Casglu a dadansoddi data nad yw'n rhifiadol
Gall dulliau ymchwil ansoddol a dadansoddiadau data eraill nad ydyn nhw’n rhifiadol ein helpu i ddod o hyd i ystyr a deall pam a sut mae pethau'n digwydd.
Mae data ansoddol:
- yn gallu darparu dealltwriaeth o brofiadau pobl a'u canlyniadau unigol mewn perthynas â gwasanaeth neu ymyriad
- yn caniatáu i chi archwilio diwylliant ac arfer sefydliadol (er enghraifft, sut mae cyngor lleol yn dyfnhau ei ddiwylliant gwella, yn ymgysylltu â gwaith amlasiantaethol gyda’r trydydd sector neu’r GIG, neu’n cynnal agenda atal mewn gofal cymdeithasol)
- yn darparu dealltwriaeth o sut mae’r amgylchedd cymdeithasol ac economaidd yn effeithio ar ofal a chymorth cymdeithasol.
Rydyn ni wedi rhestru rhai adnoddau yma i nodi'r gwahanol ddulliau y gallwch chi eu defnyddio fel cyfweliadau, grwpiau ffocws, arsylwi ac astudiaethau achos. Mae hefyd wybodaeth am adnoddau ynghylch dadansoddi data ansoddol.
Arweiniad cyffredinol
Canllawiau ymchwil a gwerthuso - Age UK
Mae un o'r canllawiau sy’n cael eu rhestru ar y dudalen hon yn edrych ar faint sampl ar gyfer ymchwil ansoddol. Mae yma hefyd ganllaw ar gasglu gwybodaeth gymdeithasol-ddemograffig.
Cyfweliadau
The cycle of good impact practice: interviews - NPC
Mae'r dudalen hon yn rhoi canllaw i ddefnyddio cyfweliadau i gasglu tystiolaeth. Mae'n edrych ar fanteision ac anfanteision defnyddio'r dull hwn, ac yna'n nodi proses dri cham i gynllunio, dylunio a chynnal cyfweliad.
Conducting interviews - Wilder Research
Mae'r 'daflen awgrymiadau' pedair tudalen hon yn ganllaw ar gyfer cynnal cyfweliadau. Mae trosolwg o fathau o gyfweliadau (anffurfiol, lled-strwythuredig a strwythuredig), a disgrifiad o'r broses gyfweld. Mae hefyd wybodaeth am sut i osgoi dylanwadu ar atebion y bobl rydych chi'n eu cyfweld.
Using key informant interviews - Prifysgol Illinois
Mae'r ddogfen fer hon ar dechnegau asesu anghenion yn cynnig rhai cwestiynau i'w hystyried wrth ddewis 'hysbyswyr allweddol' i'w cyfweld.
Evaluation methods and tools - Evaluation Support Scotland
Mae Evaluation Support Scotland wedi datblygu cyfres o ganllawiau byr ar amrywiaeth o ddulliau gwerthuso creadigol fel defnyddio mapiau corff, lluniau, dal eiliadau achlysurol ac ysgrifennu creadigol. Gall rhai o'r dulliau hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth weithio gyda phobl sydd â heriau cyfathrebu.
The ‘most significant change’ (MSC) technique: a guide to its use - Better Evaluation
Mae’r ‘newid mwyaf arwyddocaol’ (MSC) yn un o nifer o dechnegau gwerthuso cyfranogol eraill. Yn hytrach na gofyn i bobl ateb cwestiynau cyfweliad, rydych chi'n rhoi'r cyfle iddyn nhw adrodd 'eu stori' mewn perthynas â'r pwnc dan sylw.
Mae'r llawlyfr hwn yn rhoi arweiniad manwl ar yr ymagwedd MSC. Mae hefyd yn rhoi llawer o enghreifftiau go iawn sy'n disgrifio sut mae'r dull MSC yn cael ei ddefnyddio.
Grwpiau ffocws
Focus groups, Social research update issue 19 - Prifysgol Surrey
Mae hwn yn ganllaw cryno sy'n rhoi manteision ac anfanteision dewis grwpiau ffocws fel dull. Mae hefyd yn amlygu'r materion moesegol y mae angen eu hystyried.
Data collection - Wilder Research
Adnodd sy'n nodi dulliau casglu data gan gynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws. Mae'n cynnwys awgrymiadau ymarferol i'w hystyried wrth gynllunio grwpiau ffocws.
Llyfrgell adnoddau: grwpiau ffocws - Clear Horizon Academy
Mae yma adrannau defnyddiol ar rôl y safonwr (yr hwylusydd) mewn grwpiau ffocws a sut i ddewis cyfranogwyr. Mae esboniad hefyd o sut mae grwpiau ffocws yn wahanol i grwpiau trafod. Mae'r adnodd yn rhad ac am ddim ond mae angen i chi gofrestru i gael mynediad at y wybodaeth.
Arsylwi
Evaluation briefs No. 16 - Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau
Mae’r papur briffio dwy dudalen hwn yn rhoi cyflwyniad ymarferol i’r defnydd o arsylwi yn ddull o gasglu data. Mae'n edrych ar gwestiynau y mae angen i chi eu hystyried wrth benderfynu ai arsylwadau yw'r dull gorau at eich dibenion chi.
Mae'r dolenni canlynol hefyd ar gael mewn categorïau gwahanol ar y dudalen hon. Maen nhw’n rhoi rhagor o arweiniad ar ddefnyddio arsylwi yn ddull: Guides to research and evaluation - Age UK a Evaluation methods and tools - Evaluation Support Scotland.
Astudiaethau achos
Using case studies to do program evaluation - Adran Gwasanaethau Iechyd California
Mae’r ddogfen hon yn rhoi arweiniad ynghylch pryd i ddefnyddio astudiaethau achos. Mae adran fer sy'n edrych ar yr her o anghywirdebau, tuedd, esboniadau croes a chamgymeriadau dethol.
Support guide 3c: case studies - Evaluation Support Scotland
Mae'r canllaw hwn yn canolbwyntio ar gynllunio ac adrodd am astudiaethau achos.
Dadansoddi data ansoddol
Gall ymchwil ansoddol gynhyrchu llawer iawn o ddata. Mae nifer o ddulliau a all eich helpu i adnabod y negeseuon pwysig o'r data.
Analyse data - Better Evaluation
Mae hwn yn adnodd sy'n rhoi gwybodaeth am ddadansoddi data meintiol ac ansoddol. Mae sawl dull yn cael sylw yn yr adran ar ddata ansoddol: dadansoddi cynnwys, codio thematig, matricsau fframwaith, llinellau amser, a matricsau sydd â threfn amser.