Adrodd ar eich canfyddiadau
Gall yr adnoddau rydyn ni wedi'u rhestru yma helpu wrth gynhyrchu adroddiadau a rhannu tystiolaeth yn glir ac yn effeithiol.
Mae'r canllawiau cyffredinol yn fan cychwyn, ond rydyn ni hefyd wedi rhestru canllawiau mwy penodol i helpu gydag ysgrifennu adroddiadau, cyflwyno data meintiol, a rhannu canfyddiadau trwy ddeialog.
Canllawiau cyffredinol
Pecyn cymorth effaith - Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol
Mae'r pecyn cymorth effaith hwn yn cynnwys cyngor ar adrodd ar ganfyddiadau.
Top tips to communicate research effectively - Fforwm Ymchwil Trydydd Sector yr Alban (TSRF)
Mae’r ddogfen tair tudalen hon wedi’i hysgrifennu mewn iaith glir ac yn rhoi syniadau am wahanol ffyrdd o gyflwyno canfyddiadau.
Evaluation Support Scotland (ESS)
Mae Evaluation Support Scotland wedi creu dau adnodd sy’n darparu gwybodaeth am gyfleu canlyniadau gwerthusiadau a mathau eraill o ymchwiliadau:
Mae'r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am gynllunio adroddiad a'i roi at ei gilydd. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar adrodd ar ganfyddiadau meintiol ac ansoddol a thynnu sylw at y prif ganlyniadau.
Mae rhan dau o’r ddogfen hon yn cynnwys rhai syniadau defnyddiol am sut i gyfleu tystiolaeth er mwyn newid polisi ac arfer. Cafodd ei ddatblygu gan ddefnyddio profiad ymarferwyr, llunwyr polisi, ymchwilwyr a chyllidwyr ac mae'n hynod ymarferol. Mae'n darparu rhai egwyddorion i'w hystyried wrth geisio dylanwadu ar bolisi.
Llunio adroddiadau
Reporting research findings - Wilder Research
Mae'r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am baratoi adroddiadau ysgrifenedig. Mae awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cyflwyno data rhifiadol ac ansoddol.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys trosolwg o ba adrannau gall cael eu cynnwys mewn adroddiad.
Cyflwyno data meintiol
A guide to presenting statistics - Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys llawer o gyngor ac awgrymiadau. Mae adrannau ar gyflwyno data mewn tablau a siartiau gydag enghreifftiau o gyflwyniadau 'da' a 'drwg', ac arweiniad ar arddull ysgrifennu a geiriad.
The ONS content style guide: a guide to communicating statistics - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae sawl adran i'r canllaw hwn. Mae un ar iaith sy'n cynnwys awgrymiadau ar eiriau ac ymadroddion i'w defnyddio a'u hosgoi. Mae un sy'n nodi sut i ysgrifennu a fformatio rhifau'n gywir. Mae hefyd adran ar fathau o gynnwys, er enghraifft cynnwys aml-gyfrwng. Mae hwn yn rhoi arweiniad ar gynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, megis sut i strwythuro negeseuon byr ar X. Mae gwybodaeth hefyd am bryd a sut i ddefnyddio diagramau.
Rhannu canfyddiadau trwy ddeialog
Canllaw ar ddull Gymuned Ymholi - Iriss
Mae hwn yn ganllaw ymarferol, cam wrth gam, ar ddefnyddio dull Cymuned Ymholi.
Mae llawer o ffyrdd eraill o rannu canfyddiadau ac mae gan wefan DEEP
ragor o wybodaeth ac adnoddau ar ddulliau sy'n seiliedig ar ddeialog.
The implementation art gallery, Applied Research Collaboration, Dwyrain Lloegr
Mae'r adnodd hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio dull cymuned ymarfer. Mae'r wefan yn rhyngweithiol ac yn cynnwys cysylltiadau i adnoddau pellach a llyfr gwaith defnyddiol. Gallwch chi hefyd lawrlwytho'r cynnwys fel PDF.