Skip to Main content

Egwyddor 1: mae diwylliannau cadarnhaol yn gwarchod, hyrwyddo a chefnogi hawliau pobl

Dyddiad diweddaru diwethaf: 9 Meh 2025

Gwrandewch ar Abyd yn siarad am warchod, hyrwyddo a chefnogi hawliau pobl mewn diwylliant cadarnhaol.   

Mae gwarchod, hyrwyddo a chefnogi hawliau wrth galon pob gofal cymdeithasol. Mae’n cynnwys gwarchod pobl sydd mewn perygl o gael niwed neu eu cam-drin.

Mae gan bobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol ddyletswydd gyfreithiol i warchod hawliau pobl o dan: 

Beth yw dull hawliau o weithio?

Mae dull hawliau o weithio’n golygu:

  • gwarchod hawliau dynol
  • gwerthfawrogi profiad byw pobl, parchu eu llais, eu dewis a’u rheolaeth
  • rhoi’r cymorth wedi’i bersonoli sydd ei angen ar bobl i gyflawni beth sy’n bwysig iddyn nhw
  • gwerthfawrogi amrywiaeth a meddwl sut fydd polisïau ac arferion yn effeithio ar bobl gyda
    nodweddion a warchodir – yn enwedig pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau neu’n siarad
    gyda phobl am gymorth
  • sicrhau bod pobl yn cael llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw
  • cofio beth sydd angen i ni ei wneud i gwrdd â’n cyfrifoldebau a ddisgrifir yn y ddeddfwriaeth
    gydraddoldeb a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • symud o safiad o beidio â gwahaniaethu (gwarchod) tuag at wrth-wahaniaethu rhagweithiol
  • chwilio am ffyrdd o hyrwyddo a gwella hawliau pobl a newid sut y gwnawn bethau, er lles pawb
  • edrych ar arferion, polisïau a rheolau sefydliadau i sicrhau nad ydyn nhw’n arwain at ganlyniadau annheg a gwahaniaethu sefydliadol
  • arwain mewn ffordd sy’n annog cydweithrediad, yn fewnol ac allanol, i sicrhau ein bod i gyd yn gwarchod hawliau pobl (a elwir weithiau’n ‘ddull system-gyfan’)
  • sicrhau bod gan bobl waith teg gan gynnwys cyflog teg a recriwtio teg.

Sut y mae dull hawliau o weithio’n arwain at ddiwylliant cadarnhaol?

Drwy roi pwyslais ar hawliau ym mhopeth a wnawn, gallwn greu diwylliannau cadarnhaol i’r bobl y
rhown ofal a chymorth iddyn nhw, ac i’n staff.

Mae gweithio ar sail hawliau’n cael effaith bositif ar y bobl y rhown ofal neu gymorth iddyn nhw.

Mae hyn fel y gall pawb sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol:

  • cydnabod, gwarchod a hyrwyddo hawliau pobl
  • cynnig llais, dewis a rheolaeth i bobl yn eu gofal neu gymorth
  • cydnabod a deall blaenoriaethau pobl
  • newid gwasanaeth, ymddygiad neu bolisi fel eu bod yn cynnal hawliau pobl
  • annog pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain a chymryd risgiau cadarnhaol
  • cynnig gwasanaethau cynaliadwy gan staff gofal cymdeithasol ymroddedig ac wedi eu
    grymuso.

Mae dull hawliau hefyd yn creu diwylliant cadarnhaol i’r bobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol drwy eu helpu i:

  • gael llais yn y pethau sy’n effeithio arnynt yn y gwaith
  • cael gwaith teg sy’n cynnwys cyflogau ac amodau gwaith teg
  • sicrhau bod eu hawliau wedi eu gwarchod
  • cael cymorth pan fo’i angen arnyn nhw
  • teimlo’n hapusach ac iachach yn y gwaith fel eu bod yn fwy tebygol o aros yn hirach â’u cyflogwr a gyda chymhelliad i roi gofal gwell
  • bod yn rhan o dimau cryfach sy’n seiliedig ar ymddiried, hyder a’r hawl i bobl wrando arnyn nhw a’u parchu, ac i deimlo’n ddiogel
  • canolbwyntio ar adnabod a deall hawliau pobl eraill.
    • Mae hyn yn annog perthnasoedd gweithio gwell a helpu pobl mewn gofal cymdeithasol i gydbwyso eu rôl a’u cyfrifoldebau’n hyderus.

Ble i gael gwybod mwy

Dyma ddolenni at wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i weithio mewn dull hawliau er mwyn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol.

Efallai na fydd rhai o'r dolenni hyn ar gael yn ddwyieithog neu mewn fformat hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am gynnwys a gynhyrchir gan sefydliadau eraill.

Fideo person ifanc – Gofalwn Cymru
Mae’r fideo yma’n dangos sut y defnyddiodd weithiwr cymorth ddull perthnasoedd o weithio i helpu person ifanc i wneud yn siŵr bod ei hawliau’n cael eu cwrdd a’u cydnabod. Drwy weithio mewn amgylchedd gwaith cadarnhaol, cefnogol a diogel, gall y gweithiwr cymorth sicrhau’r canlyniadau llesiant gorau i’r person ifanc.

Adnoddau – My home life
Adnoddau a dysgu, gan gynnwys arferion gorau a hanesion llwyddiant, am sut i hyrwyddo a gwarchod hawliau pobl hŷn mewn cartrefi gofal.

Gwerthusiad y Rhaglen Cydbwyso Gofal a Chymorth  Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE)
Yn egluro sut y gallwch gydbwyso hawliau a chyfrifoldebau a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i gynnal hawliau a gwneud beth sy’n bwysig i bobl. 

Yr un mor rhagorol: cydraddoldeb a hawliau dynol - enghreifftiau o arfer da – Y Comisiwn Ansawdd Gofal
Yn egluro sut y mae ffocws ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn helpu i wella ansawdd gofal.

Y ffordd gywir: dull hawliau plant – Comisiynydd Plant Cymru
Mae’r fideo yma’n egluro beth y mae’r Comisiynydd wedi’i wneud i gyflwyno dull hawliau plant o wneud penderfyniadau, creu polisi ac ymarfer.

Ein hymrwymiad i hybu a chynnal hawliau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Yn egluro cyfrifoldeb cyfreithiol a dull AGC o arolygu sut y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant yn cael eu rhedeg. 

Gwybod eich hawliau: canllaw syml Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Canllaw i bobl hŷn ac i unrhyw un sy’n cefnogi person hŷn.

Hawliau dynol, dewis a rheolaeth wrth gynllunio gofal – SCIE 
Yn egluro fframwaith y Ddeddf Galluedd Meddyliol ar gyfer gwarchod hawliau dynol, dewis a rheolaeth. Mae hefyd yn egluro cyfrifoldebau comisiynwyr a darparwyr i gynnal a gwarchod hawliau pobl yn y gweithle ac mewn lleoliadau gofal.