Skip to Main content

Cefnogi pobl drwy dechnoleg

Dewch o hyd i enghreifftiau ymarferol ac adnoddau sy'n dangos sut y gall technoleg gefnogi annibyniaeth, llesiant, cyfathrebu a gofal personol.

Mae pob un o'r adnoddau yn yr adran hon o'n llyfrgell adnoddau digidol wedi cael ei adolygu o ran ansawdd, perthnasedd a gwerth ymarferol. 

Rydyn ni wedi dewis offer, canllawiau ac adnoddau dysgu a ddarparwyd gan sefydliadau ledled Cymru, y DU a'r sectorau gofal cymdeithasol, digidol, gwasanaethau cyhoeddus a thechnoleg ehangach. 

Dyma'r adnoddau rydyn ni'n eu hamlygu i ddefnyddwyr ein dyfais botensial ddigidol. 

Ar gyfer pob adnodd, rydyn ni wedi cynnwys enw'r darparwr a disgrifiad byr. 

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gael mynediad at unrhyw un o'r adnoddau isod, cysylltwch â digidol@gofalcymdeithasol.cymru.

Digital Unite

Canllawiau ar hobïau a diddordebau

Canllawiau i'ch helpu i archwilio hobïau a diddordebau ar-lein, gan gynnwys dysgu, chwilio am waith, gemau, posau a theithio.

Age UK

Dysgu am y rhyngrwyd a thechnoleg ar gyfer pobl hŷn

Canllaw hawdd ei ddefnyddio i ddechreuwyr ar ddefnyddio'r rhyngrwyd, sy'n ymdrin â diogelwch ar-lein, apiau, dyfeisiau digidol a chadw mewn cysylltiad ar-lein.

Digital Unite

Canllawiau ar offer cerddoriaeth a sain

Canllawiau ar gael mynediad at gerddoriaeth, llyfrau sain, podlediadau a radio ar-lein, gan gynnwys gwasanaethau poblogaidd fel Spotify ac Apple Music.

Age UK

Canllaw i'r cyfryngau cymdeithasol

Canllaw ymarferol i ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram ac X, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein.

Digital Unite

Canllawiau hawdd eu darllen am dechnoleg

Canllawiau hawdd eu darllen sy'n ymdrin â phynciau sgiliau digidol fel diogelwch ar-lein, e-bost, galwadau fideo a chefnogi pobl ag anableddau dysgu.

Digital Unite

Canllaw i helpu eraill gyda thechnoleg

Adnoddau a hyfforddiant i'ch helpu i ddod yn Hyrwyddwr Digidol a chefnogi eraill i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder digidol.

GIG

Canllaw i larymau personol a systemau monitro

Mae'r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth am larymau personol, systemau monitro a blychau allweddi a all helpu unigolion i gynnal eu diogelwch a'u hannibyniaeth gartref.

Skills for Care

Cefnogi pobl i wneud galwad fideo

Canllawiau ymarferol ar gefnogi pobl ag anableddau dysgu cyn, yn ystod ac ar ôl galwadau fideo.

Carers UK

Canllaw i dechnoleg ac offer

Canllaw ymarferol ar gefnogi pobl ag anableddau dysgu cyn, yn ystod ac ar ôl galwadau fideo.

Social Care Institute for Excellence (SCIE)

Rhestr wirio technoleg ar gyfer galwadau fideo

Rhestr wirio i helpu ymarferwyr gofal cymdeithasol i baratoi ar gyfer galwadau fideo, gan gynnwys offer, anghenion cyfathrebu, preifatrwydd ac addasrwydd.

RNID

Canllaw i dechnoleg a dyfeisiau cynorthwyol

Gwybodaeth a chymorth ar dechnoleg a dyfeisiau cynorthwyol ar gyfer pobl sy'n fyddar, sydd â cholled clyw neu sy'n byw â thinitws.

RNIB

Technoleg cyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl â cholled golwg

Gwybodaeth am dechnoleg ac offer cynorthwyol cyfrwng Cymraeg i gefnogi pobl â cholled golwg wrth ddefnyddio dyfeisiau digidol.

Skills for Care

Cefnogi pobl i ddefnyddio technoleg bob dydd

Canllawiau i weithwyr gofal cymdeithasol ar gefnogi pobl i ddefnyddio technoleg bob dydd yn ddiogel, yn hyderus ac yn effeithiol.

Sight Cymru

Cymorth cynhwysiant digidol

Gwybodaeth a chyngor am dechnoleg gynorthwyol, gan gynnwys cynhyrchion ar gyfer cyfathrebu, mynediad at gyfrifiaduron, golwg, clyw a byw'n annibynnol.

AbilityNet

Gweminarau digidol

Gweminarau am ddim ar hygyrchedd digidol, technoleg gynorthwyol ac arferion cynhwysol ar gyfer pobl anabl a gweithwyr proffesiynol ym maes hygyrchedd.

Sight and Sound Technology

Archwilio byd technoleg gynorthwyol: Sesiwn un

Gweminar sy'n arddangos technolegau cynorthwyol sy'n cefnogi pobl â nam ar eu golwg, dyslecsia ac anawsterau dysgu.

Sight and Sound Technology

Archwilio byd technoleg gynorthwyol: Sesiwn dau

Gweminar sy'n edrych ar dechnolegau cynorthwyol sy'n helpu pobl â nam ar eu golwg ac anableddau corfforol i fyw'n fwy annibynnol.

Sight and Sound Technology

Archwilio byd technoleg gynorthwyol: Sesiwn tri

Gweminar sy'n cyflwyno technolegau cynorthwyol gwisgadwy, gan gynnwys sbectol glyfar a dyfeisiau cymorth gweledol ar gyfer pobl â cholled golwg.

Digital Unite

Canllaw i apiau iechyd a ffitrwydd

Canllawiau ac adnoddau ar ddefnyddio technoleg i gefnogi iechyd a llesiant, gan gynnwys cael gwybodaeth iechyd ar-lein, rheoli meddyginiaeth a chadw'n heini.

RNIB

Gwybodaeth am gymorth gyda thechnoleg

Gwybodaeth, hyfforddiant a chymorth i helpu pobl ddall a phobl â golwg rhannol i wneud y mwyaf o dechnoleg ac offer cynorthwyol.

Good Things Foundation

Banc Dyfeisiau Cenedlaethol

Mae'n darparu dyfeisiau wedi'u hadnewyddu am ddim drwy sefydliadau lleol, gan helpu pobl i gael mynediad at yr offer digidol sydd eu hangen arnynt.

Good Things Foundation

Rhwydwaith Cenedlaethol Cynhwysiant Digidol

Adnoddau, hyfforddiant, dyfeisiau a chymorth cysylltedd am ddim i helpu sefydliadau i fynd i'r afael ag allgáu digidol.

Scottish Care

Siarter hawliau dynol ar gyfer technoleg a digidol ym maes gofal cymdeithasol

Canllawiau ar ddefnyddio technoleg ym maes gofal cymdeithasol drwy ddull sy'n seiliedig ar hawliau dynol, gan ganolbwyntio ar gynhwysiant, grymuso a phreifatrwydd.

Archwiliwch ein hadnoddau eraill

Mae'r adnoddau uchod yn rhan o lyfrgell ehangach o adnoddau i gefnogi'r defnydd o dechnoleg ddigidol ym maes gofal cymdeithasol.

Defnyddio technoleg i weithio a chyfathrebu'n effeithiol

Dysgwch sut i ddefnyddio offer digidol i gyfathrebu, cydweithio a gweithio'n fwy effeithlon yn eich rôl.

Offer, systemau a seilwaith digidol

Archwiliwch y systemau, yr offer a'r dechnoleg sy'n galluogi gweithio digidol diogel.

Creu diwylliant digidol cadarnhaol

Dysgwch sut mae arweinyddiaeth, diwylliant a thechnoleg yn cefnogi trawsnewid digidol.

Defnyddio offer AI

Dysgwch sut i ddefnyddio offer AI yn hyderus, yn effeithiol ac yn gyfrifol.