Skip to Main content

Defnyddio offer AI

Adeiladwch eich dealltwriaeth o ddeallusrwydd artiffisial (AI), darganfyddwch ffyrdd ymarferol y gall gefnogi eich gwaith, a dysgwch sut i ddefnyddio offer AI yn hyderus ac yn gyfrifol.

Mae pob un o'r adnoddau yn yr adran hon o'n llyfrgell adnoddau digidol wedi cael ei adolygu o ran ansawdd, perthnasedd a gwerth ymarferol. 

Rydyn ni wedi dewis offer, canllawiau ac adnoddau dysgu a ddarparwyd gan sefydliadau ledled Cymru, y DU a'r sectorau gofal cymdeithasol, digidol, gwasanaethau cyhoeddus a thechnoleg ehangach. 

Dyma'r adnoddau rydyn ni'n eu hamlygu i ddefnyddwyr ein dyfais botensial ddigidol. 

Ar gyfer pob adnodd, rydyn ni wedi cynnwys enw'r darparwr a disgrifiad byr. 

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gael mynediad at unrhyw un o'r adnoddau isod, cysylltwch â digidol@gofalcymdeithasol.cymru.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Canllaw AI ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru

Canllaw i'ch helpu i archwilio ffyrdd o ddefnyddio AI i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Microsoft

10 term AI y dylai pawb eu gwybod

Canllaw syml i brif gysyniadau AI, gan gynnwys dysgu peirianyddol, AI cynhyrchiol, modelau iaith mawr a defnydd cyfrifol o AI.

Digital Care Hub

Beth yw AI cynhyrchiol? Canllaw

Dysgwch sut mae AI cynhyrchiol yn cael ei ddefnyddio ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys ei fanteision posibl, y risgiau sy'n gysylltiedig ag ef a'r ystyriaethau moesegol perthnasol.

Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru

Cyfres gweminarau AI

Cyfres o weminarau sy'n helpu i ddatblygu dealltwriaeth o AI, gan archwilio defnydd ymarferol o offer AI a hyrwyddo defnydd hyderus a chyfrifol ohonynt.

Digital Care Hub

Cyfres gweminarau ar roboteg ac AI

Archwiliwch sut mae roboteg ac AI yn cael eu defnyddio ym maes gofal cymdeithasol, gan gynnwys cymwysiadau ymarferol, manteision ac ystyriaethau moesegol.

Alan Turing Institute

Digwyddiadau'r Alan Turing Institute

Mynediad at ddigwyddiadau AI a gwyddor data, adnoddau dysgu, cyfleoedd rhwydweithio a sgyrsiau dan arweiniad arbenigwyr gan yr Alan Turing Institute.

UNESCO

Canllaw moeseg AI

Archwiliwch yr heriau moesegol sy'n gysylltiedig ag AI, gan gynnwys rhagfarn, hawliau dynol a llywodraethu, drwy fframwaith AI byd-eang UNESCO.

Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru

Adroddiad ar awtomeiddio ac AI

Ymchwil sy'n edrych ar ba mor barod yw sector cyhoeddus Cymru i fabwysiadu awtomeiddio ac AI, a'r cymorth sydd ei angen ar sefydliadau.

Senedd Cymru

Briff ymchwil ar AI cynhyrchiol

Trosolwg o AI cynhyrchiol, ei gyfleoedd a'i risgiau yn y sector cyhoeddus, a'r dulliau sy'n dod i'r amlwg o ran rheoleiddio.

LOTI

Cyfleoedd ar gyfer AI mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion

Canllaw ymarferol i nodi, gwerthuso a rhoi ar waith cyfleoedd i ddefnyddio AI mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion.

University of Oxford

Datganiad Rhydychen ar ddefnyddio AI cynhyrchiol ym maes gofal cymdeithasol

Canllawiau ar ddefnyddio AI cynhyrchiol yn gyfrifol ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, gan ganolbwyntio ar hawliau dynol, ymddiriedaeth a llesiant.

Archwiliwch ein hadnoddau eraill

Mae'r adnoddau uchod yn rhan o lyfrgell ehangach o adnoddau i gefnogi'r defnydd o dechnoleg ddigidol ym maes gofal cymdeithasol.

Defnyddio technoleg i weithio a chyfathrebu'n effeithiol

Dysgwch sut i ddefnyddio offer digidol i gyfathrebu, cydweithio a gweithio'n fwy effeithlon yn eich rôl.

Cefnogi pobl drwy dechnoleg

Darganfyddwch sut y gall technoleg gefnogi annibyniaeth, llesiant a gofal personol.

Offer, systemau a seilwaith digidol

Archwiliwch y systemau, yr offer a'r dechnoleg sy'n galluogi gweithio digidol diogel.

Creu diwylliant digidol cadarnhaol

Dysgwch sut mae arweinyddiaeth, diwylliant a thechnoleg yn cefnogi trawsnewid digidol.