Skip to Main content

1. Ynglŷn â’r canllaw hwn

Dyddiad diweddaru diwethaf: 9 Meh 2025

Rhagair

Mae cymdeithas yn newid ar garlam. Mae’r mathau o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, a’r bobl sy’n rhoi gofal a chymorth iddyn nhw, hefyd yn newid.

Ni allwn roi pwyslais rhy fach ar ddiwylliant sefydliad. Wrth ddiwylliant, golygwn ‘y ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud yma’.

Mae hyn yn cynnwys dull arweinyddiaeth sefydliad, ei werthoedd a’i ymddygiad, systemau a phrosesau a’r partneriaethau sy’n ategu ei ffordd o weithio.

Mae diwylliant ein sefydliadau’n effeithio ar sut rydyn ni’n darparu gofal a chymorth ac ar ansawdd y gwasanaethau – gan gynnwys pa mor dda y cefnogwn ganlyniadau llesiant pobl sy’n derbyn cymorth a gofal, a sut y mae staff yn teimlo am eu gwaith.

Yng Nghymru, mae ein deddfwriaeth – gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 – wedi’i hategu gan ddull cryfderau a hawliau o weithio.

Drwy ddefnyddio’r ddeddfwriaeth yma, gallwn rannu dealltwriaeth ac ymrwymiad i greu a chynnal diwylliannau cadarnhaol fel bo’r bobl sy’n defnyddio neu’n rhoi gofal a chymorth yn gallu ffynnu. 

Gwyddom eich bod eisoes efallai’n datblygu diwylliant cadarnhaol ac yn gwneud pethau i wella ansawdd canlyniadau gofal a llesiant i unigolion.

Pleser mawr felly yw cyflwyno – gyda’n gilydd – y canllaw hwn i’ch helpu i greu, cynnal a gwella diwylliant eich sefydliad.

Mae arweinwyr a rheolwyr yn ganolog i greu a chynnal diwylliant sefydliadol.

Fel arweinwyr yn ein sefydliadau, ymrwymwn i ganolbwyntio ar hawliau a chryfderau pobl. Rydyn ni’n gweithio’n dosturiol i wreiddio diwylliannau cadarnhaol ym mhob agwedd ar ein gwaith – yn unigol a
gyda’n gilydd. Rydyn ni’n falch o’ch helpu chi i wneud yr un peth.

Albert Heaney CBE, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru

Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru

Ynglŷn â’r iaith yn y canllaw hwn

Gwyddom fod iaith yn rhywbeth personol iawn. Credwn mewn dull cryfderau o weithio sy’n trin pobl fel unigolion.

Pan gyd-drafodwn hiliaeth yn y canllaw hwn, gallwn ddefnyddio “profiad pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifol ethnig” neu gallwn ddefnyddio “lleiafrif ethnig”.

Mewn gofal cymdeithasol, mae’n bwysig cefnogi pobl i fynegi eu hunaniaeth yn ôl eu dymuniad. Mae hyn yn ein helpu i greu diwylliant cadarnhaol cryf a chynhwysol.

Mae’n hanfodol i chi siarad a gwrando ar eich staff ac ar y bobl sy’n derbyn gofal a chymorth.

I bwy y mae’r canllaw hwn

Mae’r canllaw hwn i reolwyr ac arweinwyr gofal cymdeithasol. Mae’n cydnabod y gall pobl fod yn arweinwyr ym mhob rôl mewn sefydliad, beth bynnag yw eu statws ffurfiol neu deitl eu swydd.

Mae’r canllaw hwn i bawb sy’n cynllunio, darparu neu wella gwasanaethau gofal cymdeithasol cenedlaethol neu leol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • arweinwyr a rheolwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol
    (gan gynnwys cyrff trydydd sector a sefydliadau sy’n cael eu rhedeg gan eu defnyddwyr)
  • comisiynwyr awdurdod lleol a byrddau iechyd
  • arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru
  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Gofal Cymdeithasol Cymru.