Skip to Main content

Cymuned Modelau Newydd o Ofal Preswyl i Blant

Mae'r Gymuned Modelau Newydd o Ofal Preswyl i Blant yn cysylltu ymarferwyr â'r bobl, y wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i wneud yn siwr bod plant sy'n derbyn gofal yn cael eu cefnogi i ffynnu, beth bynnag eu dechrau mewn bywyd.

Mae'r grŵp yn agored i Unigolion Cyfrifol awdurdodau lleol a rheolwyr gwasanaethau sy'n arwain datblygiad gwasanaethau preswyl ar ran awdurdod lleol.

Mae wedi’i gynllunio i helpu pobl sy’n arwain yr ymateb gweithredol lleol i raglen trawsnewid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru.

Nod y gymuned weithredu yw cefnogi aelodau sy'n datblygu gwasanaethau preswyl i blant yn gyflym. Rydyn ni'n cefnogi aelodau gyda chynllunio ar gyfer y dyfodol a dulliau arloesol.

Gall aelodau rannu syniadau ac adnoddau a chefnogi ei gilydd gyda heriau.

Anfonwch e-bost at elle.henley@gofalcymdeithasol.cymru am fwy o wybodaeth.