Rhiannon Wright
Cymuned Dystiolaeth
Lilla Vér
Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le
Mathew Morgan
Cymuned Unigolion Cyfrifol
Rydyn ni'n credu y bydd creu mannau i gysylltu a datblygu perthnasoedd yn arwain at newid parhaol a chadarnhaol.
Mae ein cymunedau yn dod ag ymarferwyr gofal cymdeithasol, arloeswyr a phobl sydd â phrofiad byw ynghyd i greu'r egni a'r momentwm ar gyfer newid.
Maen nhw’n fannau i bobl rannu eu gwybodaeth a’u syniadau ac i ddysgu gan eraill, gan greu perthnasoedd ar draws gwahanol sectorau ledled Cymru.
Mae'r cymunedau'n cyfarfod ar-lein a mewn person, tra gall aelodau hefyd gysylltu trwy blatfform ar-lein.
Yma, mae’r Grŵp Gwybodaeth yn cyflwyno rhai o uchafbwyntiau’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ein cymunedau dros y ddau fis diwethaf.
Daeth ein Cymuned Dystiolaeth at ei gilydd ym mis Medi ar gyfer sesiwn ‘Myfyrio ar Dystiolaeth’ am ein crynodeb tystiolaeth newydd ar gefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal.
Roedd yr adborth ar y sesiwn yn gadarnhaol iawn, gyda llawer o bobl yn dweud y bydden nhw nawr yn rhannu’r crynodeb gyda chydweithwyr, a rhai yn dweud y bydden nhw’n ei ddefnyddio fel rhan o adolygiad o bolisïau a phecynnau hyfforddi.
Ym mis Hydref, cynhaliodd y gymuned dri gweithdy ‘Sgyrsiau Ymchwil’ ar themâu cydweithio ym meysydd diogelu, gwaith cymdeithasol gyda phobl hŷn, a chamfanteisio’n droseddol ar blant. Fe wnaeth y sesiynau hyn gwahodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Sunderland i rannu eu canfyddiadau â'r gymuned.
Cafodd blog diddorol am osgoi rhai o sgil-effeithiau negyddol posibl cyd-gynhyrchu ei gyhoeddi ar lwyfan ar-lein y gymuned, ynghyd â nifer o flogiau ac eitemau newyddion eraill.
Roedd trafodaeth hefyd ar y llwyfan am effaith newid hinsawdd ar ofal cymdeithasol. Rhannodd aelodau rhai o’r adnoddau maen nhw’n gweithio arnyn nhw yn eu sefydliadau gwahanol i geisio mynd i’r afael â’r mater.
Ar ôl yr haf, dechreuodd y Gymuned Unigolion Cyfrifol system nodi dyddiadur newydd er mwyn helpu i wella presenoldeb yn y cyfarfodydd misol a diogelu amser aelodau. Mae hyn wedi cael derbyniad da o ystyried cyfyngiadau amser ac amserlenni prysur bobl.
Mae'r gymuned bellach yn cynnal cyfarfod misol bob ail ddydd Gwener o'r mis.
Roedd cyfarfod mis Medi yn gyfle i Unigolion Cyfrifol gwrdd â Mathew Morgan, sy’n goruchwylio’r gymuned tan yr haf nesaf.
Fe wnaeth yr aelodau myfyrio ar y mewnwelediadau cafodd eu rhannu yng nghyfarfod mis Awst, a gyda’i gilydd dechrau datblygu themâu ar gyfer y digwyddiad deialog ar y cyd nesaf gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Mae’r digwyddiadau hyn yn dod ag arolygwyr AGC ac Unigolion Cyfrifol ynghyd i drafod gwahanol bynciau. Maen nhw’n dilyn digwyddiad peilot llwyddiannus yn gynharach yn y flwyddyn. Rydyn ni’n gweithio gyda Nick Andrews o Ddatblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) i gyflwyno’r sesiynau hyn.
Ym mis Hydref, canolbwyntiodd y cyfarfod cymunedol ar ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau, gyda'r siaradwyr gwadd Jessica Matthews a Jay Goulding o Ofal Cymdeithasol Cymru. Cafodd y grŵp drafodaeth gyfoethog a chraff am reoli perthnasoedd fel arweinwyr, sut i fuddsoddi mewn Unigolion Cyfrifol newydd, a sut i gynyddu mynediad at ffrindiau beirniadol.
Ymunodd aelodau o’r gymuned â mwy na 100 o fynychwyr eraill ar gyfer y Gynhadledd Gofal Preswyl i Blant, cafodd ei gynnal yng Nghaerdydd a Llandudno ym mis Medi. Yn ystod y dydd, fe wnaethon nhw myfyrio ar ein crynodeb tystiolaeth newydd am gefnogi canlyniadau cadarnhaol mewn gofal preswyl i blant, a chlywed gan Gyngor Sir y Fflint, Action for Children ac Amberleigh Care am sut maen nhw wedi gweithredu a chynnal modelau gofal. Daeth y diwrnod i ben gyda DEEP yn arwain ymarfer ‘ennyd euraidd’, a’r uchafbwynt i lawer oedd clywed gan gomisiynwyr ifanc Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant (4Cs) am eu profiadau o ofal a beth sy'n cynrychioli gofal da iddyn nhw.
Ym mis Hydref, daeth Dr Lisa Holmes i siarad â’r gymuned am gynhadledd ryngwladol ACORES 2024, y gwnaeth hi helpu i’w rhoi at ei gilydd. Rhoddodd grynodeb o'r cyflwyniadau ar y gwahanol fodelau gofal a gafodd sylw yn y gynhadledd. Bydd cyflwyniadau o’r gynhadledd ar gael cyn bo hir ar wefan Cymdeithas Gwasanaethau Preswyl a Chymunedol i Blant (ACRC), ynghyd â digwyddiadau sydd i ddod, grwpiau polisi a gweminarau.
Er gwaethaf gorfod canslo digwyddiad ym mis Medi, parhaodd y Gymuned Gofal sy’n Seiliedig ar Le i ddod ag aelodau at ei gilydd trwy ei sesiynau ‘Coffi a Chyswllt’.
Ymhlith y pynciau cafodd eu trafod yn ystod y sesiynau oedd digwyddiadau, mentrau newydd, trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig, a llesiant.
Cymuned Dystiolaeth
Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le
Cymuned Unigolion Cyfrifol