Skip to Main content

Cefnogi diwylliannau cadarnhaol: rhestr ddarllen

Dyddiad diweddaru diwethaf: 9 Meh 2025

Cyfweliad Operation Jasmine: profiad un teulu – Cysur Wales
Cyfweliad gyda Loraine Brannan, aelod uniongyrchol o deulu un o’r dioddefwyr yn gysylltiedig ag Operation Jasmine.

Digwyddiad myfyrio a dysgu cwest Operation Jasmine – Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae’r weminar yma’n egluro prif themâu a negeseuon o In search of accountability: a review of the neglect of older people living in care homes a ymchwiliwyd iddo fel Operation Jasmine. 

Beth i'w wneud a pheidio ei wneud wrth ofalu: animeiddiad pobl ifanc – Cysur Wales
Fideo a ddyluniwyd i gael ei defnyddio fel rhan o hyfforddiant diogelu i ymarferwyr. 

Canllaw i Unigolion Cyfrifol ar ymweliadau statudol â gwasanaethau a reoleiddir – Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Cyngor ac eglurder i ddarparwyr cofrestredig, Unigolion Cyfrifol (RI) ac arolygwyr AGC ar y disgwyliadau’n gysylltiedig ag ymweliadau chwarterol gan RI â gwasanaethau a reoleiddir.  

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol: diweddariad 2024  Llywodraeth Cymru
Mae’r cynllun yn adlewyrchu ymrwymiad cadarn Llywodraeth Cymru i greu cymdeithas gynhwysol a theg i’n holl bobl a chymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yng Nghymru.

Hyfforddiant diogelu  Gofal Cymdeithasol Cymru
Adnoddau i’ch helpu i weithredu’r Safonau cenedlaethol ar hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu.    

Ymchwiliad cartrefi gofal John Kennedy – Sefydliad Joseph Rowntree
Adroddiad yn ymchwilio i gartrefi lle y mae perthnasoedd a risgiau’n cael eu rheoli’n dda a beth sydd angen iddo newid i wella gwasanaethau i breswylwyr cartrefi gofal. 

Ymarfer myfyriol mewn gwaith cymdeithasol – Amddiffyn Plant Effeithiol
Cyfres o sgyrsiau fideo’n trafod ymarfer myfyriol. 

Canllawiau: defnyddio tystiolaeth fel sail ar gyfer gwella – Llywodraeth Cymru
Canllawiau sy’n rhoi syniadau ymarferol am sut i ddefnyddio tystiolaeth fel sail ar gyfer gwella gwasanaethau cymdeithasol ar lefel unigolion, lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth: cod ymarfer  Canllawiau i awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG ar gomisiynu gofal a chymorth. 

Fframwaith perfformiad a gwella ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol: defnyddio tystiolaeth fel sail ar gyfer gwella – Llywodraeth Cymru
Canllawiau i awdurdodau lleol ar ddefnyddio tystiolaeth i asesu perfformiad gwasanaethau cymdeithasol. 

Hoffech chi i ni ychwanegu rhywbeth arall at y rhestr ddarllen hon? 

E- bostiwch diwylliannaucadarnhaol@gofalcymdeithasol.cymru i roi gwybod i ni.