Skip to Main content

Crynodeb cymunedau: Darganfyddwch beth sydd wedi bod yn digwydd yn ein cymunedau

11 Awst 2025

Rydyn ni'n credu y bydd creu mannau i gysylltu a datblygu perthnasoedd yn arwain at newid parhaol a chadarnhaol.

Mae ein cymunedau yn dod ag ymarferwyr gofal cymdeithasol, arloeswyr a phobl sydd â phrofiad byw ynghyd i greu'r egni a'r momentwm ar gyfer newid.

Maen nhw’n fannau i bobl rannu eu gwybodaeth a’u syniadau ac i ddysgu gan eraill, gan greu perthnasoedd ar draws gwahanol sectorau ledled Cymru.

Mae'r cymunedau'n cyfarfod ar-lein a mewn person, tra gall aelodau hefyd gysylltu trwy blatfform ar-lein.

Yma, mae’r Grŵp Gwybodaeth yn cyflwyno rhai o uchafbwyntiau’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ein cymunedau yn ddiweddar.

Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le

Yn ystod y misoedd diwethaf, cynhaliodd y gymuned sesiwn 'Gadewch i ni edrych ar y dystiolaeth gyda'n gilydd' arall. Roedd y ffocws y tro hwn ar ein crynodeb tystiolaeth ynghylch meithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd sydd ar y cyrion. Roedd y sesiwn yn ymdrin â phwyntiau allweddol y crynodeb, ochr yn ochr â thrafodaethau agored am brofiadau personol a phroffesiynol pobl a dilemâu ynghylch y pwnc.

Parhaodd y gymuned hefyd â'i sesiynau 'Mewn cysylltiad', gan gwmpasu pynciau amgylcheddau ffisegol sy'n seiliedig ar TrACE, a phartneriaethau sy'n seiliedig ar le. Mae TrACE yn sefyll am drawma a phrofiadau plentyndod niweidiol (trauma and adverse childhood experiences). Mae'r gyfres yn gyfle i aelodau gadw i fyny ag ymchwil, canllawiau, blogiau a mathau eraill o gynnwys sy'n gysylltiedig â gofal sy'n seiliedig ar le.

Fe wnaeth y gymuned hefyd gynnal ei digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf ar y cyd â'r Gymuned Dystiolaeth. Cyflwynodd Dr Tegan Brierley-Sollis ymchwil, tystiolaeth a phrofiadau ynghylch trawma, trawma dirprwyol ac ymarfer sy'n seiliedig ar drawma. Myfyriodd y grŵp ar sut y gall trawma effeithio ar bobl ac archwiliodd ffyrdd o gynnig cefnogaeth.

Roedd y digwyddiad hwn wedi’i fynychu’n eithriadol o dda ac roedd yr adborth yn dangos pa mor werthfawr oedd dod ynghyd i drafod y materion hyn yn ôl barn y cyfranogwyr.

Ymunwch â'n Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le.

Cymuned Dystiolaeth

Rhwng Ebrill a Gorffennaf, daeth y Gymuned Dystiolaeth at ei gilydd ar gyfer dau sesiwn ‘Myfyrio ar dystiolaeth’. Edrychon nhw ar wahanol ymchwil ar y themâu o gyfathrebu â theuluoedd mewn sefyllfaoedd anodd a sut mae empathi’n cael ei fynegi mewn cyfathrebu gofal cymdeithasol.

Cynhaliodd y gymuned ddau weithdy ‘Sgyrsiau ymchwil’ lle daeth ymchwilwyr i rannu eu canfyddiadau ac i siarad â gweithwyr proffesiynol am beth allai’r rhain ei olygu ar gyfer arferion yn y dyfodol. Tai gofal ychwanegol a model newydd ar gyfer cwblhau gwaith stori bywyd oedd y pynciau ar yr agenda.

Cyd-gynhaliodd y Gymuned Dystiolaeth hefyd digwyddiad wyneb yn wyneb gyda’r Gymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le am ymarfer sy’n seiliedig ar drawma a thrawma eilyddol.

Ymunwch â'n Cymuned Dystiolaeth.

Gwasanaeth cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer

Mae rheolwyr ein cymunedau yn parhau i gynnig ein gwasanaeth cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer.

Mae'r gwasanaeth yn cefnogi pobl a allai elwa o ddefnyddio dull cymunedol. Mae'r gwasanaeth yn agored i bobl sydd â diddordeb mewn archwilio dull cymunedol a'r rhai sydd eisoes wedi dechrau dod â phobl at ei gilydd.

Trwy gynnig y gefnogaeth hon, rydyn ni'n anelu at helpu i sicrhau bod cymunedau'n cael eu cynllunio a'u rhedeg mewn ffordd sy'n rhoi'r cyfle gorau iddyn nhw i gyflawni eu nodau.

Rydyn ni wedi ychwanegu tudalen yn ddiweddar i'r Grŵp Gwybodaeth i’ch helpu i benderfynu a yw cymuned yn iawn i chi. Rydyn ni hefyd wedi ychwanegu tudalen cwestiynau cyffredin i’r wefan.

I ddarganfod mwy am y gwasanaeth, os ydych chi'n gymwys a sut i wneud cais, ewch i'n tudalen gwasanaeth cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer.

Beth sydd i ddod?

Rheolwyr ein cymunedau

Rhiannon Wright

Rhiannon Wright

Cymuned Dystiolaeth

Rwy’n angerddol am wneud ymchwil a thystiolaeth gofal cymdeithasol yn hygyrch ac yn haws i’w defnyddio yn ymarferol. Rwy’n weithiwr cymdeithasol cymwysedig ac mae gennyf gefndir mewn gwasanaethau plant awdurdodau lleol. Treuliais hefyd flynyddoedd lawer yn y trydydd sector yn gweithio’n therapiwtig gyda phlant, gan ganolbwyntio ar bynciau camfanteisio rhywiol, ymddygiad rhywiol niweidiol a thrawma datblygiadol. Ychydig cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, roeddwn yn gweithio i fwrdd diogelu rhanbarthol, yn cydlynu adolygiadau ymarfer oedolion a phlant ac yn datblygu eu strategaeth sicrhau ansawdd.
Lilla Vér

Lilla Vér

Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le

Rwy'n gofalu am ein Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le. Fy rôl i yw creu a meithrin gofod i bobl ddysgu gyda'i gilydd, cysylltu a chefnogi ei gilydd. Mae fy mhrofiadau blaenorol yn cynnwys datblygu llwybrau cymorth yn y systemau cyfiawnder troseddol a chamddefnyddio sylweddau, a rheoli prosiectau.