Dod o hyd i dystiolaeth
Mae nifer o sefydliadau gyda gwefannau gall eich helpu i ddod o hyd i dystiolaeth ddibynadwy. Mae llawer o'r sefydliadau hyn hefyd yn darparu gwybodaeth am bolisi ac arfer sy'n ymwneud â'u maes diddordeb.
Rydyn ni wedi rhestru ffynonellau dibynadwy ac wedi cynnwys crynodeb o'r hyn sydd ar bob wefan.
Rhestr sefydliadau ac adnoddau
- Be part of research: mae'r wefan wedi ei gynnal gan Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR). Mae'n wasanaeth ar draws y DU sy'n helpu pobl dod o hyd i, a chyfrannu at, ymchwil iechyd a gofal. Gallwch chi ei ddefnyddio i chwilio a hidlo ar gyfer astudiaethau yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi ac mae cofrestr o wirfoddolwyr sy'n gallu cysylltu â chi'n uniongyrchol i roi gwybod am astudiaethau sy'n berthnasol i chi.
- Canolfan Llesiant ‘What Works': roedd y ganolfan hon yn bodoli rhwng 2014 a 2024 ac yn canolbwyntio ar lesiant, yn gweithio gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr i ddarparu tystiolaeth, arweiniad, a phapurau trafod ar amrywiaeth o bynciau. Mae'n bosib cael mynediad at yr adnoddau o hyd ar ei gwefan er nad yw'n cael ei adnewyddu bellach.
- Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC): mae ESRC yn rhan o UK Research and Innovation (UKRI), sy’n dwyn ynghyd saith cyngor ymchwil y DU, Innovate UK a Research England. Mae ESRC yn ariannu ymchwil ar draws ystod eang o bynciau yn y gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys iechyd a llesiant, gwasanaethau cyhoeddus a chymdeithas. Gallwch chi archwilio meysydd buddsoddi a chymorth yr ESRC, a chael mynediad i 'becyn cymorth effaith' i helpu gyda cheisiadau am gyllid.
- Gofal Cymdeithasol Cymru: rydyn ni’n darparu canllawiau ymarfer cenedlaethol ac ystod o adnoddau ymchwil, data ac arloesi trwy ein prif wefan a'r: Grŵp Gwybodaeth.
Mae Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru yn cynnwys data o amrywiaeth o ffynonellau sy'n ymwneud â gwasanaethau gofal cymdeithasol. - Foundations, Canolfan ‘What Works’ ar gyfer Plant a Theuluoedd: mae'n darparu atebion a datrysiadau ymarferol sy’n grymuso’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wella polisi ac ymarfer ar gymorth i deuluoedd. Mae’r gwaith yn seiliedig ar yr egwyddor y dylai tystiolaeth o ansawdd uchel lywio'r broses o wneud penderfyniadau a chwarae rôl hanfodol wrth wella bywydau plant sy'n agored i niwed. Mae Llawlyfr ar y wefan, sy’n rhoi gwybodaeth am ymchwil sydd eisoes yn bodoli a dros 130 o ymyrriadau a gall cefnogi gwneud penderfyniadau.
- Llyfrgell Cochrane: mae'n rhoi mynediad at ganfyddiadau ymchwil i gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth gan weithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a’r cyhoedd. Mae Cochrane yn cynnwys grwpiau adolygu sydd wedi'u lleoli mewn sefydliadau ymchwil ledled y byd. Mae'r dudalen 'ein tystiolaeth' yn cynnwys crynodebau mewn iaith glir o dystiolaeth iechyd.
- Partneriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE): nod CASCADE, sydd wedi'i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yw gwella llesiant, diogelwch a hawliau plant a'u teuluoedd. Mae gan wefan CASCADE amrywiaeth o gyhoeddiadau ac adnoddau sy’n cyfrannu at ddod â phrofiadau ac arbenigedd at ei gilydd ar gyfer ymarferwyr, pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth, ac ymchwilwyr. Mae CASCADE hefyd yn gartref i ExChange - rhaglen symudedd gwybodaeth.
- Prifysgol Caerdydd, Canolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (SCALE): Mae'r ganolfan yn cynnal ymchwil am y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ym mhob maes gofal cymdeithasol i blant ac oedolion. Mae hyn yn cynnwys ymchwil ar brosesu iaith naturiol, gwyddor a dadansoddeg data, roboteg a chyfrifiadura gweledol. Mae prosiectau ymchwil cyfredol wedi'u rhestru yma: https://www.scaleresearchwales.org/cy/prosiectau-cyfredol/.
- Research in Practice: mae'n cefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd i wella canlyniadau i oedolion sydd ag anghenion cymorth a phlant a theuluoedd. Mae’n dod ag arbenigedd ymarfer a phrofiadau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau ynghyd fel y gall gweithwyr proffesiynol ar draws y sector wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ynghylch dylunio a darparu gwasanaethau. Mae'r ganolfan yn llunio adolygiadau tystiolaeth 'Insights' sy'n crynhoi'r ymchwil a'r dystiolaeth sydd ar gael ar bynciau penodol sy'n ymwneud â chymorth i oedolion, plant a theuluoedd.
- Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC): mae WIHSC, sydd wedi ei gynnal gan Brifysgol De Cymru, yn pontio bylchau rhwng y byd academaidd, polisi ac ymarfer, ac mae ei wefan yn cynnwys tudalen canfod allbynnau ymchwil.
- StatsCymru: gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n eich galluogi i weld, trin, creu a lawrlwytho tablau o ddata Cymreig.
- Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: tudalen ymchwil a ariennir, sy'n rhoi cyfle i chi chwilio am ymchwil cyfredol neu wedi ei gwblhau. Gallwch chi hefyd chwilio yn ôl sefydliad Cymreig.
- Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - Llyfrgell adroddiadau'r Ganolfan Dystiolaeth: mae'r ganolfan yn cynnal ymchwil sy'n llywio polisi ac ymarfer iechyd a gofal yng Nghymru. Gellir chwilio'r llyfrgell adroddiadau, ac yn benodol chwilio am ofal cymdeithasol fel pwnc. Mae'n cynnwys gwaith gorffenedig a chyfredol.
- Y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR): ariannwr mwyaf y DU ar gyfer ymchwil iechyd a gofal. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â’r GIG, prifysgolion, llywodraeth leol, cyllidwyr ymchwil eraill, cleifion a’r cyhoedd i gyflawni a galluogi ymchwil. Mae offeryn chwilio tystiolaeth ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, ymchwilwyr a'r cyhoedd ar y wefan. Gallwch chi hefyd gael mynediad i lyfrgell cyfnodolion a NIHR Evidence, sy'n darparu crynodebau mewn iaith glir o ymchwil iechyd a gofal sy’n cael ei ariannu gan NIHR.
- Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE): mae NICE yn darparu asesiad annibynnol o dystiolaeth gymhleth i gynhyrchu canllawiau defnyddiol a defnyddiadwy ar gyfer ymarferwyr iechyd a gofal. Mae ganddo gymuned sy'n ymroddedig i ofal cymdeithasol, lle gallwch chi fanteisio ar ganllawiau, safonau ansawdd, offer ac adnoddau. Mae hefyd yn crynhoi ei gynhyrchion sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol oedolion a gofal cymdeithasol plant, ac yn cynnig cyngor ar sut i ddefnyddio ei ganllawiau mewn gwaith cymdeithasol.
- Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE): asiantaeth sy’n cydgynhyrchu, sy'n rhannu ac sy'n cefnogi’r defnydd o’r wybodaeth a’r dystiolaeth orau sydd ar gael am yr hyn sy’n gweithio’n ymarferol.
- Y Sefydliad Ymchwil ac Arloesi yn y Gwasanaethau Cymdeithasol (Iriss): sefydliad Albanaidd sydd â hanes helaeth o gyflwyno a defnyddio tystiolaeth ar y cyd wrth ddatblygu polisi ac ymarfer. Mae holl adnoddau Iriss ar gael am ddim, gan gynnwys eu crynodebau tystiolaeth.
- Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO): yr NAO yw corff gwarchod gwariant cyhoeddus annibynnol y DU. Chwiliwch drwy adroddiadau'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol neu gyrchwch ganllawiau arfer da trwy ei thudalen 'Insights'.