
Egwyddor 3: mae diwylliannau cadarnhaol yn rhannu gwerthoedd ac ymddygiad cadarnhaol
Dyddiad diweddaru diwethaf: 9 Meh 2025
Gwrandewch ar Keri’n siarad am werthoedd ac ymddygiad cadarnhaol mewn diwylliant cadarnhaol, o safbwynt rheolwr.
Gwrandewch ar Josie’n siarad am ei phrofiad o werthoedd ac ymddygiad cadarnhaol mewn diwylliant cadarnhaol, fel aelod o staff.
Yn y fideo hwn, mae Josie yn rhannu sut y cefnogodd ei chyflogwr ei syniad i ddathlu Diwrnod Affrica – cyfle i rannu arferion o wahanol wledydd Affrica – gyda chydweithwyr a'r bobl sy'n cael gofal a chefnogaeth.
Beth yn union yw gwerthoedd ac ymddygiad?
Ein gwerthoedd yw’r pethau y meddyliwn sy’n bwysig. Gan dywys ein gweithredoedd,
penderfyniadau a’n hymddygiad.
Yn aml iawn teimlwn yn gryf am werthoedd a chredoau heb wybod yn iawn pam.
Drwy geisio gwneud pethau ar sail ein gwerthoedd, gallwn ni fod yn fwy ystyriol yn ein hymddygiad a’n hagwedd.
Mae gan bawb wahanol werthoedd gan ddibynnu ar ein cefndir, profiadau neu’r bobl yn ein bywydau.
Er enghraifft: os profwn wahaniaethu, gallwn sylwi pan fydd pobl eraill yn wynebu’r un rhwystrau a theimlo y byddai’n bwysig i ni eu cefnogi.
Er bod angen gwerthfawrogi a pharchu gwahaniaethau, mae diwylliant cadarnhaol yn gosod safonau a disgwyliadau clir ar gyfer staff.
Mae gan rai swyddi ymddygiad a gwerthoedd penodol. Dyma sut y gallai recriwtio ar sail gwerthoedd helpu.
Os ydych yn weithiwr gofal cymdeithasol, er enghraifft, bydd angen i chi ddilyn y Cod Ymarfer Proffesiynol. O dan y Cod, dylai pob gweithiwr:
- helpu pobl sy’n derbyn gofal a chymorth i ddweud a chyflawni’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw
- parchu urddas, preifatrwydd, dewisiadau, diwylliant, iaith, hawliau, credoau, barn a dymuniadau eraill
- cefnogi unigolion i aros yn ddiogel
- bod yn onest, dibynadwy a rhywun y gall pobl ymddiried ynddyn nhw
- bod yn gymwys i wneud eu gwaith yn iawn ac i safon benodol.
Os darparwch wasanaeth sy’n cael ei reoleiddio, mae’r rheoliadau’n disgwyl i chi hyrwyddo diwylliant agored, gonest a didwyll ar bob lefel.
Mae hefyd yn bwysig i ni gydnabod nad yw rhai o’r bobl y rhown ofal a chymorth iddyn nhw efallai’n rhannu’r un gwerthoedd.
Sut y mae gwerthoedd ac ymddygiad cadarnhaol yn arwain at ddiwylliant cadarnhaol?
Gall rhannu’r un gwerthoedd cadarnhaol arwain at ddiwylliant cadarnhaol oherwydd eu bod yn:
- hyrwyddo parch ac urddas – ein hannog i roi ein hunain yn esgidiau rhywun arall a meddwl sut fydd ein gweithredoedd yn effeithio ar eraill
- annog ymddiried a bod yn dryloyw – drwy fod â gwerthoedd sy’n blaenoriaethu bod yn onest ac agored wrth gyfathrebu, gallwn ddeall beth y mae pobl eraill ei angen neu’n ei ddisgwyl, ac egluro ein hanghenion neu ddisgwyliadau ein hunain
- ein helpu i greu perthnasoedd cydweithredol – gyda ffocws ar waith tîm a gweithio gyda’n gilydd, gallwn gynnwys persbectif pobl eraill a gwneud y gweithle’n fwy cynhwysol
- ein helpu i wella’n barhaus – pan fyddwn i gyd yn gweithio i’r un gwerthoedd, gallwn rannu gweledigaeth o beth yw ‘da’, a beth sy’n bwysig i ni a’r bobl y gweithiwn gyda nhw
- hyrwyddo atebolrwydd a ffyrdd moesegol o weithio – drwy rannu’r un gwerthoedd, byddwn yn dal ein gilydd i safonau tebyg gan roi ‘gofod’ diogel i ni ddweud pan fydd angen mwy o gymorth arnon ni.
Ble i gael gwybod mwy
Dyma rai dolenni at wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i weithio ar werthoedd eich sefydliad a chefnogi eraill i’w cynnal.
Efallai na fydd rhai o'r dolenni hyn ar gael yn ddwyieithog neu mewn fformat hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am gynnwys a gynhyrchir gan sefydliadau eraill.
Fframwaith ymddygiad a gwerthoedd enghreifftiol – Skills for Care
Mae’r fframwaith hwn yn disgrifio’r mathau o ymddygiad a gwerthoedd sy’n ein helpu i roi gofal a chymorth o ansawdd da, effeithiol ac wedi’i bersonoli i oedolion.
Recriwtio ar sail gwerthoedd – Skills for Care
Mae recriwtio ar sail gwerthoedd yn ddull tystiolaeth o weithio. Gall y pecyn hwn helpu sefydliadau a chyflogwyr unigol i ddeall gwerthoedd, ymddygiad ac agweddau ymgeisydd ac asesu ydyn nhw’n cyd-fynd â gwerthoedd, diwylliant a disgwyliadau’r gweithle.
Crynodeb tystiolaeth: denu a recriwtio – Y Grŵp Gwybodaeth
Mae’r crynodeb tystiolaeth yma’n tynnu sylw at ymchwil berthnasol a diweddar i ddenu a recriwtio mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n trafod yr heriau wrth recriwtio a sut i fynd i’r afael â nhw.