Llywodraeth Cymru
Cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru
Canllawiau ar gynllun grant Allwedd Band Eang Cymru, gan gynnwys y meini prawf cymhwystra, y cyllid sydd ar gael a sut i wneud cais am gymorth i osod datrysiad band eang yng Nghymru.
Archwiliwch y systemau, yr offer a'r dechnoleg sy'n galluogi gweithio digidol diogel.
Mae pob un o'r adnoddau yn yr adran hon o'n llyfrgell adnoddau digidol wedi cael ei adolygu o ran ansawdd, perthnasedd a gwerth ymarferol.
Rydyn ni wedi dewis offer, canllawiau ac adnoddau dysgu a ddarparwyd gan sefydliadau ledled Cymru, y DU a'r sectorau gofal cymdeithasol, digidol, gwasanaethau cyhoeddus a thechnoleg ehangach.
Dyma'r adnoddau rydyn ni'n eu hamlygu i ddefnyddwyr ein dyfais botensial ddigidol. Rydyn ni wedi'u grwpio'n bedwar is-gategori:
Ar gyfer pob adnodd, rydyn ni wedi cynnwys enw'r darparwr a disgrifiad byr.
Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gael mynediad at unrhyw un o'r adnoddau isod, cysylltwch â digidol@gofalcymdeithasol.cymru.
Llywodraeth Cymru
Canllawiau ar gynllun grant Allwedd Band Eang Cymru, gan gynnwys y meini prawf cymhwystra, y cyllid sydd ar gael a sut i wneud cais am gymorth i osod datrysiad band eang yng Nghymru.
Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru
Canllawiau ar ddylunio gwasanaethau cyhoeddus digidol hygyrch sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yng Nghymru, gan gynnwys egwyddorion dylunio dwyieithog a chynhwysol.
Microsoft
Fideos a chanllawiau ar greu gweithleoedd hygyrch gan ddefnyddio technolegau Microsoft, dylunio cynhwysol a nodweddion hygyrchedd.
Cwmpas
Pecyn cymorth digidol ymarferol sy'n ymdrin â chynhwysiant, darparu gwasanaethau, seiberddiogelwch, data, arweinyddiaeth a sgiliau digidol.
AbilityNet
Gwybodaeth am weminarau, gwasanaethau hygyrchedd, cymorth technoleg ac adnoddau cynhwysiant yn y gweithle AbilityNet.
GOV.UK
Canllawiau ar gyfer prosiectau technoleg y llywodraeth, sy'n ymdrin â strategaeth ddigidol, caffael, systemau etifeddol a rheoli cylch oes technoleg.
Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
Adnoddau a chanllawiau ar ddiogelwch AI, gan gynnwys rheoli risgiau, diogelu systemau AI a deall sut i ddatblygu AI yn ddiogel.
GOV.UK
Dysgwch sut mae llywodraeth y DU yn defnyddio AI i wella gwasanaethau cyhoeddus drwy arloesi, prototeipio a datblygu atebion y gellir eu rhannu.
Y Brifysgol Agored
Cwrs rhad ac am ddim sy'n edrych ar ddigwyddiadau seiberddiogelwch mawr, gan gynnwys WannaCry a TalkTalk, a'r gwersi a ddysgwyd ohonynt.
Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru
Cwrs cyflwyniadol am ddim sy'n edrych ar ffyrdd digidol ac ystwyth o weithio a dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
National Council for Voluntary Organisations
Adnoddau a chanllawiau ar ddiogelwch AI, gan gynnwys rheoli risgiau, diogelu systemau AI a deall sut i ddatblygu AI yn ddiogel.
Digital Unite
Canllawiau ar ddiogelwch ar y rhyngrwyd, preifatrwydd, diogelu data a diogelwch ar-lein i'ch helpu i ddiogelu eich hun, eich dyfeisiau a'ch gwybodaeth bersonol.
Y Brifysgol Agored
Cwrs ar-lein ac am ddim sy'n cyflwyno seiberddiogelwch, gan gynnwys bygythiadau ar-lein, meddalwedd faleisus, dwyn hunaniaeth a chamau ymarferol i gadw'n ddiogel ar-lein.
National Care Forum
Dysgwch sut i gadw'n ddiogel ar-lein, adnabod sgamiau, diogelu gwybodaeth bersonol, defnyddio cyfrineiriau cryf a rheoli gosodiadau preifatrwydd ar gyfryngau cymdeithasol.
Y Brifysgol Agored
Dysgwch hanfodion diogelwch rhwydwaith, gan gynnwys bygythiadau, gwendidau, amgryptio, dilysu a diogelu data.
Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
Hyfforddiant ac adnoddau i helpu gweithwyr proffesiynol i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag cam-drin ac ecsbloetio rhywiol ar-lein.
Internet Matters
Cyngor ac adnoddau i rieni a gofalwyr ar gadw plant yn ddiogel ar-lein, gan gynnwys seiberfwlio, amser sgrin a defnyddio apiau'n ddiogel.
Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
Hyfforddiant seiberddiogelwch am ddim gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, sy'n ymdrin â gwe-rwydo, cyfrineiriau, diogelwch dyfeisiau a rhoi gwybod am ddigwyddiadau seiberddiogelwch.
Digital Care Hub
Canllawiau, offer a chymorth i helpu darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i wella arferion digidol, diogelu data a seiberddiogelwch.
Data Cymru
Amrywiaeth o adnoddau i gefnogi gweithio gyda data.
GOV.UK
Canllawiau ar ddefnyddio gwybodaeth gyfrinachol mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddiogelu preifatrwydd, cadw gwybodaeth yn ddiogel a chydymffurfio â'r gyfraith.
Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru
Dysgwch sut y gellir defnyddio data i wella’r ffordd mae penderfyniadau yn cael eu gwneud, dylunio gwasanaethau a gwella canlyniadau ar draws sector cyhoeddus Cymru.
Digital Care Hub
Canllawiau, templedi a hyfforddiant i helpu sefydliadau i fodloni gofynion y Pecyn Cymorth Diogelu a Diogelwch Data a rheoli gwybodaeth yn ddiogel.
Cwmpas
Dysgwch sut i ddeall, defnyddio a chyflwyno data’n effeithiol i gefnogi cynllunio, gwneud penderfyniadau a gwella gwasanaethau.
Data Cymru
Cyrsiau dan arweiniad arbenigwyr sy’n ymdrin â chyflwyno data, ystadegau, arolygon, grwpiau ffocws a defnyddio data i gefnogi gwneud penderfyniadau.
Digital Care Hub
Modiwl e-ddysgu am ddim ar ddiogelu data a seiberddiogelwch ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, gan ymdrin â diogelwch data, achosion o dorri diogelwch a diogelu gwybodaeth.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Canllawiau ac adnoddau gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar ddiogelu data, GDPR, rhyddid gwybodaeth a hawliau gwybodaeth.
Data Cymru
Hyfforddiant a gweithdai am ddim i helpu sefydliadau i feithrin hyder, datblygu sgiliau a chreu diwylliant cryfach o ddefnyddio data.
Mae'r adnoddau uchod yn rhan o lyfrgell ehangach o adnoddau i gefnogi'r defnydd o dechnoleg ddigidol ym maes gofal cymdeithasol.
Dysgwch sut i ddefnyddio offer digidol i gyfathrebu, cydweithio a gweithio'n fwy effeithlon yn eich rôl.
Darganfyddwch sut y gall technoleg gefnogi annibyniaeth, llesiant a gofal personol.
Dysgwch sut mae arweinyddiaeth, diwylliant a thechnoleg yn cefnogi trawsnewid digidol.
Dysgwch sut i ddefnyddio offer AI yn hyderus, yn effeithiol ac yn gyfrifol.