
Egwyddor 2: mae gan ddiwylliannau cadarnhaol arweinwyr tosturiol
Dyddiad diweddaru diwethaf: 9 Meh 2025
Gwrandewch ar Fôn yn siarad am arweinwyr tosturiol mewn diwylliant cadarnhaol.
Mae arweinwyr sefydliad a’u dull o arwain yn cael effaith anferth ar ddiwylliant gweithle.
Beth yw arweinyddiaeth dosturiol?
Mae arweinyddiaeth dosturiol yn golygu ymrwymo i roi’r cymorth iawn i’n cydweithwyr, partneriaid a’r bobl yn ein timau. Mae’n eu helpu i ymateb yn effeithiol i heriau ac i ffynnu yn eu gwaith.
Mae’n rhan allweddol o’r strategaeth gweithle ar y cyd rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Cymru Iachach.
Mae ffocws y model ar bedwar ymddygiad:
- gwrando
- dealltwriaeth
- empathi
- helpu.
Mae ganddo hefyd saith egwyddor:
- cytuno ar gyfeiriad, cysondeb ac ymrwymiad i weithio gyda’n gilydd
- creu amgylchedd lle y mae arweinyddiaeth gyfunol yn ffynnu
- creu amodau fel bo’n gweithle’n gallu myfyrio, dysgu, gwella’n barhaus ac arloesi
- rheoli anawsterau’n agored, yn foesegol ac yn ddewr
- gweithio’n effeithiol a chefnogol o fewn a rhwng gwahanol dimau
- gwella cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth a dileu rhwystrau’n bwrpasol
- cynorthwyo systemau a diwylliannau diogel, cyfranogol a dibynadwy.
Rydyn ni wedi datblygu’r egwyddorion hyn gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Mae’r ffordd yma o weithio’n rhan hanfodol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Sut y mae arweinyddiaeth dosturiol yn arwain at ddiwylliant cadarnhaol?
Pan fyddwn yn arwain yn dosturiol, rydyn ni’n blaenoriaethu llesiant a datblygiad staff.
Mae hyn yn golygu bod y bobl a arweiniwn yn gweithio mewn diwylliant cynhwysol, effeithiol a phositif. Mae angen diwylliant cefnogol, cyfarwyddyd clir ac anogaeth ar staff, ynghyd ag ymrwymiad i ddeialog agored.
Mae arwain gyda thosturi’n rhoi’r cyfarwyddyd ac anogaeth yma iddyn nhw. Mae’n helpu timau i deimlo eu bod o werth ac yn cael parch, er mwyn gallu gwneud eu gwaith gorau.
Mae angen i arweinwyr tosturiol fod yn wydn a dewr ac maen nhw wedyn yn gallu rhoi hyder i’w timau.
Mae’r hyder yma’n golygu y gall timau:
- weithio gyda’i gilydd tuag at amcanion cyffredin
- dysgu o gamgymeriadau yn y gwaith
- teimlo bod ganddyn nhw gymhelliad i wneud job dda
- teimlo’n ddiogel a hyderus i gael trafodaethau agored er mwyn gallu mynegi eu teimladau, barn a syniadau heb ddal yn ôl
- teimlo’n gyffyrddus yn codi pryderon a gwneud awgrymiadau er mwyn gwella pethau
- cadw eu staff am hirach oherwydd eu bod yn hapusach
- bod yn dosturiol tuag at bobl eraill.
Drwy wneud hyn, gallwn gefnogi pobl i fyw eu bywyd gorau drwy ofal a chymorth gwell.
Ble i gael gwybod mwy
Dyma rai dolenni at wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i ddeall mwy am arweinyddiaeth dosturiol a sut y gallwch arwain gyda thosturi.
Efallai na fydd rhai o'r dolenni hyn ar gael yn ddwyieithog neu mewn fformat hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am gynnwys a gynhyrchir gan sefydliadau eraill.
Egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol a sut i'w defnyddio – Gofal Cymdeithasol Cymru
Yn egluro beth yw’r egwyddorion a sut i arwain yn dosturiol.
Pecyn diwylliant cadarnhaol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion – Skills for Care
Pecyn i’ch helpu i wneud diwylliant eich gweithle’n amgylchedd cadarnhaol, tosturiol, cydweithredol a chynhwysol lle y mae pobl yn derbyn gofal a chymorth o ansawdd uchel.