Y Brifysgol Agored
Cwrs Sgiliau Digidol
Mae'r cwrs wyth wythnos hwn am ddim yn helpu i feithrin hyder digidol a datblygu sgiliau ar-lein ar gyfer bywyd bob dydd a gwaith.
Dysgwch sut i ddefnyddio offer digidol i gyfathrebu, cydweithio a gweithio'n fwy effeithlon yn eich rôl.
Mae pob un o'r adnoddau yn yr adran hon o'n llyfrgell adnoddau digidol wedi cael ei adolygu o ran ansawdd, perthnasedd a gwerth ymarferol.
Rydyn ni wedi dewis offer, canllawiau ac adnoddau dysgu sy'n cael eu darparu gan sefydliadau ledled Cymru, y DU a'r sectorau gofal cymdeithasol, digidol, gwasanaethau cyhoeddus a thechnoleg ehangach.
Dyma'r adnoddau rydyn ni'n eu hamlygu i ddefnyddwyr ein dyfais botensial ddigidol. Rydyn ni wedi'u grwpio'n bedwar is-gategori:
Ar gyfer pob adnodd, rydyn ni wedi cynnwys enw'r darparwr a disgrifiad byr.
Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gael mynediad at unrhyw un o'r adnoddau isod, cysylltwch â digidol@gofalcymdeithasol.cymru.
Y Brifysgol Agored
Mae'r cwrs wyth wythnos hwn am ddim yn helpu i feithrin hyder digidol a datblygu sgiliau ar-lein ar gyfer bywyd bob dydd a gwaith.
Learn My Way
Porth dysgu ar-lein sy'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau i helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder digidol, gan gynnwys defnyddio e-bost, dyfeisiau a rhaglenni Microsoft Office.
Digital Unite
Archwiliwich fwy na 400 o ganllawiau sy'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau digidol. Gall y canllawiau eich helpu i gefnogi eraill i ddatblygu eu sgiliau digidol neu i wella eich gwybodaeth eich hun.
Age UK
Canllaw syml i greu a defnyddio cyfrif e-bost yn ddiogel, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer anfon negeseuon ac osgoi sgamiau.
National Care Forum
Dysgwch sut i gysylltu â'r rhyngrwyd gan ddefnyddio data symudol, Wi‑Fi neu fand eang, gyda chanllawiau clir ar sut i fynd ar-lein.
National Care Forum
Dysgwch am y gwahanol ddyfeisiau y gellir eu defnyddio i gael mynediad at y rhyngrwyd, gan gynnwys cyfrifiaduron, llechi a ffonau clyfar, a sut i ddewis yr un sy'n iawn ar gyfer eich anghenion.
National Care Forum
Canllaw syml i ddefnyddio'r rhyngrwyd, gan gynnwys pori'r we, cael mynediad at wefannau, defnyddio e-bost a chadw'n ddiogel ar-lein.
Y Brifysgol Agored
Mae'r cwrs wyth wythnos hwn am ddim yn helpu i feithrin hyder digidol a datblygu sgiliau ar-lein ar gyfer bywyd bob dydd a gwaith.
Y Brifysgol Agored
Mae'r cwrs ar-lein ac am ddim hwn yn edrych ar sut mae technolegau digidol yn cael eu defnyddio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys eu manteision, eu heriau a'u heffaith ar wasanaethau.
Digital Unite
Casgliad o ganllawiau ar gyfryngau cymdeithasol a blogiau, gan gynnwys Facebook, Instagram, LinkedIn, X a Nextdoor, gydag awgrymiadau ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein.
Age UK
Canllaw cam wrth gam ar ddefnyddio apiau galw fideo fel WhatsApp, Zoom, FaceTime a Facebook Messenger i gadw mewn cysylltiad ag eraill yn ddiogel.
Age UK
Canllaw ymarferol i ddefnyddio WhatsApp, gan gynnwys anfon negeseuon, gwneud galwadau llais a fideo, defnyddio sgyrsiau grŵp a chadw'n ddiogel ar-lein.
Digital Unite
Canllawiau hawdd eu dilyn ar gyfer e-bost a llwyfannau negeseuon fel Outlook a WhatsApp, i'ch helpu i gyfathrebu'n hyderus ar-lein.
RNID
Dysgwch sut i ddefnyddio nodweddion hygyrchedd yn Teams, Zoom a Google Meet, gan gynnwys capsiynau, canslo sŵn ac offer eraill sy'n cefnogi cyfathrebu.
Bank of Scotland Academy
Dysgwch sut i ddefnyddio offer cyfathrebu ar-lein a chyfryngau cymdeithasol yn effeithiol, gan gynnwys datblygu eich presenoldeb ar-lein a dechrau defnyddio LinkedIn.
Sage Journals
Erthygl sy'n rhoi trosolwg o'r ystyriaethau moesegol sy'n gysylltiedig â defnyddio technoleg mewn gwaith cymdeithasol, gan gynnwys preifatrwydd, cyfrinachedd, ffiniau proffesiynol a chynhwysiant digidol.
Microsoft
Canllaw ar ddefnyddio Microsoft Whiteboard i gefnogi cydweithio, trafod syniadau, cynllunio prosiectau a gweithio hybrid ar draws timau.
Digital Unite
Canllawiau ar ddiogelwch ar y rhyngrwyd, preifatrwydd, diogelu data a diogelwch ar-lein i'ch helpu i ddiogelu eich hun, eich dyfeisiau a'ch gwybodaeth bersonol.
National Care Forum
Dysgwch sut i gadw'n ddiogel ar-lein, adnabod sgamiau, diogelu gwybodaeth bersonol, defnyddio cyfrineiriau cryf a rheoli gosodiadau preifatrwydd ar gyfryngau cymdeithasol.
Y Brifysgol Agored
Cwrs ar-lein ac am ddim sy'n cyflwyno seiberddiogelwch, gan gynnwys bygythiadau ar-lein, meddalwedd faleisus, dwyn hunaniaeth a chamau ymarferol i gadw'n ddiogel ar-lein.
Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
Hyfforddiant ac adnoddau i helpu gweithwyr proffesiynol i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag cam-drin ac ecsbloetio rhywiol ar-lein.
Internet Matters
Adnoddau sy'n darparu gwybodaeth a chyngor i rieni a gofalwyr, gan fynd i'r afael â materion ar-lein fel seiberfwlio, rheoli amser sgrin a chynnwys amhriodol.
Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi'r hyder i chi ddeall beth mae seiberddiogelwch yn ei olygu i chi a sut i gadw'n ddiogel ar-lein.
Y Brifysgol Agored
Bydd yr adnodd hwn yn eich helpu i ddysgu am ddiogelwch rhwydwaith a'i bwysigrwydd wrth ddiogelu data a systemau.
National Council for Voluntary Organisations
Bydd yr adnodd hwn yn eich helpu i wella arferion diogelu data a seiberddiogelwch yn eich sefydliad.
Digital Care Hub
Canllawiau, templedi a hyfforddiant i helpu sefydliadau i fodloni gofynion y Pecyn Cymorth Diogelu Data a Diogelwch a rheoli gwybodaeth yn ddiogel.
Cwmpas
Dysgwch sut i ddeall, defnyddio a chyflwyno data'n effeithiol i gefnogi cynllunio, gwneud penderfyniadau a gwella gwasanaethau.
Data Cymru
Cyrsiau dan arweiniad arbenigwyr sy'n ymdrin â chyflwyno data, ystadegau, arolygon, grwpiau ffocws a defnyddio data i gefnogi gwneud penderfyniadau.
Data Cymru
Canllaw cyflwyniadol i ddeall data, dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol a defnyddio tystiolaeth i wneud penderfyniadau gwybodus.
Digital Social Care Hub
Modiwl e-ddysgu am ddim ar ddiogelu data a seiberddiogelwch ar gyfer staff gofal cymdeithasol, sy'n ymdrin â diogelwch data, achosion o dorri diogelwch data a diogelu gwybodaeth.
UKAuthority
Newyddion a diweddariadau am dechnoleg, trawsnewid digidol, data ac arloesi ar draws sector cyhoeddus y DU.
Data Cymru
Canllaw i ddata daearyddol a dosbarthiadau daearyddol yng Nghymru, sy'n esbonio sut mae data lleoliad yn cefnogi cynllunio, gwasanaethau a gwneud penderfyniadau.
Data Cymru
Dysgwch sut i gyfrifo a dehongli ystadegau allweddol, gan gynnwys cyfartaleddau, canrannau a gwyriad safonol.
Data Cymru
Canllaw ymarferol i ddylunio, cynnal a dadansoddi arolygon, o lunio cwestiynau i gyflwyno'r canlyniadau.
Data Cymru
Canllawiau ar gyflwyno data'n glir gan ddefnyddio siartiau, tablau, mapiau ac infograffeg i wella cyfathrebu a dealltwriaeth.
Data Cymru
Canllaw ymarferol i gynllunio a chynnal grwpiau ffocws er mwyn casglu adborth, mewnwelediadau a data ymchwil ansoddol.
Data Cymru
Dysgwch sut i ddeall, dehongli a defnyddio data perfformiad i fesur a gwella gwasanaethau.
GOV.UK
Canllawiau ar ddefnyddio gwybodaeth gyfrinachol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wrth gynnal preifatrwydd, diogelwch a chydymffurfiaeth gyfreithiol.
Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru
Dysgwch sut y gellir defnyddio data i wella prosesau gwneud penderfyniadau, dylunio gwasanaethau a chanlyniadau ar draws sector cyhoeddus Cymru.
Mae'r adnoddau uchod yn rhan o lyfrgell ehangach o adnoddau i gefnogi'r defnydd o dechnoleg ddigidol ym maes gofal cymdeithasol.
Darganfyddwch sut y gall technoleg gefnogi annibyniaeth, llesiant a gofal personol.
Archwiliwch y systemau, yr offer a'r dechnoleg sy'n galluogi gweithio digidol diogel.
Dysgwch sut mae arweinyddiaeth, diwylliant a thechnoleg yn cefnogi trawsnewid digidol.
Dysgwch sut i ddefnyddio offer AI yn hyderus, yn effeithiol ac yn gyfrifol.