Paratoi cynllun ymchwil neu werthuso
Bydd yr adnoddau ar y dudalen hon yn eich helpu i gynllunio eich ymchwil neu werthusiad yn fwy effeithiol.
Cyflwyniad i gynllunio ymchwil a gwerthuso
Gallwch chi ddefnyddio'r adnoddau hyn yn fan cychwyn i'ch helpu i lunio cynllun ymchwil neu werthuso manwl. Gallwch chi ddod o hyd i gyngor a chymorth hefyd drwy ein gwasanaeth cefnogaeth gwerthuso.
Service evaluation: an introductory guide - Age UK
Mae hwn yn gyflwyniad da i gynllunio gwerthusiad. Mae'n nodi dau fath o werthusiad (gwerthusiadau proses ac effaith) ac yn rhestru'r pethau pwysig i'w cynnwys wrth gynllunio a dylunio gwerthusiad. Mae rhestr dermau ddefnyddiol a dolenni at wybodaeth bellach.
Manage an evaluation or evaluation system - Better Evaluation
Mae'r ddogfen hon yn eich helpu i gynllunio'r gwahanol elfennau o werthusiad. Mae adrannau byr ar bethau fel sut i ymgysylltu â rhanddeiliaid, prosesau gwneud penderfyniadau, rheoli adnoddau a datblygu gallu gwerthuso.
Guidelines for good practice in evaluation - UK Evaluation Society
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau arfer da penodol ar gyfer pedwar grŵp gwahanol: gwerthuswyr, comisiynwyr, pobl sy'n cyflawni hunanwerthusiad sefydliadol a chyfranogwyr gwerthusiad. Mae'r wybodaeth yn ddefnyddiol i bobl sydd â phrofiad o werthusiadau ac i unrhyw un sy'n newydd i'r broses.
Canllaw rhagarweiniol i werthuso - Data Cymru
Mae'r dudalen we hon yn ganllaw cynhwysfawr i gynllunio a chynnal gwerthusiadau ac mae ar gael yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae'n nodi'r broses werthuso, yn disgrifio mathau o werthuso, fframweithiau gwerthuso a modelau rôl rhesymeg a damcaniaethau newid. Mae hefyd yn cynnwys rhestr o dermau defnyddiol.
Mae cyswllt uniongyrchol â Llyfr Magenta Trysorlys EF. Gallwch chi ei ddefnyddio fel adnodd ar gyfer cynllunio gwerthusiadau.
Nod y llawlyfr hwn yw cefnogi prosiectau ymchwil mewn cartrefi gofal, ond mae hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer lleoliadau eraill.
Cyflwyniad i ddulliau gwerthuso mwy creadigol. Mae yna enghreifftiau o fywyd go iawn ac adran adnoddau cynhwysfawr. Darllenwch ar-lein neu lawrlwythwch gopi.
Datblygu cwestiwn da
Mae'r adnoddau canlynol yn rhoi arweiniad ar sut i ddatblygu cwestiynau ymchwil a gwerthuso da.
Choosing the right questions: tips for conducting program evaluation - Wilder Research
Mae'r adnodd pedair tudalen hwn yn eich helpu chi i ddewis eich cwestiynau gwerthuso pwysig. Mae adrannau ar wahân ar werthuso canlyniadau, proses a boddhad.
Evaluation questions checklist for program evaluation - Prifysgol Gorllewin Michigan
Mae'r adnodd hwn yn eich helpu i ddatblygu cwestiynau gwerthuso perthnasol. Mae hefyd yn cynnwys rhestr o adnoddau defnyddiol eraill.
Mesur yr hyn sy'n bwysig – Rhwydwaith cyd-gynhyrchu Cymru
Mae hwn yn ganllaw ymarferol i helpu unrhyw un sy'n cynnal gwerthusiad. Mae’n dilyn proses pedwar cam sy’n mynd trwy ddethol cwestiynau, y bobl dan sylw, yr opsiynau casglu data a gwirio a chofnodi penderfyniadau.
Mae'r adnodd hwn yn nodi fframwaith pum cam ar gyfer cynnwys rhanddeiliaid wrth ddatblygu cwestiynau gwerthuso. Mae'n ymdrin â gwahanol ddulliau ymgysylltu a strategaethau ar gyfer rheoli heriau sy'n ymwneud ag ymgysylltu. Gallwch ddefnyddio eu taflenni gwaith i helpu i gynllunio ymgysylltiad rhanddeiliaid.
Creu model rhesymeg i benderfynu pa dystiolaeth i'w chasglu
Gall modelau rhesymeg ein helpu i ddeall sut mae ymyriad yn gweithio a pha ganlyniadau sydd wedi eu cyflawni. Maen nhw’n ddefnyddiol wrth gynllunio gwerthusiadau ac ymchwil.
Using logic models in evaluation - The Strategy Unit
Mae'r papur briffio hwn yn rhoi cyflwyniad byr i fodelau rhesymeg a'u manteision. Mae hefyd yn rhoi arweiniad ar sut i’w defnyddio.
Developing a logic model - Evaluation Support Scotland
Mae'r adnodd hwn yn canolbwyntio ar ddau fath o fodel rhesymeg: 'triongl Weaver' a 'model Wisconsin', gan roi enghreifftiau o bob math a sut i'w cynhyrchu.
Logic mapping: hints and tips - Sefydliad Tavistock
Cafodd yr adnodd hwn ei ddatblygu ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth ond mae'n ddefnyddiol mewn gwahanol leoliadau. Mae'n rhoi trosolwg o sut mae modelau rhesymeg yn cael eu defnyddio mewn gwerthusiadau. Mae pennod dau yn nodi canllaw fesul cam ar fapio rhesymeg.
Penderfynu beth y mae angen ei gynnwys yn y cynllun ymchwil neu werthuso
Gall yr adnoddau isod helpu i ddatblygu eich cynllun ymchwil neu werthuso.
An introduction to evaluation - Evaluation Support Scotland
Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni at wahanol ganllawiau gwerthuso a all helpu i gynllunio gwerthusiad. Maen nhw’n cynnwys:
- pennu deilliannau
- penderfynu beth i'w fesur (pennu dangosyddion ar gyfer eich canlyniadau)
- dylunio dulliau casglu tystiolaeth.
Rainbow framework - Better Evaluation
Mae hwn yn grŵp rhyngwladol sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella theori ac ymarfer ynghylch gwerthuso trwy rannu gwybodaeth am wahanol ymagweddau. Mae 34 o opsiynau gwerthuso sy'n cynnwys dulliau, strategaethau a phrosesau i lywio penderfyniadau a chynllunio.
Evaluation practice handbook – Sefydliad Iechyd y Byd
Mae pennod tri yn y llawlyfr hwn yn rhoi arweiniad fesul cam ar gynllunio gwerthusiad. Er bod y canllawiau wedi'u hysgrifennu ar gyfer staff Sefydliad Iechyd y Byd, mae'r egwyddorion sydd wedi'u cynnwys yn berthnasol i gynulleidfaoedd eraill.
Evaluation plan workbook - Innovation Network
Mae canllawiau manwl yma ar gyfer ysgrifennu cynllun gwerthuso, gan gynnwys gwybodaeth am ddangosyddion. Mae hyn yn golygu edrych ar bethau sy'n dangos sut mae'r prosiect yn cyflawni ei amcanion arfaethedig. Mae hefyd yn cynnwys templed ar gyfer cynllunio gwerthuso.
Coeden benderfyniadau - Age UK
Mae’r goeden benderfyniadau hon yn eich helpu i ddewis sut i gasglu eich tystiolaeth mewn ffordd a all ateb eich cwestiynau gwerthuso ac ymchwil.
Llyfrgell adnoddau: adnoddau a phecynnau cymorth - Clear Horizon Academy
Mae Clear Horizon yn gwmni sy'n cael ei arwain gan fenywod a'i yrru gan werthoedd sy'n grymuso cymunedau a sefydliadau i greu newid. Mae'r llyfrgell adnoddau yn darparu adnoddau PDF am ddim i ddefnyddwyr sy'n cofrestru. Mae dogfennau PDF perthnasol yn cynnwys un ar ddewis dulliau gwerthuso ac un ar ddulliau ar gyfer cyd-destunau penodol.
Arfer da wrth gynnal ymchwil a gwerthusiadau
Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i benderfynu a yw eich gwerthusiad neu gynllun ymchwil yn cyd-fynd ag arfer da.
Ydych chi wedi cynnwys yr holl bobl berthnasol?
Canllaw Assent - Prifysgol Dwyrain Anglia
Mae'r canllaw ar-lein ac am ddim hwn yn helpu i gynnwys pobl mewn ymchwil sydd yn methu rhoi eu caniatâd. Mae gwybodaeth ar sut i gefnogi pobl ag anawsterau cyfathrebu i gymryd rhan mewn ymchwil a gwneud penderfyniadau yng nghyd-destun ymchwil. Mae'r adran ar addasiadau a chymorth yn berthnasol i werthusiadau yn ogystal ag ymchwil.
Pecyn cymorth cynnwys y cyhoedd -Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnwys canllawiau a chyngor ar gynnwys aelodau’r cyhoedd yn eich ymchwil neu werthusiad. Mae gwybodaeth am ffynonellau cymorth a dogfennau templed.
Teclun Evid - Prifysgol Caerhirfryn
Canllaw cam wrth gam ar gyfer cyd-gynhyrchu gwerthusiad gyda rhanddeiliaid. Mae'r fersiwn ar-lein am ddim i sefydliadau nid-er-elw ac am ddim ar gyfer sefydliadau eraill am gyfnod cyfyngedig. Gallwch hefyd lawrlwytho PDF tair tudalen am ddim sy'n crynhoi'r camau.
A yw eich cynllun yn ddilys, yn ddibynadwy ac a yw'n bodloni'r gofynion moesegol perthnasol?
Cod ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol - Gofal Cymdeithasol Cymru
Rhaid cymhwyso'r safonau sy’n cael eu nodi yn y cod ymarfer hwn wrth gynllunio gwerthusiad i sicrhau bod yr holl ofynion moesegol yn cael eu bodloni.
Mae'r dudalen we hon yn cynnwys gwybodaeth am foeseg ymchwil a diogelu data. Mae rhestr wirio y gallwch ei lawrlwytho i sicrhau eich bod wedi cynllunio eich ymchwil neu werthusiad yn unol ag egwyddorion moeseg ymchwil.
Essentials of survey research and analysis - Ronald J Polland
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys adran ar asesu dibynadwyedd a dilysrwydd ac yn egluro beth mae'n ei olygu i gasglu gwybodaeth ddibynadwy a dilys drwy gynnal arolygiadau.
A yw eich ymagwedd gwerthuso neu ymchwil yn gynhwysol ac yn hygyrch?
Measuring what matters – Rhwydwaith cyd-gynhyrchu Cymru
Mae'r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am sut i ddewis dulliau sy'n helpu i gynnwys y bobl rydych chi am iddyn nhw gymryd rhan. A sut i addasu dulliau i'w gwneud yn fwy cynhwysol.
Ymagwedd amgen at ymchwilio a gwerthuso
Mae ffordd wahanol o gynnal prosiect ymchwil neu werthusiad nad yw'n cynnwys y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, sef cymryd rhan mewn adolygiad gan gymheiriaid. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr proffesiynol o wasanaeth arall yn ymweld ac yn rhoi adborth ar y gwaith rydych chi'n ei wneud. Gall cymryd rhan mewn adolygiad gan gymheiriaid fod yn heriol ond mae ei fanteision yn cynnwys rhannu dysgu a derbyn cymorth gan bobl sy'n wynebu'r un problemau.
Mae adnoddau cyfyngedig ar gael ar gyfer adolygiadau gan gymheiriaid, ond mae'r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am gynllunio a chynnal adolygiad cymheiriaid.