
Egwyddor 5: mae diwylliant cadarnhaol yn cefnogi dysgu, datblygu a gwella parhaus
Dyddiad diweddaru diwethaf: 9 Meh 2025
Gwrandewch ar Sarah yn siarad am gefnogi dysgu, datblygu a gwella parhaus mewn diwylliant cadarnhaol.
Beth y mae cefnogi dysgu, datblygu a gwella parhaus yn ei olygu?
Gallwn gefnogi dysgu, hyfforddiant a datblygiad drwy:
- gymryd amser i fyfyrio ar beth sy’n gweithio’n dda a chynnwys pobl sy’n derbyn gofal neu gymorth, partneriaid a staff i weld beth sydd angen i ni ei wella
- cynnwys ymarfer myfyriol yn ein sgyrsiau
- dysgu o adborth gan y bobl y rhown ofal a chymorth iddyn nhw
- dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol
- deall pam ei bod yn bwysig parhau i wella
- meddwl am ffyrdd newydd o wneud pethau fel bo’r bobl y rhown ofal neu gymorth iddyn nhw yn cael canlyniadau da
- ymrwymiad i weithio gyda phobl sy’n defnyddio a gweithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol
- ymrwymiad i ddysgu a datblygiad staff
- bod yn barod i ddysgu gan eraill a gweld sut y mae pobl eraill yn gwneud pethau
- gofyn i staff pa ddysgu a datblygu sydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith yn dda, a chreu cyfleoedd ar gyfer dysgu
- creu ‘lle’ i staff gael rhannu’r pethau y maen nhw wedi’i ddysgu
- deall beth y mae staff yn ei wybod yn barod a pha fylchau sydd efallai yn eu sgiliau neu brofiad
- cadw ar y blaen i ddyletswyddau cyfreithiol a chanllawiau statudol.
O dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, rhaid i ddarparwyr gwasanaeth fod â threfniadau clir ar gyfer gwirio ansawdd eu gwasanaeth yn barhaus.
Rhaid i ddarparwyr gwasanaeth hefyd brofi bod eu gwasanaeth yn gweithio’n unol â gofynion cyfreithiol a’i ddatganiad o bwrpas, a’i fod yn cefnogi pobl yn briodol.
Dylai gwasanaethau ddefnyddio eu gwybodaeth monitro i barhau i ddatblygu a gwella’r gwasanaeth.
Sut y mae cefnogi dysgu, datblygu a gwella parhaus yn arwain at ddiwylliant cadarnhaol?
Drwy gefnogi dysgu, datblygu a gwella parhaus, gallwch:
- wella llesiant, oherwydd:
- mae pobl yn teimlo bod ganddynt lais, bod rhywun yn gwrando arnyn nhw a’u bod yn gallu cyfrannu mewn ffordd ystyrlon
- mae gan staff y sgiliau a’r hyfforddiant i wneud eu gwaith yn hyderus a theimlo’n barod yn eu gwaith
- mae staff yn teimlo bod gan eraill ffydd ynddyn nhw i wneud gwaith da ac yn gallu ffynnu yn eu gwaith
- mae staff yn teimlo’n well am eu hunain ac yn ymddiried yn eu cydweithwyr.
- gwella ansawdd eich gwasanaethau, oherwydd:
- mae cyfleoedd rheolaidd i fyfyrio, dysgu a gwella
- mae staff yn fwy gwybodus neu brofiadol ac felly’n debygol o fod yn gallu cefnogi pobl yn y ffyrdd gorau posib
- gall staff roi cynnig ar syniadau newydd, atebion arloesol a ffyrdd newydd o weithio sy’n darparu gwasanaethau mwy effeithiol
- drwy roi cynnig ar bethau newydd a dysgu gan eraill, gall staff weld cyfle i adeiladu a gwella
- mae arweinwyr yn deall cryfderau’r sefydliad a beth y gall ei gynnig i bartneriaid a’r bobl a gefnogir ganddo.
- cael effaith bositif ar farn pobl eraill am y sefydliad, oherwydd:
- bydd yn denu ymgeiswyr mwy talentog ac ymroddedig (gan gynnwys arweinwyr a rheolwyr y dyfodol)
- gall gofal a chymorth cyson wneud i bobl deimlo’n fwy agored i weithio gyda staff gofal cymdeithasol i gyflawni beth sy’n bwysig iddyn nhw
- mae pobl yn siarad yn dda am eu sefydliad a’u rôl.
Ble i gael gwybod mwy
Dyma ddolenni at wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i ddechrau cefnogi dysgu a datblygu er mwyn creu diwylliant cadarnhaol.
Efallai na fydd rhai o'r dolenni hyn ar gael yn ddwyieithog neu mewn fformat hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am gynnwys a gynhyrchir gan sefydliadau eraill.
Y Grŵp Gwybodaeth
Tystiolaeth a chymorth i’ch helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol.
Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella (RII) – Y Grŵp Gwybodaeth
Mae’r adnodd hwn yn eich helpu i ddod o hyd i hyfforddiant ac adnoddau perthnasol i wella eich sgiliau ymchwil, arloesi a gwella. Mae’n cynnwys dolenni at gyfleoedd defnyddiol, wedi eu grwpio’n bedair themâ allweddol: defnyddio tystiolaeth, gwella ac arloesi, gwerthuso eich gwaith, llunio diwylliant.
Goruchwylio myfyriol: canllaw ymarfer gorau – Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol (SWU)
Fframwaith ar gyfer myfyrio a datrys problemau gwaith cymdeithasol.
Pecyn effaith datblygiad a chi (DIY) – Nesta
Pecyn ar ddyfeisio, mabwysiadu neu addasu syniadau i roi canlyniadau gwell. Gyda 30 o adnoddau arloesi cymdeithasol ymarferol y gallwn eu defnyddio’n sydyn a syml.