Skip to Main content

Ble i fynd am ragor o gymorth

Cyfleoedd dysgu

Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth, Prifysgol Abertawe

Mae'r academi dysgu dwys hon wedi'i hanelu at arweinwyr ac uwch reolwyr sydd â diddordeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar werth.

Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella

Datblygodd Gofal Cymdeithasol Cymru yr adnodd hwn er mwy creu cyfle hawdd a syml i bobl ddod o hyd i wybodaeth ar sut i wella eu sgiliau yn y meysydd hyn.

Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu ystod o gynlluniau gwobrau ymchwil personol yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer mentora, dysgu unigol a dysgu gan gymheiriaid.

Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP)

Mae DEEP yn hyrwyddo'r defnydd o bob math o dystiolaeth i wella ymarfer gofal cymdeithasol. Mae cyrsiau hyfforddi yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn i gefnogi'r defnydd o dystiolaeth yn ymarferol. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth cyrsiau ar ein tudalen digwyddiadau.

Defnyddio gwybodaeth wrth ymarfer

Mae tim symudedd gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnig ystod o gefnogaeth gan gynnwys cefnogaeth wedi'i deilwra, sesiynau dysgu a digwyddiadau.

Rhaglen meithrin gallu ymchwil

Mae'r rhaglen hon yn cefnogi pobl i fynd i mewn i ymchwil academaidd ac yn helpu ymchwilwyr presennol i ddatblygu eu gyrfaoedd, ac i ddod yn arweinwyr ymchwil. Mae hefyd yn rhoi cymorth i lunio syniadau ymchwil ac ysgrifennu cynigion ar gyfer prosiectau sy’n cael eu ariannu.

Yr Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe

Mae’r academi’n cefnogi arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol trwy ddysgu ar sail achosion ac ymagweddau ymarfer. Mae amrywiaeth o gyfleoedd dysgu, gan gynnwys cyrsiau rhagarweiniol hyblyg (ar-lein ac yn bersonol).
 

Centres and teams you can contact

Parnteriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE)

Mae'r ganolfan hon yn cefnogi ymchwil ar bob agwedd ar ofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc.

ENRICH Cymru

Rhwydwaith ar gyfer cartrefi gofal ac ymchwilwyr sy'n cefnogi ac sy'n hyrwyddo ymchwil sy'n berthnasol i'r sector cartrefi gofal.

Economeg Iechyd a Gofal Cymru (EIGC)

Gall ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy'n cynnal prosiect ymchwil sy’n cael ei ariannu gael cymorth gyda dadansoddi economaidd.

Tîm ymgysylltu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae'r tîm yn darparu cyngor, cymorth, ymchwil, a hyfforddiant ar sut i gynnwys y cyhoedd, pobl sy'n defnyddio gwasanaethau, a gofalwyr di-dâl ym meysydd ymchwil a gwerthuso.

Mae'r dudalen hon yn rhestru cymorth ac arweiniad i ymchwilwyr, gan gynnwys gwybodaeth am gynlluniau a chyfleoedd ariannu, hyfforddiant, a llyfrgell ddogfennau.

Gofal Cymdeithasol Cymru - Cymuned Dystiolaeth

Mae'r gymuned hon yn ofod i ymarferwyr, ymchwilwyr, a phobl sydd â phrofiad personol o ofal a chymorth i ddod at ei gilydd trwy ddiddordeb cyffredin mewn ymchwil a thystiolaeth. Mae cyfleoedd i archwilio tystiolaeth, trafod pynciau perthnasol a chydweithio.

Cefnogaeth Gwerthuso Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gennym wasanaeth penodol sy'n cynnig hyfforddiant drwy'r flwyddyn ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Rydyn ni hefyd yn cynnig cefnogaeth wedi'i deilwra.

Canolfannau Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella (RIICHs)

Mae'r rhain yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu rhwydwaith sy’n cael ei gydlynu’n genedlaethol i helpu i ddatblygu modelau newydd o iechyd a gofal. Mae’r canolfannau, sydd wedi’u lleoli ledled Cymru, yn cydlynu gweithgarwch ymchwil, arloesi a gwella: