
3. Sut i ddefnyddio’r canllaw hwn
Dyddiad diweddaru diwethaf: 9 Meh 2025
Mae’r canllaw hwn yn egluro egwyddorion diwylliannau cadarnhaol. Mae diwylliannau cadarnhaol yn hybu llesiant pobl sy’n defnyddio neu’n gweithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a’u helpu i ffynnu.
Nid yw ymddygiad a gwerthoedd yr egwyddorion yn newydd – maen nhw wedi eu gwreiddio mewn dyletswyddau cyfreithiol a safonau proffesiynol.
Ond daw’r egwyddorion â’r dystiolaeth, ymddygiad a’r gwerthoedd at ei gilydd gan ddangos eu bod i gyd yn cyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol.
Mae pob egwyddor yn y canllaw’n bwysig ar ben ei hun. Ond drwy eu defnyddio gyda’i gilydd, gallwn ni helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
Mae’r canllaw’n cynnwys dolenni at adnoddau, rhaglenni a dulliau i’ch helpu i weithredu’r
egwyddorion. Dylech ddefnyddio’r canllaw’n hyblyg i gwrdd ag anghenion eich sefydliad.
Gallwch ei ddefnyddio:
- i flaenoriaethu llesiant a’r pethau sy’n bwysig i bobl a’r staff sy’n cefnogi’r bobl hyn
- i ennill cyd-ddealltwriaeth o ddiwylliannau cadarnhaol fel y gallwn weithio gyda’n gilydd i
sicrhau bod gofal cymdeithasol y gorau y gall fod - i greu diwylliant sy’n gweld gwerth mewn dysgu a gwella’n barhaus, trwy:
- rhannu’r pethau sy’n gweithio
- ddysgu os bydd pethau’n mynd o’i le
- newid pethau sydd ddim yn gweithio.
Byddwn ni’n defnyddio data o ymchwil, ac o brofiadau a chanlyniadau pobl, i barhau i ddatblygu’r
canllaw hwn.
Mae’r canllaw’n ategu:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a'i gwerthusiad
- Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
- Y Rhaglen Cydbwyso Gofal a Chymorth
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol a Deddf Cydraddoldeb 2010
- Mwy na Geiriau – Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
- Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth: Cod Ymarfer
- y fframwaith Mae eich llesiant yn bwysig
- Y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
Yr egwyddorion
Mae gan y canllaw chwe rhan. Mae adnoddau a dulliau i’ch helpu i ddefnyddio’r egwyddorion, ac enghreifftiau o sut y defnyddiodd bobl eraill yr egwyddor honno yn eu gwaith.
Mae pum egwyddor:
- mae diwylliannau cadarnhaol yn gwarchod, hyrwyddo a chefnogi hawliau pobl
- mae gan ddiwylliannau cadarnhaol arweinwyr tosturiol
- mae diwylliannau cadarnhaol yn rhannu gwerthoedd ac ymddygiad cadarnhaol
- mae gan ddiwylliannau cadarnhaol berthnasoedd da ar sail cryfderau
- mae diwylliannau cadarnhaol yn cefnogi dysgu, datblygiad a gwella parhaus.
Rhaid i bob un o’r egwyddorion hyn gael eu cynnal gan systemau a phrosesau sy’n hyrwyddo diwylliant cadarnhaol. Eglurwn sut y gallai hyn weithio ar ddiwedd y canllaw.
Mae pob un yn dibynnu ar ei gilydd, gyda phawb a phopeth yn gweithio tuag at un pwrpas cyffredin.
Sut wnaethon ni ddatblygu’r egwyddorion
Mae ymchwiliadau proffil uchel, gan gynnwys yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, Winterbourne View ac Operation Jasmine, i gyd wedi dangos beth sy’n gallu digwydd i bobl pan fydd diwylliant eu gwasanaethau’n wael.
Fe wnaethon ni ofyn i’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE) ymchwilio i dystiolaeth am beth y mae diwylliant cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol yn ei olygu.
Mae’r canllaw hwn yn seiliedig ar yr ymchwil yma ac ar sgyrsiau gyda’n partneriaid, gan gynnwys:
- y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol
- arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru
- ADSS Cymru
- cynrychiolwyr awdurdodau lleol neu benaethiaid gwasanaethau plant ac oedolion
- y Comisiynydd Pobl Hŷn
- Comisiynydd Plant Cymru
- Gyrfa Cymru.
Dangosodd ymchwil SCIE:
- fod tystiolaeth a chysylltiad clir rhwng diwylliant cadarnhaol a chanlyniadau da i bobl (sy’n
defnyddio gwasanaethau a’r bobl sy’n eu cefnogi) - mai diwylliant cadarnhaol yw sylfaen gofal o ansawdd da
- bod angen i ni roi ffocws ar hawliau pobl wrth ddatblygu diwylliant cadarnhaol
- bod gan wahanol fodelau gofal egwyddorion cyffredin ond nad yw’r un model penodol yn
‘gwneud y cwbl’ - bod adnoddau i helpu i gefnogi diwylliant cadarnhaol ond nad yw’r wybodaeth ar gael mewn
un lle - bod arweinyddiaeth yn ganolog i greu a chynnal diwylliant cadarnhaol mewn gofal
cymdeithasol - bod angen i’r sector gydweithio i gyflawni’r pethau sy’n bwysig i bobl.
Yn ôl papur briffio SCIE Arweinyddiaeth mewn gofal cymdeithasol ar sail cryfderau:
“Er mwyn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol, rhaid i ni sicrhau bod ein systemau a phrosesau’n berthnasol i bobl a staff.
“Mae hyn yn cynnwys newid arferion, systemau a phrosesau er mwyn symud y ffocws o fod ar ddiffygion a gwasanaethau i fod ar ganlyniadau ar sail lle, wedi eu personoli.”
Darllenwch ymchwil SCIE i gefnogi diwylliannau gofal cymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru.
Gallwch ddarllen adolygiad ymarfer Operation Jasmine ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.