
2. Ynglŷn â diwylliannau cadarnhaol
Dyddiad diweddaru diwethaf: 9 Meh 2025
Beth y mae diwylliant cadarnhaol yn edrych fel?
Dywedodd bobl wrthon ni mai diwylliant cadarnhaol yw un lle y mae:
- pawb yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn eu clywed, a’u bod o werth
- sefydliadau’n cydnabod, derbyn a pharchu gwahaniaeth ac amrywiaeth
- arweinwyr a rheolwyr yn canolbwyntio ar recriwtio, meithrin, herio a chefnogi’r ymddygiad a’r gwerthoedd y maen nhw eisiau eu gweld
- sefydliadau cenedlaethol a lleol yn gweithio gyda’i gilydd a chefnogi ei gilydd i ddeall beth sy’n bwysig i bobl a’u cymunedau
- arweinwyr a rheolwyr, ar bob lefel, yn deall pam ei bod yn bwysig bod gan eu sefydliad
ddiwylliant cadarnhaol - sefydliadau cenedlaethol a lleol yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo hawliau pobl
- y sefydliad a’i holl systemau a phrosesau’n cefnogi staff i wneud beth sy’n bwysig i bobl
- sefydliadau sy’n dylunio a darparu gwasanaethau’n cynnwys y bobl sy’n derbyn y gofal a’r
cymorth yn y prosesau hyn - sefydliadau yn edrych tuag allan, yn gynhwysol ac yn creu partneriaethau gweithio gyda’u
cymunedau i gefnogi canlyniadau llesiant pobl.
Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod gofal cymdeithasol yn wrth-wahaniaethol a gwrth-hiliol. Dylai pawb hefyd gydnabod bod gwrth-wahaniaethu’n cyd-fynd â gofal da.
Mae diwylliant cadarnhaol yn gynhwysol, teg a chyfartal gan hyrwyddo a gwerthfawrogi amrywiaeth yn rhagweithiol.
Mae sefydliadau gofal cymdeithasol yn tyfu a ffynnu drwy gydnabod bod amrywiaeth yn fuddiol i’w gweithle.
Gallwn ddweud llawer am ddiwylliant sefydliad drwy edrych ar:
- sut y mae’r sefydliad yn trin y bobl a’r cymunedau sy’n derbyn gofal neu gymorth
- sut y mae’r sefydliad yn gwneud ei waith
- beth y mae pobl yn ei ddweud am eu gofal a chymorth
- sut y mae staff yn teimlo am weithio yno
- beth y mae pobl eraill yn ei feddwl a’i ddweud am y sefydliad
- sut y mae’n derbyn ac ymateb i gwynion ac adborth.
Mae’r pethau hyn fel arfer yn cael eu heffeithio gan:
- y bobl sy’n arwain a thywys eraill (gan gynnwys rheolwyr ac arweinwyr tîm neu gymunedol),
a’u dull o arwain - gwerthoedd, egwyddorion a pholisïau’r sefydliad a sut y mae’n eu gweithredu
- gwerthoedd ac ymddygiad tîm.
Pam fod diwylliant cadarnhaol yn bwysig?
Gall datblygu diwylliant cadarnhaol helpu i wella ansawdd y gofal a roddwch i bobl. Gall diwylliant
cadarnhaol:
- helpu pobl i gyflawni’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw
- gwella llesiant pobl
- helpu staff i deimlo’n hapusach yn y gwaith a bod eisiau aros yno
- gwneud sefydliad yn lle deniadol i weithio iddo
- cryfhau cyfathrebu, cydweithrediad a chefnogi gwahanol ffyrdd o weithio
- helpu staff i deimlo bod ganddyn nhw gefnogaeth ac yn gallu gwneud eu gwaith gorau pan fydd pethau’n anodd
- helpu i wella gwasanaethau drwy ddysgu gan, a gweithio gyda, sefydliadau eraill, partneriaid a’r bobl a gefnogwch
- eich helpu i fod yn glir am eich pwrpas a beth sydd angen i chi ganolbwyntio arno.