Beth yw tystiolaeth effeithiol?
Ein diffiniad o dystiolaeth effeithiol
Mae defnyddio tystiolaeth i lywio ymarfer wrth wraidd y Fframwaith perfformiad a gwella ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol.
Mae cwestiynau wedi bodoli ers amser maith ynghylch sut i ddiffinio ‘tystiolaeth’ ym maes gofal cymdeithasol. Hynny yw, gwybodaeth neu dystiolaeth pwy sy'n cyfrif.
Cafodd diffiniad o dystiolaeth effeithiol ei ddatblygu gyda staff awdurdodau lleol yn rhan o’r gweithdai a helpodd i ddatblygu’r canllaw hwn:
“Mae tystiolaeth effeithiol yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o ffenomenau ac yn ateb cwestiynau. Mae'n gyd-destunol, yn berthnasol ac yn amserol, gan dynnu ar wahanol ffynonellau gwybodaeth (er enghraifft, ymchwil, profiad byw, a gwybodaeth yr ymarferydd a'r sefydliad). Mae tystiolaeth effeithiol yn hygyrch, a gall pob unigolyn perthnasol ymgysylltu â hi. Mae’n ddefnyddiol a gall arwain at welliant, ond mae hefyd yn agored (tryloyw) am ei gyfyngiadau.”
Mae’r diffiniad hwn yn nodi rhai pethau allweddol i’w hystyried wrth gynllunio gwerthusiad neu brosiect ymchwil, megis ymagweddau tryloyw a chynhwysol.
Mabwysiadu ymagwedd system gyfan
Mae’r Athro Emeritws Sandra Nutley a’i chydweithwyr yn yr Uned Ymchwil ar Ddefnyddio Ymchwil, Prifysgol St Andrews, yn awgrymu bod datblygu tystiolaeth effeithiol yn dasg gymhleth. Mae angen ymagwedd system gyfan o ymdrin â thystiolaeth sy’n galluogi:
- ymarferwyr i gael gafael ar dystiolaeth sy’n ddeniadol iddyn nhw a rhoi hyn ar waith yn ymarferol
- systemau sefydliadol sy'n hwyluso ymarferwyr i ddefnyddio tystiolaeth a’i rhoi ar waith yn ymarferol
- diwylliannau sefydliadol sy'n darparu amgylcheddau dysgu lle gall ymarferwyr arbrofi a rhoi cynnig ar bethau.
Cafodd y rhaglen Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) ei ddatblygu yng Nghymru. Mae’n cynnwys amrywiaeth o offer ac ymagweddau i gefnogi mabwysiadu ymagwedd system gyfan o gynhyrchu a defnyddio tystiolaeth.
Astudiaethau achos
Mae'r astudiaethau achos hyn yn dangos sut y gall tystiolaeth lywio gwelliant mewn perfformiad.
Seibiant Adnewyddu: Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
Ar ddechrau 2019, penderfynodd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru gynnal adolygiad o wasanaethau gofal seibiant ar draws y rhanbarth. Gan weithio gydag Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru, fe ddechreuon nhw drwy archwilio tystiolaeth ymchwil a thystiolaeth sefydliadol am seibiant o rannau eraill o’r DU.
Cafodd hwn ei ddefnyddio fel catalydd i gasglu gwybodaeth leol gan ofalwyr di-dâl, ymarferwyr, a’r bobl y maen nhw’n eu cefnogi. Bu trafodaethau ym mhob un o’r tair sir sy’n rhan o Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro. Cafodd y trafodaethau hyn eu recordio, eu trawsgrifio, ac wedyn eu dadansoddi ar gyfer themâu allweddol.
Wedyn cafodd y themâu hyn a llawer o’r straeon a’r dyfyniadau cysylltiedig eu rhannu mewn digwyddiad rhanbarthol. Roedd ymchwilydd, uwch reolwyr, ymarferwyr, gofalwyr di-dâl, a’r bobl y maen nhw’n yn eu cefnogi yn bresennol. Bu'r bobl a gymerodd ran yn y digwyddiad hwn yn cydweithio i nodi set o egwyddorion a blaenoriaethau ar gyfer datblygu, a gafodd eu cynnwys wedyn yn yr adroddiad Seibiant Adnewyddu ac argymhellion cysylltiedig.
Cafodd themâu allweddol a gododd yn ystod y dydd eu troi yn gerdd a gafodd ei rhannu ar ddiwedd y digwyddiad. Roedd y gerdd hon yn sôn am bwysigrwydd cysylltu’r pen a’r galon wrth ddefnyddio ymagwedd ‘yr hyn sydd bwysicaf’.
Aeth aelodau’r bartneriaeth â rhai o’r themâu hyn ymlaen, gan gynnwys archwilio sut y gall gwasanaethau lletygarwch lleol gyfrannu at ddarparu seibiannau byr i ofalwyr di-dâl. Roedd yr ymagwedd hon yn seiliedig ar ddeialog i archwilio a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth. Gyda’r fantais ychwanegol o feithrin perthnasoedd ac ymddiriedaeth rhwng gofalwyr, ymarferwyr a rheolwyr.
Arloesi COVID-19: Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant Gogledd Cymru
Cynhaliodd Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant Gogledd Cymru adolygiad o ddatblygiadau arloesol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a ddigwyddodd o ganlyniad i bandemig Covid-19.
Defnyddiodd y gwaith dechnegau ‘y newid mwyaf arwyddocaol’ (MSC) i ddal straeon pobl am y newidiadau a ddigwyddodd ac i ddysgu oddi wrthynt. Mae canfyddiadau’r adolygiad yn cael eu defnyddio i nodi'r newidiadau i’w gadw a lle mae angen gwella, yn enwedig o ran iechyd a gofal cymdeithasol integredig a’r defnydd o dechnolegau digidol. Mae'r adroddiad ar gael yma: Adolygiad Cyflym: Asesiad o Anghenion Poblogaeth (Covid-19).
Datblygu ap: Here2there (H2t) ForMi
Yn 2019, nododd grŵp bach o bobl yng Ngogledd Cymru heriau yr oedd gwasanaethau’n eu hwynebu mewn perthynas â dangos effaith eu hymyriadau a gwneud eu prosesau cynllunio mor berson-ganolog ac ystyrlon â phosibl.
Dyma a arweiniodd at ddatblygu'r offeryn Here2there.me (H2t) ForMi. Mae ForMi yn caniatáu i sefydliad gefnogi unigolion, trwy wefan ac ap ffôn, i ddatblygu proffil sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn creu set o nodau a chamau gweithredu. Mae unigolion wedyn yn mynd ati i gasglu tystiolaeth o'u cyflawniadau mewn geiriau a lluniau ar yr ap ffôn, yn debyg i lawer o apiau cyfryngau cymdeithasol. Mae’r casgliad 'llinell amser' o eiriau a lluniau yn cael ei alw’n 'stori'.
Mae pob unigolyn hefyd yn cytuno ar gylch cymorth - pobl allweddol a fydd yn eu cefnogi i gyflawni'r nodau hyn. Mae’r cylch cymorth yn defnyddio’r ap i weld beth mae’r unigolyn yn ei gyflawni. Mae'n darparu anogaeth, a phostio tystiolaeth i gefnogi’r cyflawniad hwn.
Mae'r offeryn H2t.me ForMi wedi cael ei dreialu gydag amrywiaeth o wasanaethau dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau anabledd dysgu, cartrefi plant, a rhaglenni cymorth gwaith. Mae'r gwaith wedi cael cefnogaeth grant gan Brosiect Trawsnewid Gogledd Cymru ar gyfer gwasanaethau anabledd dysgu a chystadleuaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach Llywodraeth Cymru o'r enw 'Bywydau Gwell yn Nes at Adref'.
Gallwch chi ddysgu mwy am y prosiect ar wefan www.here2there.me.uk.