Skip to Main content

Creu diwylliant digidol cadarnhaol

Dysgwch sut i greu amgylchedd lle mae arweinyddiaeth, diwylliant, pobl, prosesau a thechnoleg yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi trawsnewid digidol a chyflawni nodau strategol. 

Mae pob un o'r adnoddau yn yr adran hon o'n llyfrgell adnoddau digidol wedi cael ei adolygu o ran ansawdd, perthnasedd a gwerth ymarferol. 

Rydyn ni wedi dewis offer, canllawiau ac adnoddau dysgu a ddarparwyd gan sefydliadau ledled Cymru, y DU a'r sectorau gofal cymdeithasol, digidol, gwasanaethau cyhoeddus a thechnoleg ehangach. 

Dyma'r adnoddau rydyn ni'n eu hamlygu i ddefnyddwyr ein dyfais botensial ddigidol. Rydyn ni wedi'u grwpio'n ddau is-gategori:

  • Diwylliant digidol eich sefydliad
  • Strategaeth ac arweinyddiaeth ddigidol

Ar gyfer pob adnodd, rydyn ni wedi cynnwys enw'r darparwr a disgrifiad byr. 

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gael mynediad at unrhyw un o'r adnoddau isod, cysylltwch â digidol@gofalcymdeithasol.cymru.

Diwylliant digidol eich sefydliad

The Digital Workplace

Adnoddau ar gyfer creu gweithle digidol

Erthyglau a phodlediadau sy'n edrych ar ddiwylliant y gweithle digidol, gyda chanllawiau ar gynhwysiant, llesiant, gweithio hybrid a gwaith tîm rhithwir.

Digital Workplace Group

Adnoddau gweithio hybrid

Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gall sefydliadau greu a chynnal diwylliannau gweithle cadarnhaol mewn amgylcheddau hybrid ac o bell, drwy erthyglau, podlediadau ac astudiaethau achos.

Microsoft

Adnoddau a chanllawiau ar gyfer gweithio hybrid

Ymchwil a chanllawiau ymarferol ar greu diwylliannau gweithle iach a chynhwysol mewn amgylcheddau hybrid ac o bell.

CIPD

Ymchwil a chanllawiau ar gyfer gweithio hybrid a hyblyg

Canllawiau, offer ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth i helpu sefydliadau i ddatblygu diwylliannau gweithio hybrid cynhwysol, iach ac effeithiol.

Microsoft

Canllaw i greu gweithleoedd hybrid effeithiol

Adnodd ymarferol sy'n ymdrin ag arweinyddiaeth, cydweithio, llesiant ac ymgysylltu â gweithwyr mewn gweithleoedd hybrid a digidol.

TEC Action Alliance

Adnodd ar dechnoleg mewn gofal

Adnodd ar ddefnyddio technoleg mewn gofal i gefnogi annibyniaeth, llesiant a gofal rhagweithiol drwy atebion digidol.

RNIB

Canllaw i gyflwyno hyfforddiant technoleg

Canllaw hyfforddi ar gyflwyno technoleg hygyrch i bobl sy'n byw gyda cholli golwg, gan gynnwys awgrymiadau ymarferol ac adnoddau dysgu.

GOV.UK

Canllaw i weithio'n ddigidol ym maes gofal cymdeithasol i oedolion

Fframwaith "sut mae da yn edrych" ar gyfer trawsnewid digidol mewn gwasanaethau gofal, sy'n ymdrin ag arweinyddiaeth, seilwaith, sgiliau'r gweithlu a data.

Arwain

Fideos arweinyddiaeth

Casgliad o adnoddau dysgu ar arweinyddiaeth, cydweithio, deallusrwydd artiffisial (AI), arloesi ym maes iechyd a thechnoleg mewn gofal.

National Council for Voluntary Organisations

Adnoddau ar arweinyddiaeth ddigidol, sgiliau a strategaeth

Adnoddau a chanllawiau i helpu elusennau i ddatblygu arweinyddiaeth ddigidol, sgiliau digidol, strategaeth a newid sefydliadol.

Cwmpas

Pecyn cymorth digidol i sefydliadau

Pecyn cymorth digidol ymarferol sy'n ymdrin â chynhwysiant, darparu gwasanaethau, seiberddiogelwch, data, arweinyddiaeth a sgiliau digidol.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Porwr prosiectau

Archwiliwch brosiectau gofal cymdeithasol arloesol ledled Cymru a dysgwch o arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a mentrau gwella gwasanaethau.

ProMo Cymru

Cymorth digidol i'r trydydd sector

Cymorth digidol am ddim i sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru, gan gynnwys cyngor ar offer digidol, systemau ac ymgysylltu ar-lein.

Swyddfa Eiddo Deallusol

Canllawiau ar eiddo deallusol

Canllawiau ar eiddo deallusol, gan gynnwys patentau, nodau masnach, hawlfraint a diogelu eich syniadau a'ch arloesiadau.

Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru

Hyfforddiant, digwyddiadau a chymunedau ymarfer digidol

Cymuned i weithwyr proffesiynol digidol sy'n cynnig hyfforddiant, digwyddiadau, canllawiau a diweddariadau ar wasanaethau cyhoeddus digidol.

The Strategy Unit

Adroddiad ar fanteision cofnodion gofal cymdeithasol digidol

Dysgwch am fanteision cofnodion gofal cymdeithasol digidol yn Lloegr, gan gynnwys gwell effeithlonrwydd, cyfathrebu a safon gofal.

Archwiliwch ein hadnoddau eraill

Mae'r adnoddau uchod yn rhan o lyfrgell ehangach o adnoddau i gefnogi'r defnydd o dechnoleg ddigidol ym maes gofal cymdeithasol.

Defnyddio technoleg i weithio a chyfathrebu'n effeithiol

Dysgwch sut i ddefnyddio offer digidol i gyfathrebu, cydweithio a gweithio'n fwy effeithlon yn eich rôl.

Cefnogi pobl drwy dechnoleg

Darganfyddwch sut y gall technoleg gefnogi annibyniaeth, llesiant a gofal personol.

Offer, systemau a seilwaith digidol

Archwiliwch y systemau, yr offer a'r dechnoleg sy'n galluogi gweithio digidol diogel.

Defnyddio offer AI

Dysgwch sut i ddefnyddio offer AI yn hyderus, yn effeithiol ac yn gyfrifol.