Skip to Main content

Llyfrgell adnoddau digidol

Mae ein llyfrgell adnoddau digidol yn dod ag offer, canllawiau ac adnoddau dysgu defnyddiol ynghyd i gefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru. 

Os ydych chi'n awyddus i ddatblygu eich hyder digidol eich hun, cefnogi cydweithwyr neu arwain newid yn eich sefydliad, fe welwch adnoddau ymarferol i'ch helpu. 

Gall yr adnoddau yn y llyfrgell hon eich helpu i:

  • ddatblygu eich sgiliau digidol
  • cefnogi cydweithwyr i ddefnyddio technoleg ddigidol yn hyderus
  • arwain newid digidol
  • archwilio deallusrwydd artiffisial (AI)
  • gwella'r ffordd rydych chi'n defnyddio data
  • darganfod sut y gall technoleg gefnogi pobl sy'n cael gofal a chymorth.

Rydyn ni wedi dewis adnoddau sydd wedi'u darparu gan sefydliadau ledled Cymru, y DU a'r sectorau gofal cymdeithasol, digidol, gwasanaethau cyhoeddus a thechnoleg ehangach. 

Rydyn ni wedi adolygu pob adnodd o ran ansawdd, perthnasedd a gwerth ymarferol. Gan fod y rhan fwyaf o'r adnoddau hyn yn cael eu cynnal gan ddarparwyr allanol, mae'n bosibl na fydd pob un ohonyn nhw ar gael yn Gymraeg.

Er mwyn ei gwneud hi'n haws dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch, rydyn ni wedi trefnu'r llyfrgell yn bum chategori sy'n seiliedig ar themâu ein ddyfais botensial ddigidol. 

Gallwch archwilio'r meysydd sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau, eich anghenion dysgu a blaenoriaethau eich sefydliad.

Defnyddio technoleg i weithio a chyfathrebu'n effeithiol

Dysgwch sut i ddefnyddio offer digidol i gyfathrebu, cydweithio a gweithio'n fwy effeithlon yn eich rôl.

Cefnogi pobl drwy dechnoleg

Darganfyddwch sut y gall technoleg gefnogi annibyniaeth, llesiant a gofal personol.

Offer, systemau a seilwaith digidol

Archwiliwch y systemau, yr offer a'r dechnoleg sy'n galluogi gweithio digidol diogel.

Creu diwylliant digidol cadarnhaol

Dysgwch sut mae arweinyddiaeth, diwylliant a thechnoleg yn cefnogi trawsnewid digidol.

Defnyddio offer AI

Dysgwch sut i ddefnyddio offer AI yn hyderus, yn effeithiol ac yn gyfrifol.

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gael mynediad at unrhyw un o'r adnoddau, cysylltwch â digidol@gofalcymdeithasol.cymru.