o £29,804 ar gyfartaledd, a chyflog cyfartalog fesul awr o £14.91. Roedd gweithwyr gofal yn gweithio 31.3 awr yr wythnos ar gyfartaledd ac roedd uwch weithwyr gofal yn gweithio 37.2 awr yr wythnos ar gyfartaledd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2025).
Mae’r ffigurau hyn yn is nag amcangyfrifon Sefydliad Joseph Rowntree, sy’n dangos bod angen i un person yn 2025 ennill £30,500 y flwyddyn i fforddio safon byw dderbyniol (Stone a Padley, 2025). Roedd angen i gwpl â dau blentyn gael cyflog cyfartalog o tua £74,000 y flwyddyn gyda’i gilydd (Stone a Padley, 2025).
Yn gyffredinol, roedd 45.86 y cant o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod naill ai’n ‘gwneud yn iawn’ yn ariannol neu’n ‘byw’n gyfforddus’. Pan fyddwn yn ystyried y data yn ôl math o weithlu, mae gweithwyr gofal yn sefyll allan fel rhai y mae pwysau ariannol yn effeithio arnynt fwyaf. Dim ond 41.99 y cant o weithwyr gofal a ddywedodd eu bod yn gwneud yn iawn yn ariannol neu'n byw'n gyfforddus, o'i gymharu â 55.65 a 51.36 y cant o reolwyr a gweithwyr cymdeithasol yn y drefn honno. Dywedodd bron i chwarter, 24.1 y cant, y gweithwyr gofal eu bod yn ei chael yn eithaf anodd neu'n anodd iawn ymdopi'n ariannol, o'i gymharu â 21.6 y cant o weithwyr cymdeithasol ac 13.76 y cant o reolwyr gofal cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
Ar draws y gweithlu, gweithwyr gofal oedd yn adrodd fwyaf ar deimlo pwysau ariannol, gyda rhai yn dweud ei fod yn eithaf anodd, neu'n anodd iawn ymdopi'n ariannol
Roedd lefelau bodlonrwydd â chyflog yn amrywio ar draws gwahanol rannau’r gweithlu. At ei gilydd, dywedodd 37.88 y cant o'r gweithlu gofal cymdeithasol eu bod yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon â lefel eu cyflog ac roedd 41.96 y cant yn anfodlon iawn neu'n eithaf anfodlon â lefel eu cyflog.
Roedd hyn yn is ar gyfer gweithwyr gofal, gyda 34.59 y cant naill ai'n eithaf bodlon neu'n fodlon iawn â'u cyflog. Roedd 45.45 y cant ohonynt yn dweud eu bod yn eithaf anfodlon neu'n anfodlon iawn. Ymysg gweithwyr cymdeithasol, dywedodd 42.07 y cant eu bod yn weddol fodlon neu'n fodlon iawn â'u cyflog, ac ymatebodd 38.93% eu bod yn eithaf anfodlon neu'n anfodlon iawn. Ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol, roedd hyn ychydig yn uwch, gyda 47.43 yn weddol fodlon neu'n fodlon iawn â chyfradd gyfredol eu cyflog, a 31.62 y cant yn dweud eu bod yn anfodlon (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
Nododd gweithwyr gofal cymdeithasol mai cyflogau isel yw un o’r prif resymau dros y trosiant staff uchel (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a):
“Mae cadw staff yn fwy o her. Oriau hir, cyflog gwael, cefnogi pobl ag anghenion gofal iechyd cymhleth iawn, mwy o rôl nyrsio, cyfrifoldebau ac atebolrwydd enfawr heb lawer o gefnogaeth gan y sector iechyd na phobl brofiadol mewn swyddi goruchwyliol.”
Swydd anhysbys
“Cyflog isel am yr hyn sy'n rhaid i chi ei wneud. Roeddwn i'n arfer gweithio yn Starbucks ac roeddwn i'n cael mwy o gyflog yr awr am lai o gyfrifoldeb. Dwi'n gwneud y swydd hon am fy mod i wrth fy modd efo hi, ond mae'r ochr ariannol yn anodd.”
Swydd anhysbys
Roedd ymatebwyr o'r farn bod gwell cyflog yn ffordd allweddol o wella lefelau recriwtio a chadw staff ym maes gofal cymdeithasol:
“Yr unig ffordd rydych chi'n [mynd i] gael mwy o staff, a mwy o staff yn aros, yw'r cyflog. ’Da ni ar yr isafswm cyflog. ’Da ni'n gweld meddygon a nyrsys, yn cwyno am eu cyfraddau cyflog a'r hyn mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud, ac er ein bod ni'n cydymdeimlo â hynny, ’da ni hefyd yn gweld ein bod ni'n gwneud llawer mwy na nhw.”
Rhian, gweithiwr cymorth
Roedd hyn hefyd yn cynnwys gwell tâl salwch:
“Byddai'n dda gen i pe baen ni'n cael mwy o gyflog [...] ond pe bai'r cyflogau'n aros yr un fath, ond ein bod ni'n cael tâl salwch, dwi'n meddwl y byddai hynny'n gwneud pethau ychydig yn well.”
Katrina, gweithiwr cymorth
Mathau o gontractau
Mae ein gwaith o gasglu data am y gweithlu yn dangos bod 87.2 y cant o'r bobl sy'n gweithio i wasanaethau a gomisiynir ar gontractau parhaol. Mae 76.6 y cant o weithwyr awdurdodau lleol ar gontractau parhaol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025b).
Yn ein harolwg, dywedodd 66.69 y cant o'r ymatebwyr eu bod ar gontractau amser llawn, gydag 17.37 y cant ar gontractau rhan-amser a 10.83 y cant ar gontractau oriau hyblyg (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
Defnyddio contractau dim oriau ym maes gofal cymdeithasol
Yn arolwg gweithlu 2025 roeddem wedi gofyn yn benodol am gontractau dim oriau. Contractau cyflogaeth yw’r rhain sydd ddim yn gwarantu oriau gwaith (Ravalier et al., 2019). Yn ein harolwg, dywedodd 11.74 y cant o'r ymatebwyr mai contract dim oriau oedd ganddynt. Roedd gweithwyr gofal, sef 14.71 y cant, yn llawer mwy tebygol o gael y math hwn o gontract. Roedd hyn yn cymharu â 6.34 y cant o weithwyr cymdeithasol ac 1.69 y cant o reolwyr.
Mae data’r gweithlu (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025b) yn rhoi darlun tebyg. Rôl y gweithiwr gofal sydd â’r gyfradd uchaf o weithwyr gofal cymdeithasol ar gontractau dim oriau; 2,313 o weithwyr (sef 9.7 y cant). Mae’r gyfran uchaf o weithwyr ar gontractau dim oriau (25.9 y cant) mewn gofal cartref drwy wasanaethau sy’n cael eu comisiynu. O’r bobl a ddywedodd fod ganddyn nhw gontract dim oriau, dim ond tua 35.89 y cant ddywedodd y bydden nhw’n dewis gweithio dan y math hwn o gontract. Mae hyn yn awgrymu nad yw’r rhan fwyaf o unigolion eisiau’r trefniant hwn (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
Roedd yr arolwg hefyd yn gofyn cwestiwn penagored i bobl ynghylch sut roedd contractau dim oriau yn effeithio arnyn nhw. Dywedodd pobl fod diffyg gwybodaeth am eu horiau gwaith yn ei gwneud yn anodd talu’r biliau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Roedden nhw'n dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd peidio â gwybod faint o dâl fydden nhw'n ei gael a'u bod nhw'n poeni am eu sicrwydd ariannol. Dywedodd rhai ymatebwyr fod contractau dim oriau yn rhoi hyblygrwydd iddynt ddewis shifftiau a oedd yn addas iddynt neu'n eu helpu i weithio o amgylch eu trefniadau gofal plant. Ond dywedodd eraill nad oedd hyblygrwydd eu contract bob amser yn gweithio o'u plaid. Roedden nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i dderbyn pa oriau bynnag oedd ar gael ac roedden nhw’n poeni y gallent golli shifftiau unrhyw bryd.
Dywedodd y mwyafrif o bobl ar gontractau dim oriau, na fyddan nhw'n dewis y math yma o gontract. Roedden nhw'n dweud bod cynllunio a rheoli eu cyllid yn fwy anodd ac eu bod yn teimlo pwysedd i dderbyn pa bynnag oriau oedd ar gael
Gweithwyr rhyngwladol
Roedd deg o bobl a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws neu'r cyfweliadau yn staff rhyngwladol o'r tu allan i'r DU. Roedd rhai o'r gweithwyr hyn ar fisas a oedd angen nawdd gan gyflogwr. Siaradodd rhai gweithwyr gofal cymdeithasol rhyngwladol am ansicrwydd ynghylch nawdd, gan ddweud bod diffyg sefydlogrwydd a chymorth fisa amserol yn creu straen ac yn gadael cyflogwyr mewn perygl o golli staff medrus ac angerddol.
“Gall fod angen noddwr ar y rhan fwyaf ohonom i gadw'r swydd i fynd. [...] Mae'n rhaid i rai sydd ar brawf mewn lle penodol [...] fynd i chwilio am ffynhonnell arall i ymestyn y fisa am gyfnod cyn y dyddiad dod i ben ar gyfer eu cyfnod prawf [...] Dwi’n meddwl, petai Gofal Cymdeithasol Cymru yn gallu cyflwyno rheol i roi pum mlynedd, [...] i gadw sefydlogrwydd staff. ‘Da chi'n gwybod, pan fyddwch chi'n dweud [...] ar ôl blwyddyn gall y staff fynd [...] mae'n effeithio ar y sefydliad, ac mae hefyd yn effeithio ar ddefnyddwyr y gwasanaeth.”
Rhys, gweithiwr cymorth
Dywedodd rhai gweithwyr rhyngwladol fod eu statws mewnfudo yn eu gwneud yn agored i gael eu trin yn annheg, gan gynnwys bygythiadau i'w fisas os oedden nhw’n cwestiynu amodau gwaith neu'n herio arferion gwael.
“Ac yna’r heriau eraill roeddwn i'n eu hwynebu: 15 munud ar gyfer cleient gyda chlefyd Parkinson. [...] Roedd yn rhaid i mi ffonio [...] 999 i ddod i nôl y cleient. Felly, weithiau bydd yr ambiwlans yn dod yn hwyrach, ryw awr a mwy wedyn. Wedyn byddwn yn wynebu’r her bod y galwadau canlynol yn cael eu canslo. Yna dydych chi ddim yn cael eich talu. Ond roedden ni'n arfer cael ein talu am hynny. Os ’da chi'n gofyn iddyn nhw, dim ond am ein bod ni'n weithwyr noddedig o dramor, byddan nhw'n ein bygwth ni gyda chanslo'r nawdd.”
Tanya, gweithiwr gofal cartref
Gall gweithwyr sy'n cael eu noddi gan gyflogwr wynebu mathau penodol o gam-fanteisio a cham-drin. Cynhaliodd Unsain (2025) arolwg o 3000 o bobl a oedd wedi dod i'r DU i weithio yn y sector gofal cymdeithasol. Dywedodd bron i hanner yr ymatebwyr (46 y cant) eu bod wedi profi hiliaeth yn y gwaith. Roedden nhw hefyd yn sôn am faterion fel amodau byw anaddas yn llety’r cwmni a chael eu talu'n hwyr neu fod cyflog yn cael ei dynnu heb reswm da (Unsain, 2025).
Telerau ac amodau eraill
Yn yr arolwg, dywedodd pobl wrthym am nifer o bynciau eraill yn ymwneud â thelerau ac amodau cyflogaeth, gan gynnwys buddion cyflogaeth fel pensiynau, gwyliau/absenoldeb a pholisïau sy’n ystyriol o deuluoedd. Roedden nhw hefyd yn sôn am eu hymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth ac aelodaeth o undebau llafur.
Pensiynau
Dywedodd y rhan fwyaf o bobl, ar draws pob grŵp, fod cynllun pensiwn y gweithle neu gwmni ar gael iddynt. Ymysg y rhai a ddywedodd eu bod yn cael cyfraniad gan eu cyflogwr fel rhan o gynllun pensiwn roedd 60.27 y cant o weithwyr gofal, 72.13 y cant o weithwyr cymdeithasol, ac 81.5 y cant o reolwyr gofal cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
Gwyliau
Roedd y rhan fwyaf o reolwyr gofal cymdeithasol yn cael 28 diwrnod o wyliau â thâl (92.48 y cant), o’i gymharu â 74.93 y cant o weithwyr gofal a 76.4 y cant o weithwyr cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
Dim ond 30.6 y cant o weithwyr gofal a gafodd dâl salwch y tu hwnt i dâl salwch statudol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a). Tâl salwch statudol yw isafswm y tâl salwch y mae'n rhaid i gyflogwyr ei dalu. Ar hyn o bryd, mae wedi'i osod ar £118.75 yr wythnos (Llywodraeth y DU, 2025). Roedd gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol rhywfaint yn fwy tebygol o gael tâl salwch, 60.67 y cant a 52.24 y cant yn y drefn honno (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd
Yn yr arolwg, dywedodd 48.4 y cant o weithwyr cymdeithasol a 48.17 y cant o reolwyr gofal cymdeithasol bod eu swydd yn cynnwys polisïau ystyriol o deuluoedd fel gweithio hyblyg, absenoldeb gofalwyr, ac absenoldeb rhiant uwch. Roedd gweithwyr gofal yn llawer llai tebygol (14.07 y cant), o gael mynediad at bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
Yn ein harolwg, dywedodd y mwyafrif bod ganddynt gynllun pensiwn ac yn deall eu hawliau cyflogaeth. Ond roedd llai na hanner yn dweud bod ganddynt fynediad at bolisïau ystyriol o deuluoedd neu gostau teithio digonol
Costau teithio
Ymatebodd bobl ynglŷn â chael digon o arian i dalu eu costau teithio cysylltiedig â gwaith. Ymysg gweithwyr gofal, dim ond 11.59 y cant a ddywedodd eu bod yn cael digon o arian i dalu costau teithio sy'n gysylltiedig â gwaith. Roedd y nifer hwn yn uwch ar gyfer rheolwyr gofal, 37.6 y cant, a gweithwyr cymdeithasol, 33.6 y cant.
Ymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth
Gofynnwyd i bobl ddweud wrthym am eu hymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth. Ymysg gweithwyr gofal, dywedodd 79.82 y cant eu bod yn ymwybodol o'u hawliau. Roedd hyn yn uwch ar gyfer gweithwyr cymdeithasol (82.22 y cant) ac ar gyfer rheolwyr (94.83 y cant). Dim ond 5.67 y cant o weithwyr gofal a 5.56 y cant o weithwyr cymdeithasol ddywedodd nad oeddent yn ymwybodol o’u hawliau, ac roedd hyn yn gostwng i ddim ond 1.24 y cant i reolwyr.
Aelodaeth o undeb llafur
Dangosodd ein harolwg o’r gweithlu amrywiaeth sylweddol o ran aelodaeth undebau llafur ar draws ymatebwyr mewn gwahanol rannau o’r gweithlu. Yn gyffredinol, dywedodd 35.22 y cant o weithwyr gofal cymdeithasol wrthym eu bod yn aelodau o undeb llafur. Roedd gweithwyr cymdeithasol yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn perthyn i undeb llafur (49.12 y cant) na grwpiau eraill. Dim ond 40.78 y cant o reolwyr gofal cymdeithasol a 31.33 y cant o weithwyr gofal a ddywedodd eu bod yn aelodau o undeb (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
Beth sydd ar y gweill a beth sydd wedi’i gynllunio ar gyfer gwella telerau ac amodau
Mae gwaith eisoes wedi dechrau i wella telerau ac amodau’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwaith Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, ein strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ar uchelgais y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar gyfer gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol.
Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol
Mae arwyddion bod cyflogau pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn gwella. Cafodd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ei sefydlu yn 2020 i archwilio pethau fel cynyddu cyflogau a gwella amodau gwaith ar draws y sector. Fel rhan o’r fforwm mae’r llywodraeth, cyflogwyr ac undebau’n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i edrych ar sut i ddefnyddio’r diffiniad o waith teg gyda gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2023).
Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, roedd aelodau'r fforwm yn cydweithio i gynnig y cyflog byw gwirioneddol ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. O ganlyniad, roedd talu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yn un o’r prif addewidion yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru, 2022). Fel rhan o’r ymrwymiad parhaus hwn, cafodd awdurdodau lleol a byrddau iechyd ledled Cymru £43 miliwn i ddarparu cynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr cofrestredig mewn cartrefi gofal a gofal cartref ar gyfer 2022 i 2023 (Llywodraeth Cymru, 2023). Mae’r cyllid ychwanegol hwn ar gyfer y cyflog byw gwirioneddol bellach wedi’i gynnwys yng nghyllid cyffredinol awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwerthuso'r gwaith o gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol, gan gyhoeddi’r adroddiad ym mis Hydref 2025 (Llywodraeth Cymru, 2025b). Mae gwaith ar y gweill hefyd i reoleiddio cyfraddau cyflog ym maes gwaith cymdeithasol plant fel rhan o raglen ehangach sy’n ymwneud â gweithwyr cymdeithasol plant sy’n gweithio i asiantaethau (ADSS Cymru, 2024).
Drwy gydol 2025, mae’r fforwm wedi gweithio ar sawl prosiect. Un o'r rhain yw partneriaeth y gweithlu gofal cymdeithasol lle mae undebau llafur, cyflogwyr ym maes gofal cymdeithasol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i ddatblygu modelau arfer gorau ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae’r fforwm hefyd wedi gweithio ar gyflog a chynnydd, cydraddoldeb a chynhwysiant, hawliau gweithwyr, llais a chynrychiolaeth yn y sector gofal cymdeithasol, a maes sy'n dod i’r amlwg sef recriwtio rhyngwladol (Llywodraeth Cymru, 2024c; 2025c). Mae’r fforwm hefyd yn gweithio tuag at gyhoeddi fframwaith gwirfoddol ar gyfer cyflogau mewn rolau gofal uniongyrchol yn 2026.
Cynllun cyflawni gofal cymdeithasol 2024 i 2027
Cafodd Cymru Iachach: ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ei lansio yn 2020. Mae’n nodi ein hamcanion ar gyfer y gweithlu dros 10 mlynedd. Mae'r cynllun cyflawni gweithlu gofal cymdeithasol 2024 i 2027 yn adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi digwydd. Ac mae’n cynnwys camau’n seiliedig ar yr adborth daeth allan o’n gwaith ymgysylltu, ymgynghori ac arolwg y gweithlu. Mae’r cynllun yn nodi camau gweithredu yn erbyn saith thema strategaeth y gweithlu. Mae'n cefnogi’r uchelgais o greu gweithlu llawn cymhelliant, ymrwymedig, sy’n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi. A gyda’r capasiti, gallu a'r hyder i gwrdd ag anghenion pobl yng Nghymru.
Mae’n cynnwys amcanion sy’n cefnogi llesiant y gweithlu, denu a recriwtio, modelau gwaith di-dor, hyder a sgiliau digidol, addysg a dysgu, arweinyddiaeth a chynllunio am anghenion gofal cymdeithasol y dyfodol. Mae gweithio di-dor yma'n golygu bod gwahanol rannau o’r gweithlu gofal cymdeithasol ac iechyd yn cydweithio’n agos i gefnogi gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae ganddo hefyd dair egwyddor sylfaenol sy’n perthyn i bob cam gweithredu, sef y Gymraeg, cynhwysiant a llesiant.
Mae ein hadroddiad blynyddol 2024 i 2025 yn nodi'r cynnydd yn unol â'r cynllun gweithredu. Yn 2026, byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid allweddol i greu trydydd fersiwn o gynllun cyflawni strategaeth y gweithlu i’w gyhoeddi’n gynnar yn 2027.
Mae'r gwaith hyn yn bellach yn cael ei oruchwylio gan grŵp, aml asiantaeth, traws sector. Rydyn ni’n cadeirio’r grŵp hwn ynghyd â Llywodraeth Cymru.
Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth
Yn 2024, lansiodd Llywodraeth Cymru’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth. Mae mandad 2024 i 2025 yn nodi mai'r pwrpas yw:
Rhoi arweiniad canolog i'r sector drwy fod yn sbardun i welliannau yn y broses o ddarparu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn genedlaethol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad defnyddwyr gwasanaethau (Llywodraeth Cymru, 2025a).
Fel rhan o hyn, mae gan y Swyddfa Genedlaethol gyfrifoldeb dros ‘[d]datblygu, gwasanaeth gofal cenedlaethol Cymru, ei roi ar waith, a’i ddarparu’ (Llywodraeth Cymru, 2024a). Bydd hwn yn wasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol ar gyfer plant, teuluoedd, ac oedolion, a fydd yn rhad ac am ddim pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen.
Mae’r Swyddfa Genedlaethol yn cefnogi partneriaeth gymdeithasol o fewn y sector gofal cymdeithasol drwy’r Fforwm Gwaith Teg a Phartneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol. Mae’r cefnogaeth hyn yn anelu at ddarparu gwaith teg yn y sector, gan gynnwys cyflog teg.
Mae’r Swyddfa Genedlaethol yn gweithio tuag at gynnig adnoddau canolog ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys creu amgylchedd dysgu a chefnogi cynaliadwy, cefnogi’r gwaith o weithredu safonau cenedlaethol, a chasglu data a’i ddefnyddio i greu newid cadarnhaol. Mae’r Swyddfa Genedlaethol yn cefnogi’r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i ddarparu arweinyddiaeth ac i ddatblygu a gweithredu arferion da a strategaeth yn y sector. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo arferion cynhwysol fel strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu Llywodraeth Cymru: 2021 i 2026, Cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol: 2022 a Chynllun gweithredu LHDTC+ Cymru (Llywodraeth Cymru, 2024b).
Ymlaen
Yn Ymlaen, ein strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol rhwng 2024 a 2029, rydyn ni’n ymrwymo i gasglu a gwneud synnwyr o ddata ac ymchwil o ansawdd da. Bydd hyn yn ein helpu i wella amodau ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwella canlyniadau i bobl sy’n cael gofal a chymorth.
Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n parhau i wneud y canlynol:
- defnyddio ymchwil a data i nodi cyfleoedd a heriau yn y dyfodol ac archwilio atebion posibl
- tynnu sylw at y materion anodd sy’n effeithio ar bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac yn cael mynediad ato
- adeiladu'r rhesymau cryf i argyhoeddi eraill o'r angen am newid
- cysylltu pobl â thystiolaeth ac ymchwil sy’n digwydd yng Nghymru, am Gymru, ac sy’n berthnasol i Gymru
- cyflwyno a hyrwyddo’r dystiolaeth sydd ei hangen i wneud pethau’n wahanol.
Mae cynnal ein gwaith ymchwil a chasglu data ein hunain a chynhyrchu briffiau fel hyn yn ein helpu i gyflawni’r ymrwymiadau hyn.
Ymchwil sy'n gysylltiedig â'r gweithlu sy’n cael ei ddefnyddio yn y gyfres hon
Mae’r gyfres cipolwg ar y gweithlu yn myfyrio ar ymchwil diweddar y mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi’i gynnal a’i gomisiynu sy’n ymwneud â’r gweithlu. Mae’r papur briffio hwn ar wella telerau ac amodau yn dwyn ynghyd wybodaeth o brosiectau ac adroddiadau diweddar, gan gynnwys:
- Gofal Cymdeithasol Cymru: Dweud eich dweud – canfyddiadau adroddiad 2025. Mae hwn yn adrodd ar ganlyniadau arolwg a oedd ar agor i bawb oedd yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n cynnwys data ar 5,707 o weithwyr. Mae hefyd yn cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws. Yn y testun mae’r astudiaeth hon yn ymddangos fel (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025a).
- Adroddiad casgliad data’r gweithlu, 2024. Mae hwn yn adrodd ar ddata a gasglwyd gan ddarparwyr am eu gweithlu. Mae’n cynnwys data am oddeutu 53,000 o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Yn y testun mae’r astudiaeth hon yn ymddangos fel (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025b).
Cyfeiriadau -
ADSS Cymru (2024) New All-Wales Pledge Comes into Effect, ar gael yn https://www.adss.cymru/cy/blog/post/all-wales-pledge-version-2 (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).
Comisiwn Gwaith Teg (2019) Gwaith teg Cymru - Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-05/gwaith-teg-cymru.pdf (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).
Gofal Cymdeithasol Cymru (2024) Dweud eich dweud – canfyddiadau adroddiad 2024, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/reports/arolwg-dweud-eich-dweud-y-gweithlu-2024-adroddiad-llawn-a-chrynodeb-o-ymatebion (cyrchwyd: 29 Ionawr 2025).
Gofal Cymdeithasol Cymru (2025a) Dweud eich dweud – canfyddiadau adroddiad 2025: ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/reports/arolwg-dweud-eich-dweud-y-gweithlu-2025-adroddiad-llawn-a-chrynodeb-o-ymatebion (cyrchwyd: 26 Tachwedd, 2025).
Gofal Cymdeithasol Cymru (2025b) Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol 2024, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/ymchwil-a-data/adroddiadaur-gweithlu(cyrchwyd: 26 Tachwedd 2025).
James, R. (2022) Gofal Cymdeithasol: gweithlu mewn argyfwng?, Senedd Cymru, ar gael yn https://ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymchwil/gofal-cymdeithasol-gweithlu-mewn-argyfwng/ (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).
Krause, G., Deerfield, K. a Reynolds, R. (2025a) Cyfres cipolwg ar y gweithlu: gwella telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2024, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/cyfres-cipolwg-ar-y-gweithlu/telerau-ac-amodau-2024 (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).
Krause, G., Deerfield, K. a Reynolds, R. (2025b) Cyfres cipolwg ar y gweithlu: cefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2024, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/cyfres-cipolwg-ar-y-gweithlu/llesiant-2024 (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).
Llywodraeth Cymru (2022) Gweinyddu’r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/gweinyddur-cyflog-byw-gwirioneddol-ar-gyfer-gweithwyr-gofal-cymdeithasol (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).
Llywodraeth Cymru (2023) Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol: adroddiad cynnydd blynyddol 2023, ar gael yn https://www.llyw.cymru/fforwm-gwaith-teg-gofal-cymdeithasol-adroddiad-cynnydd-blynyddol-2023-html (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).
Llywodraeth Cymru (2024a) Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth, ar gael yn https://www.llyw.cymru/swyddfa-genedlaethol-gofal-chymorth (cyrchwyd: 9 Rhagfyr 2025).
Llywodraeth Cymru (2024b) Lansio’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn swyddogol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/lansior-swyddfa-genedlaethol-gofal-chymorth-yn-swyddogol (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).
Llywodraeth Cymru (2024c) Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol: adroddiad cynnydd blynyddol 2024, ar gael yn https://www.llyw.cymru/fforwm-gwaith-teg-gofal-cymdeithasol-adroddiad-cynnydd-blynyddol-2024-html (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).
Llywodraeth Cymru (2025a) Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth: adroddiad blynyddol 2024 i 2025, ar gael yn https://www.llyw.cymru/swyddfa-genedlaethol-gofal-chymorth-adroddiad-blynyddol-2024-i-2025 (cyrchwyd: 12 Rhagfyr 2025).
Llywodraeth Cymru (2025b) Cyflog Byw Real i weithwyr gofal cymdeithasol: gwerthuso prosesau (crynodeb), ar gael yn https://www.llyw.cymru/cyflog-byw-real-i-weithwyr-gofal-cymdeithasol-gwerthuso-prosesau-crynodeb-html(cyrchwyd: 31 Hydref 2025).
Llywodraeth Cymru (2025c) Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol: adroddiad cynnydd blynyddol 2025, ar gael yn https://www.llyw.cymru/fforwm-gwaith-teg-gofal-cymdeithasol-adroddiad-cynnydd-blynyddol-2025-html (cyrchwyd: 31 Hydref 2025).
Llywodraeth y DU (2025) Statutory Sick Pay (SSP), ar gael yn https://www.gov.uk/statutory-sick-pay (cyrchwyd: 5 Medi 2025).
Ravalier, J., Morton, R., Russell, L. a Rei Fidalgo, A. (2019) ‘Zero-hour contracts and stress in UK domiciliary care workers’, Health and Social Care in the Community, 27 (2), tt. 348-355, doi: 10.1111/hsc.12652.
Stone, J. a Padley, M. (2025) A Minimum Income Standard for the United Kingdom in 2025, Joseph Roundtree Foundation, ar gael yn https://www.jrf.org.uk/a-minimum-income-standard-for-the-united-kingdom-in-2025 (cyrchwyd: 30 Hydref 2025).
Unsain (2025): Expendable labour: the exploitation of migrant care workers, ar gael yn https://www.unison.org.uk/content/uploads/2023/11/Expendable-labour-report.pdf (cyrchwyd: 30 Hydref 2025).
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2025) Earnings and hours worked, occupation by four-digit SOC: ASHE Table 14. 2025 provisional edition of this dataset, ar gael yn https://www.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/datasets/occupation4digitsoc2010ashetable14 (cyrchwyd: 30 Hydref 2025).