Skip to Main content

Casglu a dadansoddi data rhifiadol

Rydyn ni wedi rhestru rhai adnoddau a fydd yn eich helpu i gasglu a dadansoddi data rhifiadol.

Dewch o hyd i gyflwyniad i fetrigau perfformiad, yn ogystal â gwybodaeth am arolygon, holiaduron, methodoleg treialu, dadansoddi data, a dadansoddi economaidd.

Metrigau perfformiad

Metrigau perfformiad yw’r ffigurau a’r data safonol y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn amdanynt i’w helpu i feintioli gweithgareddau mewn gwasanaethau awdurdodau lleol.

Mae pob un o’r metrigau yn y Fframwaith perfformiad a gwella ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol: arweiniad ychwanegol 2024 i 2025 yn dod gyda diffiniad technegol manwl.

Cafodd y diffiniadau hyn eu datblygu gan is-grŵp Adrodd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, gweithiodd gydag arbenigwyr data a gwybodaeth awdurdodau lleol. Mae Grŵp Data a Pherfformiad Plant a Grŵp Data a Pherfformiad Oedolion bellach yn disodli'r is-grŵp Adrodd Cenedlaethol. Mae'r grwpiau’n cyfarfod yn reolaidd i adolygu'r casgliadau data sy'n rhan o'r Fframwaith Perfformiad a Gwella.

Mae’r diffiniadau wedi cael eu cynllunio i'w defnyddio gan arbenigwyr data a gwybodaeth awdurdodau lleol. Maen nhw wedi'u datblygu i greu dealltwriaeth gyffredin o ba ddata y mae Llywodraeth Cymru yn eu casglu ar gyfer pob metrig a sut mae'n cael eu cyfrif. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod yr un data yn cael eu casglu ledled Cymru.

Holiaduron ac arolygon

Top tips: developing a survey or questionnaire - Age UK

Mae'r adnodd hwn yn rhoi arweiniad a chyngor ymarferol ar ddylunio arolwg neu holiadur.

Data collection tips: developing a survey - Innovation Network

Dewch o hyd i arweiniad clir ar sut i ddatblygu arolwg, gan gynnwys cyngor arbennig o ddefnyddiol am eiriad cwestiynau. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol ar gyfer datblygu holiaduron.

Llyfrgell adnoddau: holiaduron - Clear Horizon Academy

Mae tabl defnyddiol yn cymharu gwahanol ddulliau cyflwyno ar gyfer holiaduron ac arolygon. Mae hefyd yn disgrifio'r broses o ddylunio a chynnal holiadur ac arolwg. Mae'r adnodd yn rhad ac am ddim ond mae angen i chi gofrestru i gael mynediad at y wybodaeth.

Methodoleg treialu

Mae'r defnydd o arbrofion mewn gofal cymdeithasol yn gymharol gyfyngedig. Ond mae cynnal treial yn gallu bod yn ddefnyddiol ar adegau.

Galluedd a chydsyniad mewn ymchwil - Canolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd

Mae'r wefan hon yn cefnogi ymchwilwyr sy'n gwneud ymchwil (yn benodol, treialon) gydag oedolion nad oes ganddyn nhw alluedd. Ond mae hefyd yn berthnasol i eraill sy'n cynnal ymchwil a gwerthuso. Mae adnoddau defnyddiol i gefnogi cyfathrebu mewn cyd-destunau gwahanol: Y Fframwaith Diffyg Galluedd i Gydsynio INCLUDE a hyfforddiant e-ddysgu Consult.

Designing and conducting experimental and quasi-experimental research - Prifysgol Talaith Colorado

Mae'r cyflwyniad hwn i ymchwil arbrofol yn rhoi arweiniad ar sut i baratoi a chynnal arbrawf neu dreial clinigol. Mae ganddo hefyd adran ar yr ystyriaethau moesegol wrth wneud y math hwn o ymchwil.

Dulliau economaidd

Mae dulliau economaidd gwahanol yn gallu cael eu defnyddio mewn ymchwil a gwerthuso. 

Pecyn cymorth VfM - Prifysgol Rhydychen

Dyma daenlen Excel sy’n helpu i gynllunio gwasanaethau, gan ganolbwyntio ar gyfrifo costau gwasanaeth a gwerth ariannol canlyniadau. Mae elfennau gall helpu timau i feddwl am sut i gyfrifo costau a chanlyniadau mewn gwerthusiadau. Mae canllaw a fideo yn rhan o’r adnodd.

Starting out on SROI - Social Value UK

Cyflwyniad byr i Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI). Mae SROI yn fath o werthusiad economaidd sy'n edrych ar y gwerth cymdeithasol sy’n cael ei greu.

A guide to SROI - Social Value UK

Mae’r ddogfen hon yn rhoi mwy o fanylion am sut i fesur, rheoli a rhoi cyfrif am werth cymdeithasol ac effaith gymdeithasol gan ddefnyddio ymagwedd SROI.

Dadansoddi data

Yn ogystal â dadansoddi data trwy ddefnyddio ystadegau disgrifiadol (er enghraifft, pa mor aml y mae rhywbeth yn digwydd), efallai y byddwch chi hefyd am gynnal rhai profion ystadegol. 

Gall profion ystadegol eich helpu i ddarganfod pethau fel, os yw canlyniadau wedi gwella ar ôl ymyriad. Gall yr adnoddau hyn eich helpu i gynnal eich dadansoddiad data:

Understanding and using statistical methods - Prifysgol Talaith Colorado

Mae'r adnodd hwn yn rhoi esboniadau manwl o dermau ystadegol a'r prif fathau o ddadansoddiadau. Mae'n ymdrin ag ystadegau disgrifiadol, cydberthnasau, a dadansoddi gwahaniaethau rhwng grwpiau.

Mae cyflwyniad byr i ystadegau disgrifiadol sylfaenol, gan gynnwys amleddau, amrediad, gwyriad safonol, canolrif, modd a chymedr.

Glossary of key data analysis terms - Wilder Research

Mae'r ddogfen fer hon yn rhoi esboniadau defnyddiol o dermau ystadegol sy'n ymwneud ag ystadegau disgrifiadol, samplu, ac arwyddocâd. Mae'r rhestr termau hefyd yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am brofion ystadegol.