
Egwyddor 4: mae gan ddiwylliant cadarnhaol berthnasoedd da ar sail cryfderau
Dyddiad diweddaru diwethaf: 9 Meh 2025
Beth yw ymarfer ar sail cryfderau?
Ymarfer ar sail cryfderau yw ffordd o gefnogi pobl sy’n seiliedig ar berthnasoedd. Mae weithiau’n cael ei alw’n:
- dull perthnasoedd neu berthynol o weithio
- ymarfer ar sail canlyniadau
- dull person-ganolog (o weithio)
- cael sgwrs ‘beth sy’n bwysig’
- cydbwyso hawliau a chyfrifoldebau.
O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae angen i ni ganolbwyntio ar lesiant pobl a’u gwneud yn ganolog i gynllunio eu gofal a’u cymorth.
Mae sefydliadau sy’n gweithio ar sail cryfderau’n gweithio gyda sectorau eraill i ddylunio a darparu gofal a chymorth o ansawdd gwell. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau sy’n cael eu rhedeg gan ddefnyddwyr a’r gymuned.
Beth y mae ymarfer ar sail cryfderau’n edrych fel?
Mae ymarfer ar sail cryfderau’n canolbwyntio ar siarad, trafod a gwrando:
- ar gryfderau’r person a gefnogwn, sy’n cynnwys:
- beth y maen nhw’n gallu ei wneud yn barod, eu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad
- y pethau sy’n bwysig iddyn nhw fel eu gwerthoedd, diddordebau a’u perthnasoedd
- beth y mae person yn poeni amdano ac unrhyw risg i’w diogelwch a’u llesiant
- sut y gall pawb, fel y person ei hun, eu teulu a’r bobl sy’n rhoi gofal neu gymorth, yn gallu helpu i ymdopi ag unrhyw newid i anghenion y person a chadw pawb mor ddiogel â phosib ar yr un pryd
- gweithio gyda’r person, eu teulu, ffrindiau a rhwydweithiau cymunedol i ddeall a chynllunio beth sydd angen iddo ddigwydd i gynnal eu llesiant er mwyn gallu byw’r bywyd gorau posib.
- Gelwir hyn hefyd yn ‘gosod canlyniadau’ neu ‘gosod amcanion personol’.
Mae deall beth yw cryfderau person yn golygu cael sgyrsiau cefnogol am beth sy’n bwysig i’r bobl y gofalwn amdanynt a gweithiwn gyda nhw. Mae hyn yn cynnwys ein sgyrsiau gyda chydweithwyr yn y sefydliad a gyda’n partneriaid.
Sut y mae adnabod cryfderau’n cefnogi diwylliant cadarnhaol?
Mae ymarfer ar sail cryfderau:
- yn ein helpu i wrando ar, gwerthfawrogi a deall y bobl a gefnogwn, sy’n:
- gallu rhoi llais, dewis a rheolaeth iddyn nhw mewn penderfynu a chynllunio eu gofal a’u cymorth
- gadael i ni eu cydnabod a’u gwerthfawrogi fel unigolion
- ein helpu i’w cadw’n ddiogel a’u cefnogi.
- yn ein helpu i greu cyswllt gwell gyda’r bobl y gweithiwn gyda nhw, sy’n:
- rhoi cyfle i ni ddeall y gwahanol sgiliau a phrofiadau y maen nhw’n eu cyfrannu
- adnabod y pethau yn ein systemau a phrosesau sy’n rhwystr i ddarparu a sicrhau gofal a chymorth gwell
- gadael i ni weithio gyda’n gilydd i feddwl am ffyrdd creadigol a gwahanol o weithio fel bod pobl yn gallu gwneud y pethau sy’n hybu eu llesiant orau
- eu helpu i deimlo o werth fel unigolion
- gwella hyder ac ymddiriedaeth ar bob ochr.
- gallu creu gweledigaeth gyffredin o sut beth yw llwyddiant.
Ble i gael gwybod mwy
Dyma ddolenni at wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i ddechrau gweithio mewn ffordd ar sail cryfderau.
Efallai na fydd rhai o'r dolenni hyn ar gael yn ddwyieithog neu mewn fformat hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am gynnwys a gynhyrchir gan sefydliadau eraill.
Pecyn gofal perthynol – Y Brifysgol Agored
Mae’r pecyn hwn i bawb sy’n rhan o ofalu am bobl hŷn. Gellir defnyddio’r pecyn mewn gwahanol ffyrdd gan ddibynnu ar eich amser, eich rôl a beth yr ydych am ei gael allan ohono. Gallech ei ddefnyddio fel rhan o raglen ddysgu unigolyn neu grŵp ffurfiol, grŵp trafod, neu gyfarfod tîm.
Gwella ansawdd fel Unigolyn Cyfrifol: gwreiddio ymarfer ar sail cryfderau – Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae’r fideo hyfforddi yma’n egluro sut y gall Unigolion Cyfrifol (RI) a rheolwyr hyrwyddo ymarfer ar sail cryfderau o weithio i wella ansawdd gwasanaethau.
Canllaw i gael sgwrs 'Beth sy'n Bwysig' – Gofal Cymdeithasol Cymru
Yn egluro sut i ddarganfod beth sy’n bwysig i’r person yr ydych yn gweithio gyda nhw, sut i gytuno ar ganlyniadau, dod i wybod beth yw eu cryfderau a gyda beth y maen nhw angen cymorth.